Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Cariad Yn Gryfach Na Marwolaeth

Ailddweud stori Lasarus a meddwl am fod yn gryf a phositif ar adegau anodd.

gan The Revd Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ailddweud stori Lasarus a meddwl am fod yn gryf a phositif ar adegau anodd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dau rolyn o bapur toiled.

    Nodwch: Os oes unrhyw un fydd yn y gwasanaeth wedi cael profedigaeth yn ddiweddar, fe fyddai’n well egluro iddo neu iddi beth yw’r cynnwys, ac ystyried a yw’n briodol iddyn nhw fod yn bresennol yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Trefnwch ddau dîm gyda nifer o blant ymhob tîm. Rhowch ychydig o funudau iddyn nhw lapio un plentyn o bob tîm, mor gyflym ag y gallan nhw, â’r papur toiled. Chwaraewch gerddoriaeth tra maen nhw wrthi, ac efallai y gallech chi roi gwobr fach i’r ddau dîm wedi iddyn nhw orffen.

  2. Gofynnwch i’r plant sydd wedi’u lapio aros lle maen nhw. Fel rydych chi’n dweud y stori sy’n dilyn datodwch y papur yn araf oddi am y ddau blentyn. 
    Dywedwch fod gweld y plant wedi’u lapio yn eich atgoffa o stori am un o ffrindiau Iesu. Roedd gan Iesu ffrind o’r enw Lasarus. Fe fyddai Iesu’n arfer mynd at Lasarus ac aros yn ei dy. Adroddwch stori Lasarus yn atgyfodi yn eich geiriau eich hun (Ioan 11.1–43), gan bwysleisio’r tri pheth yma: 
    Cyfeillgarwch Iesu â Lasarus, Martha, a Mair. 
    Galar Iesu wedi i Lasarus farw. 
    Syndod pawb pan welson nhw Lasarus wedyn.

  3. Dywedwch fod Cristnogion yn credu fod gan Iesu allu dros bopeth sy’n ein dychryn, hyd yn oed marwolaeth. Mae Cristnogion yn credu eu bod, oherwydd Iesu Grist, yn byw ar ôl marw. Does dim byd i’w ofni.

  4. Dewisol : Os oes amser gennych chi, a bod hyn yn briodol, fe allech chi ddweud y stori yma ar ôl adrodd stori Lasarus:

    Roedd gwraig wael iawn wedi clywed ei bod yn debygol o farw o’i hafiechyd. Doedd ganddi ddim ond ychydig wythnosau i fyw. Felly roedd hi’n ceisio bod yn ddewr iawn ac roedd hi’n awyddus i drefnu popeth oedd angen ei wneud cyn y diwedd. Fe gysylltodd â’i gweinidog a gofyn iddo ddod i’w thy i drafod y trefniadau ar gyfer y gwasanaeth claddu. Dywedodd wrtho pa emynau yr hoffai hi i’r bobl eu canu yn y gwasanaeth, pa adnodau o’r Beibl y dymunai hi i rywun eu darllen, a phethau felly. Fe ddywedodd hefyd yr hoffai hi i’w Beibl gael ei gladdu gyda hi. 
    Ar ôl sgwrsio ychydig yn rhagor a gweld fod popeth wedi’i drefnu, roedd y gweinidog yn barod i fynd. Ond cofiodd y wraig am rywbeth arall.
    ‘Mae yna un peth bach arall yr hoffwn i hefyd,’ meddai. 
    ‘Iawn,’ meddai’r gweinidog, ‘beth yw hwnnw?’ 
    ‘Peidiwch â chwerthin, na wnewch, ond fe hoffwn i gael fy nghladdu â llwy yn fy llaw dde!’ 
    Safodd y gweinidog a nodio’i ben yn garedig, ond heb wybod yn iawn pam roedd y wraig yn dymuno hyn. 
    ‘Rwy’n siwr na chlywsoch chi neb yn gofyn hynny o’r blaen,’ meddai’r wraig. 
    ‘Wel na,’ meddai yntau, ‘mae gwahanol bobl yn dymuno gwahanol bethau weithiau, ond dywedwch wrtha i, pam rydych chi’n dymuno cael eich claddu â llwy yn eich llaw?’ 
    Eglurodd y wraig. Ers talwm pan fydden ni’n cael pryd o fwyd yn yr eglwys ar ôl gwasanaeth arbennig neu i ddathlu achlysur arbennig, rydw i’n cofio fel byddai’r rhai oedd yn helpu yn dod o gwmpas i glirio’r platiau ar ôl i ni orffen y prif gwrs, ac fe fydden nhw’n dweud wrthon ni am ddal ein gafael ar y llwy. ‘Cadwch eich llwy,’ fydden nhw’n ei ddweud wrthym ni, ‘i chi gael rhywbeth neis i bwdin.’ Dyna oedd y rhan orau gen i, oherwydd roeddwn i’n gwybod fod rhywbeth gwell eto i ddod, rhywbeth yr oeddwn i’n mynd i’w fwynhau yn fawr, ac roeddem ni i gyd yn edrych ymlaen. Felly pan fydd pobl yn clywed am fy nymuniad olaf i, fe fyddan nhw’n gwybod fy mod i’n edrych ymlaen at gael rhywbeth da i ddilyn, a ‘mod i’n cadw fy llwy ar gyfer y rhywbeth da sydd i ddod.'

    Llanwodd llygaid y gweinidog â dagrau a gafaelodd yn dynn yn llaw y wraig. Fe wyddai fod hwn yn un o’r troeon olaf y gwelai’r wraig yn fyw, ond roedd yn gwybod hefyd fod ganddi ffydd a’i bod yn wraig ddewr iawn.

  5. Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid a meddwl am rywrai y gwyddon nhw amdanyn nhw sy’n teimlo’n drist ar y pryd, naill ai oherwydd eu bod yn galaru am rywun, neu am unrhyw reswm arall. Gofynnwch iddyn nhw os hoffen nhw weddïo dros y bobl hynny yn eu geiriau eu hunain, neu’n dawel yn eu meddwl, ac wrth wneud hynny fe allan nhw gofio bod Iesu yn gryfach na marwolaeth.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Beth bynnag sydd o’m blaen, 
Waeth pa mor anodd yw hi, 
Waeth pa mor ofnus ydw i, 
Rwy’n dal i gredu 
Y bydd popeth yn iawn.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Iesu, 
Diolch dy fod ti yn gryfach nag unrhyw beth y mae’n rhaid i ni ei wynebu. 
Helpa ni i fod â ffydd ynot ti. 
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2005    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon