Cymariaethau
Ein gwneud yn ymwybodol o’r gwahaniaethau sydd rhwng ein bywydau ni a bywydau rhai yn y gwledydd sy'n datblygu, a diolch am y pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol.
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ein gwneud yn ymwybodol o’r gwahaniaethau sydd rhwng ein bywydau ni a bywydau rhai yn y gwledydd sy'n datblygu, a diolch am y pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’r gwasanaeth yma wedi’i gynllunio fel cyflwyniad dosbarth. Mae’n bosib ei gyflwyno i’r ysgol gyfan, ond efallai mai cyflwyniad gan ddisgyblion CA2 fyddai orau.
- Darllenwch trwy’r deunydd a phenderfynwch sut rydych chi’n mynd i rannu’r darnau ymysg eich llefarwyr. Gallwch argraffu’r llinellau ar gardiau. Rhannwch y dosbarth yn ddau grwp a’u gosod i wynebu’r gynulleidfa, gyda’r ‘Rhai sydd â phethau ganddyn nhw’ ar un ochr, a’r ‘Rhai sydd heb ddim’ ar yr ochr arall.
- Fe allai pawb lefaru’r gerdd gyda’i gilydd ar y diwedd. Fe fyddai OHP yn ddefnyddiol bryd hynny er mwyn i bawb gael dilyn y geiriau.
- Mae’n bosib cysylltu’r deunydd yma â phrosiect neu elusen sy’n ymwneud â’r byd sy’n datblygu. Ac mae’n hawdd iawn ei ymestyn i gynnwys storïau ac unrhyw ddarnau eraill o wybodaeth y mae’r plant wedi bod yn ymchwilio iddyn nhw.
Gwasanaeth
Llefarydd 1: Heddiw, rydyn ni’n mynd i feddwl am blant yng ngwledydd tlotaf y byd, a chymharu ein bywydau ni â’u bywydau nhw. Rydw i’n byw mewn ty cynnes neis, wedi ei adeiladu o frics a phren a llechi.
Llefarydd 2: Cwt wedi’i wneud o frigau a mwd yw fy nghartref i.
Llefarydd 3: Rydw i’n ddiogel yn fy nghartref i, gyda phobl yn gofalu amdanaf.
Llefarydd 4: Fe ddaeth milwyr a llosgi fy nghartref i. Roedd wedi llosgi’n llwyr, i’r llawr. Fe fu’n rhaid i ni adeiladu cartref arall.
Llefarydd 5: Mae digon o fwyd gen i, i’w fwyta bob dydd, ac rydw i’n cael melysion a siocledi weithiau hefyd.
Llefarydd 6: Ambell ddiwrnod, does dim digon o fwyd i ni. Rydw i’n lwcus os ydw i’n cael un pryd o fwyd bob dydd.
Llefarydd 7: Rydw i’n cael dwr i’w yfed o’r tap yn y ty. Ac rydw i’n gallu cael bath neu gawod unrhyw bryd y mynnaf.
Llefarydd 8: Rydw i’n gorfod cerdded ymhell i nôl dwr o’r afon. Rhaid i ni ferwi’r dwr i wneud yn siwr ei fod yn ddiogel i’w yfed. Yn yr afon rydyn ni’n ymolchi hefyd.
Llefarydd 9: Mae gen i ddillad neis i’w gwisgo.
Llefarydd 10: Dim ond un set o ddillad sydd gen i i’w gwisgo, a does gen i ddim esgidiau o gwbl.
Llefarydd 11: Rydw i’n mynd i’r ysgol bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener er mwyn i mi gael dysgu darllen, ysgrifennu a gwneud mathemateg.
Llefarydd 12: Rydw i’n mynd i’r ysgol pan rwy’n gallu, ond dydi hynny ddim bob dydd. Dydw i ddim yn gallu darllen ac ysgrifennu eto, ond rydw i’n awyddus iawn i ddysgu.
Llefarydd 13: Rydw i’n mynd i’r ysgol mewn car mawr.
Llefarydd 14: Rhaid i mi gerdded deg milltir pan fydda i’n mynd i’r ysgol.
Llefarydd 15: Mae gen i gyfrifiadur a llawer iawn o deganau i chwarae â nhw.
Llefarydd 16: Mae gen i un tegan pren y mae fy nhad ei wneud i mi. Dydw i ddim yn cael llawer o amser i chwarae â’r tegan hwnnw am fod cymaint o bethau eraill y mae’n rhaid i mi eu gwneud i helpu fy nheulu.
Llefarydd 17: Pan fyddwn ni eisiau prynu bwyd neu rywbeth arall, fe fyddwn ni’n mynd i’r siop.
Llefarydd 18: Does dim siopau yma. Rhaid i ni geisio tyfu beth bynnag fedrwn ni er mwyn cael rhywbeth i’w fwyta. Weithiau mae lori fawr yn cyrraedd ein pentref ac mae’n dod â dillad a rhywfaint o fwyd i ni oddi wrth bobl garedig, fel chi, sy’n awyddus i’n helpu ni.
Llefarydd 19: Pan fydda i’n sâl rydw i’n cael mynd i’r feddygfa i weld y doctor, a chael moddion neu ffisig yno sy’n gwneud i mi deimlo’n well yn fuan.
Llefarydd 20: Os bydda i’n sâl rhaid i mi ddisgwyl nes bydd y doctor yn dod i’r pentref. Efallai mai dim ond unwaith y mis y bydd y doctor yn dod i’n pentref ni. Os yw’r amser yn caniatáu, fe allech chi gynnal trafodaeth sy’n cael ei harwain gan yr athro neu’r athrawes yma.
Cymariaethau
gan Jan Edmunds
(addasiad o gerdd ar gyfer ei chydadrodd)
Mae cymaint o wahaniaeth ym mywydau pobl gwledydd y byd,
ac eto, pobl a phlant ydyn ni i gyd.
Ond pam mae bywyd mor galed i rai?
A phwy mewn gwirionedd sydd ar fai?
Rydyn ni i gyd angen bwyd i’n cadw rhag newynu,
a rhaid cael cysgod i’n cadw rhag rhynnu.
I rai, mae bywyd yn hawdd,
I eraill, mae’n anodd iawn
Mae rhai heb fawr ddim, tra bod eraill a’u bywydau’n llawn.
Felly, gadewch i ni feddwl heddiw am y bobl hynny,
A cheisio meddwl sut y gallwn ni eu helpu.
Fe allech chi ddilyn hyn trwy dderbyn awgrymiadau gan y disgyblion am sut y gallech chi helpu, trwy godi arian, a rhoi cyfraniadau at elusennau. Hefyd trwy ddatblygu dealltwriaeth, yn enwedig am sut mae’n bosib i gymunedau sy’n wynebu anawsterau newid pethau er gwell iddyn nhw’u hunain.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Gadewch i ni feddwl heddiw am y bobl sy’n byw mewn gwledydd lle nad oes digon o fwyd,
lle mae rhyfel a chreulondeb, a lle mae llawer o bobl yn byw mewn ofn.
Gobeithio y daw heddwch yn fuan i’r rhannau hynny o’r byd,
ac y bydd pobl yn gallu byw gyda’i gilydd, ryw ddydd, heb ymladd a rhyfela.
Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am ein bywydau braf, ac am yr holl bethau rydyn ni wedi bod yn eu cymryd yn ganiataol.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n gweddïo am fyd sy’n fwy teg drwyddo draw
ac rydyn ni’n gofyn i ti ein helpu ni wneud ein rhan i wneud hynny’n bosib.
Amen.