Canol Meddal
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am ein hagwedd tuag at eraill, a sut rydyn ni weithiau’n gallu bod yn ‘galon galed’.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen casgliad o amrywiaeth o eitemau sy’n helpu i wneud rhywbeth yn llyfn neu’n esmwyth, fel cyflyrydd ffabrig, hufen i’w roi ar y croen, hylifau i’w rhoi yn nwr y bath, etc.
- Carreg galed.
- Modrwy ddiemwnt (un go iawn neu un ffug!).
- Darn o Blu-Tack.
- Paratowch y stori fel mae’n cael ei hadrodd yma, neu fersiwn o lyfr storïau neu Feibl ar gyfer plant.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r plant sylwi ar yr eitemau sydd gennych chi i’w harddangos. Beth sy’n gyffredin rhwng y rhain? Maen nhw i gyd yn cael eu defnyddio i wneud rhywbeth yn llyfn neu’n feddal neu esmwyth. Trafodwch yr effaith y mae pob meddalydd yn ei gael, a gofynnwch i’r plant godi eu dwylo os ydyn nhw’n defnyddio unrhyw rai o’r pethau yma gartref. Ydyn nhw’n gallu meddwl am unrhyw beth arall sy’n gallu meddalu pethau?
- Dangoswch y garreg i’r plant, a gofynnwch iddyn nhw pa rai o’r eitemau sydd gennych chi fyddai’n gallu meddalu’r garreg. Dim un, mae’n amlwg – ond byddwch yn barod i dderbyn ateb fel erydiad, dros amser hir, os oes plentyn yn sôn am hynny!
- Dangoswch y fodrwy ddiemwnt. Diemwnt yw’r garreg galetaf sy’n bod. Eglurwch fod diemwntau yn cael eu defnyddio ar lwyfannau olew Môr y Gogledd i wneud blaen y driliau mawr sydd ganddyn nhw yno i ddrilio’r graig i dyllu am yr olew. Fel rheol, fe fyddwn ni’n meddwl am ddiemwntau fel pethau ‘gwerthfawr’ cyn y byddwn ni’n meddwl amdanyn nhw fel pethau ‘caled'.
- Trafodwch y ddelwedd neu’r syniad y gallwn ni fod â chalon sy’n galed fel carreg, neu sy’n feddal fel y darn Blu-Tack sydd gennych chi. Fe allech chi roi enghreifftiau o achosion o fod yn galon galed, e.e. pan fyddwn ni’n gwrthod gwrando ar bobl eraill, neu’n gwrthod gadael i rywun chwarae â ni.
- Cyflwynwch stori Sacheus o Luc 19.2–10, neu adroddwch y fersiwn o’r stori sydd yma, gan ddweud ei bod am ddyn y gwnaeth Iesu ei gyfarfod, ond bryd hynny roedd gan y dyn hwnnw galon ‘galed’ iawn.
Stori Sacheus
gan Janice Ross (addasiad)
Roedd Sacheus wedi bod yn gymeriad unig erioed. Doedd ganddo ddim un ffrind. Doedd hynny ddim yn beth rhyfedd, mewn gwirionedd. Beth fyddech chi’n ei ddisgwyl? Roedd wedi byw y rhan fwyaf o’i oes fel twyllwr. Roedd twyllo’n hawdd iddo. Dim ond mynnu rhagor o arian gan bobl. Dyna oedd yn dda, yn ei olwg, am fod yn gasglwr trethi. Roedd ar y bobl rywfaint o ofn y casglwyr trethi. I’r llywodraeth yr oedd y casglwyr trethi yn gweithio, ac roedd ganddyn nhw dipyn o ddylanwad a grym. Na, fyddech chi ddim yn tynnu’n groes i gasglwr trethi ar chwarae bach, yn enwedig un fel Sacheus.
Dyn bach, byr oedd Sacheus. Efallai ei fod yn cael ei fwlio, a phobl yn chwerthin am ei ben. Fe wyddom nad yw hynny’n beth iawn i’w wneud, ond weithiau fe fydd pobl yn pigo ar rai sy’n edrych ychydig yn wahanol. Beth bynnag, does neb yn cael ei eni’n dwyllwr.
Neu efallai bod Sacheus yn teimlo’n unig ac yn drist, ac yn meddwl y gallai rhagor o arian ddod â hapusrwydd iddo, neu efallai ragor o ffrindiau. Neu, efallai mai hen gnaf oedd o, a dyna fo!
