Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gonestrwydd

Ystyried pa mor bwysig yw bod yn onest wrth ddelio â phobl.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried pa mor bwysig yw bod yn onest wrth ddelio â phobl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Darllenwch stori temtio Adda ac Efa o Lyfr Genesis 2.15—3.14.

  • Fe fydd arnoch chi angen un afal braf – fe fyddai’r math Pink Lady yn un da i’w ddefnyddio.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod enwau’r bobl gyntaf y mae sôn amdanyn nhw yn y Beibl: Adda ac Efa. Dywedwch wrthyn nhw fod enwau pobl yn yr iaith Hebraeg (yr iaith yr ysgrifennwyd y stori ynddi) yn dweud rhywbeth am y bobl rheini, pwy ydyn nhw a sut bobl ydyn nhw. Mae’r enwau Adda ac Efa yn golygu ‘y bobl gyntaf erioed’.

  2. Dywedwch wrth y plant fod Duw yn y stori wedi gwneud gardd arbennig i Adda ac Efa fyw ynddi, ac fe wyddom ni o’r Beibl fod yr ardd honno wedi’i lleoli yn y rhan honno o’r byd lle mae Iran heddiw, y wlad agosaf at Irac yn y Dwyrain Canol.

    Eglurwch fod Adda ac Efa wedi cael caniatâd i fwyta unrhyw beth a hoffen nhw o’r ardd, ar wahân i ffrwyth y goeden oedd yn tyfu yng nghanol yr ardd, y goeden oedd yn cael ei galw’n ‘bren gwybodaeth da a drwg’. Beth mae’r plant yn ei feddwl yw ystyr yr enw hwnnw?

    Dywedwch y stori:

    Un diwrnod, pan oedd Adda ac Efa yn cerdded, un yma ac un acw, yn yr ardd, fe ddaeth sarff - neu neidr - at Efa, a gofyn iddi, oedd hi wedi cael caniatâd i fwyta unrhyw ffrwyth a hoffai o’r ardd? Atebodd Efa’r sarff gan ddweud ei bod wedi cael caniatâd i fwyta unrhyw ffrwyth ar wahân i ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd. Roedd Duw wedi dweud wrthyn nhw, pe bydden nhw’n bwyta ffrwyth y goeden honno, fe fydden nhw’n marw.

    ‘Na! Wnaiff hynny ddim digwydd,’ meddai’r sarff. ‘Y rheswm pam nad yw Duw eisiau ichi fwyta ffrwyth y goeden honno yw y byddech chi’n gwybod cymaint ag ef wedyn pe byddech chi’n bwyta’r ffrwyth hwnnw. Ac nid yw Duw eisiau i chi fod yn gwybod cymaint ag ef.  Pam na wnewch chi roi cynnig arni?  Wnewch chi ddim marw. Y cyfan fydd yn digwydd i chi yw y byddwch chi’n gwybod cymaint â Duw.’

    Felly, fe edrychodd Efa ar y goeden a gweld y ffrwyth (dangoswch eich afal). Roedd y ffrwyth yn edrych mor flasus! Felly, fe estynnodd Efa am y ffrwyth oddi ar y goeden a chymryd tamaid ohono. Wedi iddi wneud hynny, meddyliodd fod y sarff yn dweud y gwir. Doedd hi ddim wedi marw, ac roedd y ffrwyth yn neilltuol o hyfryd! Felly, fe aeth i chwilio am Adda, a dweud wrtho beth ddigwyddodd gan rhoi rhywfaint o’r ffrwyth iddo yntau i’w fwyta.

    Wedi i Adda fwyta’r ffrwyth, mae’r stori’n dweud wrthym ni fod y ddau wedyn wedi sylweddoli eu bod yn noeth, doedd ganddyn nhw ddim dillad amdanyn nhw! Felly, fe wnaethon nhw wisg fach fel gwisg nofio iddyn nhw’u hunain allan o ddail, ac fe aethon nhw i guddio rhag i Dduw eu gweld. Pam rydych chi’n meddwl eu bod wedi mynd i guddio? (Oherwydd eu bod yn gwybod eu bod wedi gwneud rhywbeth oedd ddim yn iawn.)

    Felly, pan ddaeth Duw i’r ardd y noson honno i weld Adda ac Efa, roedd yn methu dod o hyd iddyn nhw. Galwodd Duw arnyn nhw, a phan ddaethon nhw allan o’u cuddfan, gofynnodd Duw iddyn nhw ‘Beth ydych chi wedi’i wneud?’

    Dywedodd Adda, ‘Nid fy mai i oedd o. Hi ddywedodd wrthyf fi am fwyta’r ffrwyth.’ Ac fe ddywedodd Efa, ‘Nid fy mai i oedd o. Y sarff ddywedodd wrthyf fi am fwyta’r ffrwyth.’ Wnaeth y sarff ddim ond edrych yn hunanfoddhaol!

  3. Beth fyddwch chi’n ei wneud pan fyddwch chi’n gwybod eich bod wedi gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn? Beth yw’r peth gorau i’w wneud pan fyddwch chi’n gwybod eich bod wedi gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn? (Cyfaddef, a dweud bod yn ddrwg gennych chi.)

    Yn y stori mae Duw yn anfon Adda ac Efa oddi yno, allan o’r ardd hyfryd, ac fe wnaethon nhw ddysgu bod yn ffermwyr, er mwyn gweithio ar y tir i dyfu cnydau yn fwyd iddyn nhw’u hunain.

    Ond tybed beth allai fod wedi digwydd pe bydden nhw wedi bod yn onest a chyfaddef ; pe bydden nhw wedi bod yn gyfrifol am eu gweithredoedd yn lle ceisio rhoi’r bai ar rywun arall? Wyddom ni ddim. Efallai y byddem ni i gyd yn dal i fyw yn yr ardd honno, yn mwynhau ein hunain y braf, a ddim yn gorfod gweithio …

    Mae’r stori yma’n dal i gael ei hadrodd fel enghraifft o sut, pan fyddwn ni ddim yn onest, y mae hynny’n gallu effeithio ar nifer fawr o bobl, nid dim ond arnom ni ein hunain. Wyddom ni ddim beth allai fod wedi digwydd yn y stori pe byddai Adda ac Efa wedi bod yn onest. Ond, fe allwn ni fod yn onest amdanom ni ein hunain. Yna, fe fyddwn ni’n gwybod, beth bynnag y byddwn ni wedi’i wneud, mae’n haws gwneud pethau’n iawn unwaith eto os gwnawn ni gyfaddef mai arnom ni mae’r bai. Ymddiheuro yw’r ffordd orau, a pheidio â dweud celwydd am yr hyn rydyn ni wedi ei wneud, na cheisio rhoi’r bai ar rywun arall.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Rhowch amser i’r plant ystyried stori Adda ac Efa am foment neu ddwy:
sut y gwnaethon nhw rywbeth yr oedden nhw’n gwybod ei fod ddim yn iawn;
sut y gwnaethon nhw roi’r bai ar rywun arall am yr hyn roedden nhw wedi’i wneud;
a pha mor aml y byddwn ninnau hefyd yn gwneud hynny?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i fod yn onest pan fyddwn ni wedi gwneud rhywbeth o’i le.
Helpa ni i beidio â rhoi’r bai ar rywun arall, ond i gyfaddef yr hyn y byddwn ni wedi’i wneud ac ymddiheuro am hynny,
ac felly ddysgu, a symud ymlaen gyda’n bywydau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon