Wyt ti’n fy ngweld i?
Ydyn ni’n sylwi ar yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas ni?
gan Guy Donegan-Cross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Pwysleisio nad yw Duw byth yn colli ei olwg arnom ni.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod gennych chi glip byr o ffilm blant boblogaidd, a'r modd o ddangos y clip yn ystod y gwasanaeth. Fe fydd angen i chi hefyd baratoi rhai cwestiynau ynghylch rhai o’r manylion yn y clip ffilm.
Neu, fe allech chi baratoi rhestr o gwestiynau am wrthrychau neu luniau sydd ar y waliau o gwmpas ond sydd allan o ystod golwg y plant ar y pryd, neu gwestiynau am bethau y gallen nhw fod wedi sylwi arnyn nhw wrth ddod i'r ysgol. Y nod yw cynnal rhywfaint o weithgaredd sy'n herio’r plant ynghylch pa mor dda ydyn nhw am sylwi ar bethau.
Ymgyfarwyddwch â stori Sacheus sydd i’w chael yn Efengyl Luc 19.1–10. Efallai yr hoffech chi ddarllen y stori o'r Beibl neu ei hail-adrodd yn eich geiriau eich hun. - Trefnwch fod gennych chi gannwyll a modd o’i goleuo ar gyfer y rhan 'Amser i feddwl’ yn y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Dangoswch glip byr o ffilm boblogaidd ar gyfer plant ac sy’n gyfarwydd i’ch cynulleidfa.
Gofynnwch gwestiynau a fydd yn profi pa mor dda y gwnaeth y plant arsylwi.
Fel arall, os nad ydych chi’n dangos clip o ffilm, gofynnwch gwestiynau a fydd yn profi pa mor sylwgar yw'r plant yn gyffredinol, fel yr enghreifftiau canlynol.
- Pwy oedd y person diwethaf i gerdded i mewn i'r ystafell hon heddiw?
- Pwy oedd yn gwisgo het goch y bore yma?
- Pwy oedd â rhuban glas yn ei gwallt? - Gofynnwch i’r plant pa fath o swyddi y mae’n ofynnol cael pobl sy’n rhai da am sylwi ar bethau er mwyn gwneud y swydd honno’n effeithiol? Pwy sy’n gorfod bod yn graff wrth eu gwaith? Er enghraifft, aelodau o’r heddlu (ditectif), newyddiadurwyr, ac arlunwyr.
- Gofynnwch y cwestiynau canlynol.
- Pam ei bod hi’n bwysig sylwi ar bobl?
- Pa fath o deimlad yw cael eich anwybyddu?
Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant. - Darllenwch stori Sacheus o’r Beibl, Luc 19, neu ei hail-adrodd yn eich geiriau eich hun. Pwysleisiwch y prif bwynt yn y stori, sef bod Iesu wedi sylwi ar Sacheus pan oedd neb arall wedi gwneud hynny. Roedd hynny wedi gwneud i Sacheus deimlo’n bwysig.
- Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid. Mae’r Beibl yn dweud: ‘Nid yw’r tywyllwch yn dywyll i Dduw. Mae Duw yn fy ngweld mewn mannau dirgel hyd yn oed’ (aralleiriad o ran o Salm 139). Pan fyddwn ni’n teimlo’n unig, mae Duw yn sylwi arnom ni. Pan fyddwn ni’n flinedig, mae Duw yn sylwi arnom ni. Pan fyddwn ni’n credu ein bod yn anweledig, mae Duw yn sylwi arnom ni. Nid yw byth yn peidio â sylwi arnom ni.
Amser i feddwl
Goleuwch gannwyll.
Ailadroddwch y geiriau o bwynt 5 y 'Gwasanaeth': 'Nid yw'r tywyllwch yn dywyll i Dduw. Mae Duw yn fy ngweld mewn mannau dirgel hyd yn oed.' Pan fyddwn ni’n teimlo’n unig, mae Duw yn sylwi arnom ni. Pan fyddwn ni’n flinedig, mae Duw yn sylwi arnom ni. Pan fyddwn ni’n credu ein bod yn anweledig, mae Duw yn sylwi arnom ni. Nid yw byth yn peidio â sylwi arnom ni.
Oedwch i roi cyfle i’r plant feddwl am y geiriau hyn.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n sylwi arnom ni bob amser.
Rho i ni lygaid i weld y bobl hynny sy’n teimlo’n unig, a helpa ni i sylwi arnyn nhw.
Helpa ni i fod yn bobl sydd bob amser yn gwneud i bobl eraill deimlo bod rhywun eu heisiau, ac i fod yn ofalgar tuag atyn nhw.
Amen.