Un diwrnod roedd Sacheus allan ar y stryd yn Jericho. Clywodd rai o’r bobl yn sôn am Iesu. Roedden nhw’n llawn cyffro oherwydd bod y dyn yma, o’r enw Iesu, yn dod i’r dref y diwrnod hwnnw.
Roedd Sacheus wedi clywed pobl yn sôn am Iesu o’r blaen, ac roedd yn llawn chwilfrydedd. Fe ddilynodd Sacheus y dyrfa o bell, fel y byddech chi’n disgwyl iddo wneud, nes iddo sylweddoli na fyddai’n gallu gweld dim o gefn y fath dyrfa oedd wedi ymgasglu yn y dref i weld Iesu. Felly, fe wnaeth beth anghyffredin i ddyn o’i safle. Fe gododd odre’i wisg a brysio i du blaen y dyrfa. Yna, fe wnaeth rywbeth arall a achosodd syndod iddo’i hun, hyd yn oed. Fe ddringodd i ben coeden er mwyn gallu gweld yn well.
Oddi yno, roedd yn gallu gweld Iesu a’i ddilynwyr yn cyrraedd y dref. Ond doedd dim byd arbennig i’w weld. Roedd Iesu wedi’i wisgo fel unrhyw ddyn cyffredin arall. Roedd Sacheus wedi disgwyl gweld arweinydd pwysig yr olwg.
Erbyn hyn roedd Iesu yn union o dan y goeden yr Sacheus wedi dringo i’w phen, ac fe ddywedodd: ‘Sacheus, tyrd i lawr ar dy union; y mae’n rhaid i mi aros yn dy dy di heddiw.’
Dod i lawr! Bu bron i Sacheus ddisgyn o ben y goeden yn ei syndod! Sut mae Iesu’n gwybod fy enw i? meddyliodd. Ac mae eisiau dod adref efo fi?
Nid Sacheus oedd yr unig un oedd wedi synnu. Roedd yr holl bobl oedd wedi gweld hyn wedi synnu – pob un, a dechreuodd pawb sibrwd ymysg ei gilydd, a dweud pethau fel, ‘Mae’n mynd i aros yn nhy dyn drwg!’ Wel, pwy allai feio’r bobl am ysgwyd eu pennau? Wedi’r cyfan, roedd pawb yn y dref yn adnabod Sacheus ac y gwybod ei fod bob amser yn twyllo’r bobl, ac yn pocedu eu harian.
Doedd Sacheus yn malio dim beth oedd y bobl yn ei ddweud amdano, ac fe groesawodd Iesu i’w gartref yn llawen. Wyddom ni ddim beth oedd y sgwrs fu rhwng y ddau yn ei gartref, ond fe newidiodd rhywbeth yng nghalon Sacheus, ac yn ei fywyd wedyn. Dyma beth ddywedodd Sacheus wrth Iesu, .
‘Dyma hanner fy eiddo, syr, yn rhodd i’r tlodion; os mynnais arian ar gam gan neb, fe’i talaf yn ôl bedair gwaith.’
Yna, fe ddywedodd Iesu wrth Sacheus, ‘Heddiw, daeth iachawdwriaeth i’r ty hwn, oherwydd mab i Abraham yw’r gwr hwn yntau. Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.’
Tybed faint o ffrindiau ydych chi’n meddwl oedd gan Sacheus wedyn? - Trafodwch y stori gyda’r plant, gan bwysleisio’r pwyntiau canlynol. Roedd Sacheus yn ddyn a chanddo galon galed. Wyddon ni ddim pam, ond fe wyddai Iesu. Roedd Iesu’n credu hefyd bod rhywfaint o dda yn perthyn i Sacheus, pe bai rhywun ddim ond yn gallu ei berswadio i newid ei ffordd o fyw. Roedd Sacheus yn bwysig yng ngolwg Iesu, ac fe allodd cariad Iesu (neu ei gyfeillgarwch a’i ofal) dreiddio i mewn i’w galon galed.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Mewn moment o ddistawrwydd, gofynnwch i’r plant feddwl am stori Sacheus. Dyma’r dyn a newidiodd ei ffordd o fyw, ac wedi hynny nid oedd mor galon galed.
Oes rhywbeth y gallwn ni ei newid yn y ffordd yr ydyn ni’n ymwneud â phobl eraill?
Gweddi:
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n ein hadnabod ni, a dy fod ti’n gofalu amdanom ni.
Helpa ni i fod yn garedig ac yn hael wrth bobl eraill,
fel y bu Sacheus ar ôl iddo gwrdd â Iesu.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2007 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.