Spring Is Coming Soon!
Meddwl am ddechrau’r gwanwyn a rhyfeddod y gwahanol dymhorau.
gan Rebecca Parkinson (revised, originally published in 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am ddechrau’r gwanwyn a rhyfeddod y gwahanol dymhorau.
Paratoad a Deunyddiau
- Darluniau o’r gwanwyn:
http://img.dailymail.co.uk/i/pix/2008/02_01/springAUSTIN0702_468x594.jpg
http://lydonthejar.files.wordpress.com/2009/03/spring.jpg
http://wilstar.com/wallpaper/spring6.jpg
http://www.lochnesswelcome.com/loch-ness-blog/uploaded_images/lambs5-771126.jpg (gwiriwch yr hawlfraint) - Os nad yw’r lluniau uchod ar gael, yna dangoswch bethau fel a ganlyn i’r plant: cennin Pedr, tiwlip, llun oen bach, neu unrhyw bethau neu luniau eraill sy’n darlunio’r gwanwyn.
Gwasanaeth
- Dangoswch y lluniau neu’r pethau sydd gennych chi, a holwch y plant beth sy’n cysylltu’r rhain. Yr ateb yw eu bod i gyd yn dangos bod y gwanwyn wedi cyrraedd.
- Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod pa bryd mae hi’n swyddogol yn wanwyn.
Does dim ateb hollol gywir i’r cwestiwn yma, gan fod gwleidyddion, pobl rhagolygon y tywydd, gwyddonwyr a haneswyr yn anghydweld ynghylch yr ateb! - Mae llawer o bobl yn meddwl am y diwrnod cyntaf o fis Mawrth fel diwrnod cyntaf y gwanwyn. Maen nhw’n dweud mai misoedd Rhagfyr, Ionawr a Chwefror yw misoedd y gaeaf; Mawrth, Ebrill a Mai yw misoedd y gwanwyn; Mehefin, Gorffennaf ac Awst yw misoedd yr haf; a Medi, Hydref a Thachwedd yw misoedd yr hydref. Felly, mae hynny’n awgrymu mai’r 1af o Fawrth yw diwrnod cyntaf y gwanwyn.
- Fe fydd rhai pobl eraill yn dadlau mai 21 Mawrth yw diwrnod cyntaf y gwanwyn. Dyma’r dydd y maen nhw’n cyfeirio ato fel ‘cyhydnos y gwanwyn’ (vernal equinox). Ystyr y gair ‘vernal’ yw gwanwynol, ac mae’n dod o’r gair Lladin am flodeuo, ac mae’n cyfeirio at y ffaith mai cyhydnos y gwanwyn yw hwn ar 21 Mawrth yn hytrach na chyhydnos yr hydref. Mae’r cyhydnos yn digwydd ddwy waith y flwyddyn, ac mae’n cyfeirio at yr amser pan fydd echel y Ddaear ddim yn gwyro tuag at yr haul nac oddi wrtho. Bryd hynny, fe fydd y dydd a’r nos yr un hyd.
- Er bod rhai’n dadlau am union ddechrau a diwedd y tymhorau, mae un peth yn sicr: flwyddyn ar ôl blwyddyn mae’r tymhorau’n mynd ac yn dod. Hyd yn oed pan fydd patrwm y tywydd yn newid, mae’r tymhorau’n parhau o hyd. Mae’r dyddiau’n mynd yn hirach ac yn gynhesach: fe fydd y cennin Pedr yn dod i’r golwg ac yn bywiogi’r amgylchedd llwydaidd; fe welwn ni wyn bach yn prancio yn y caeau. Fe fyddwn ni’n gwybod y bydd y gwanwyn yn troi’n haf ryw dro, a bydd yr hydref a’r gaeaf yn sicr o ddilyn wedyn.
- Hyd yn oed ar ddechrau’r Beibl, mae sôn am dymhorau’r flwyddyn. Yn Genesis 8.22 mae’n dweud:
‘Tra pery’r ddaear, ni pheidia pryd hau [gwanwyn] a medi [hydref], oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos.’
Mae Duw’n addo rhoi’r tymhorau i ni bob amser.
Amser i feddwl
Pa un yw eich hoff dymor: y gwanwyn gyda’r holl fywyd newydd ddaw bryd hynny? Yr haf gyda’i ddyddiau hir braf, pryd y gallwn ni chwarae allan a mynd ar ein gwyliau? Yr hydref gyda’i liwiau hyfryd ar ddail y coed, a chrensian y dail crin wrth i chi gerdded trwyddyn nhw wedi iddyn nhw ddisgyn? Neu’r gaeaf pan fydd y dydd yn byrhau a phan fydd cyffro’r Nadolig o’ch cwmpas ym mhob man? Efallai eich bod yn hoffi pob tymor gyda’r amrywiaeth sy’n dod gyda phob un. Diolchwn i Dduw am yr harddwch ac am yr amrywiaeth sydd yn ein byd.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am harddwch ein byd.
Diolch i ti am y newidiadau a welwn ni’n digwydd o’n cwmpas trwy’r amser.
Diolch i ti ein bod ni’n gallu gweld y blagur a’r blodau’n dod i’r golwg ar y coed a’r planhigion.
Helpa ni i gadw ein llygaid ar agor fel y gallwn ni sylwi ar y pethau hyn yn y byd o’n cwmpas,
a helpa ni i beidio â chymryd y pethau hardd yn ganiataol.