Cân Yr Adar
Dysgu y gallwn ni werthfawrogi’r naill a’r llall heb ddeall yn llawn ein gwahaniaethau a’n gwahanol ffyrdd o fyw.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dysgu y gallwn ni werthfawrogi’r naill a’r llall heb ddeall yn llawn ein gwahaniaethau a’n gwahanol ffyrdd o fyw.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen recordiad o gân yr adar oddi ar CD neu oddi ar y rhyngrwyd. Roedd gwasanaeth a ymddangosodd ym mis Mai, ‘Morning has broken’ neu ‘Bore a Wawriodd’, yn archwilio ac yn dathlu seiniau natur. Mae’n cynnwys y wybodaeth hon ynghylch dod o hyd i sain caneuon yr adar, a’u defnyddio:
- Mae nifer o wefannau addas. Chwiliwch am ‘birdsong recordings’ neu ‘dawn chorus recording’. Ymysg nifer o safleoedd defnyddiol ar gyfer ymchwil mae:
www.bbc.co.uk/nature/animals/wildbritain/look_around/birds
www.bbc.co.uk/nature/programmes/radio/dawn_chorus/sound_advice.shtml
www.bbc.co.uk/tyne/content/articles/2005/06/10/birdsong_jesmond_feature.shtml
Mae’r wefan gyntaf yn cynnwys lluniau a chân rhai o’r adar cyffredin a welwn o’n cwmpas. Mae’r olaf yn cynnwys recordiad pum munud o gôr y wig ar doriad gwawr, gyda chân y fwyalchen neu’r aderyn du yn amlwg iawn.
- Fe fydd arnoch chi angen rhai lluniau addas i gyd-fynd â sain cân yr adar.
- Os ydych chi, am ryw reswm, yn methu defnyddio recordiadau sain, Naill ai am nad ydyn nhw ar gael, neu oherwydd rhesymau hawlfraint, defnyddiwch luniau yn lle hynny. Ac os ydych chi’n teimlo’n greadigol a dewr, fe allech chi ddysgu gwneud seiniau fel cân yr adar a chreu eich côr cân yr adar eich hunain!
Gwasanaeth
- Dechreuwch trwy rwbio’ch llygaid, a dylyfu gên neu agor eich ceg yn flinedig, gan ymddiheuro i’r plant ac egluro eich bod chi wedi deffro’n gynnar y bore ’ma. Tybed all y plant awgrymu beth oedd wedi eich deffro’n gynnar?
- Gwrandewch ar y recordiad o gân yr adar neu defnyddiwch yr awgrymiadau uchod. Neu, efallai os ydych chi mewn ardal briodol a’r tywydd yn caniatáu, fe allech chi agor y ffenestri a gwrando ar yr adar. Os ydych chi’n ffodus iawn, efallai y gallech chi gynnal y gwasanaeth allan yn yr awyr agored mewn lleoliad lle mae’r adar i’w clywed yn naturiol!
- Eglurwch fod cael eich deffro i swn can yr adar yn beth braf iawn. Gofynnwch i’r plant ddyfalu beth roedd yr adar yn ei ddweud wrth ei gilydd pan oedden nhw’n canu ac yn telori yn y bore bach. Byddwch yn barod am rai atebion dychmygus!
Yna, smaliwch eich bod chi wedi deall iaith yr adar a’ch bod wedi eu clywed yn dweud pethau fel hyn:
Rydw i newydd fwyta mwydyn mawr tew,
Do yn wir, do yn wir, ac roedd o’n fendigedig.
Dyma’r polyn lamp gorau yn y dref, rydw i’n gweld popeth o fan’ma
Beth wnaf fi heddiw? Beth wnaf fi heddiw?
Digon i’w wneud , digon i’w wneud.
Codwch bawb, codwch bawb,
Mae’n fore braf, mae’n ddydd o haf.
Yr aderyn bore sy’n cael y mwydyn gorau,
A dyma fi nawr yn dweud diolch yn fawr! - Dywedwch wrth y plant nad ydych chi mewn gwirionedd yn gwybod beth oedd yr adar yn ei ddweud, am nad aderyn ydych chi. Ond mae gwyddonwyr yn gallu dweud wrthym ni fod yr adar yn anfon negeseuon i’w gilydd trwy ganu. Er enghraifft, fe allan nhw roi gwybod am berygl, (pe bydden nhw’n gweld cath neu anifail arall o gwmpas a allai fod yn fygythiad iddyn nhw). Neu, maen nhw’n canu i ddangos mai eu cynefin nhw yw’r rhan honno, neu’n canu i ddenu cymar.
Eglurwch, er nad ydym ni’n deall cân yr adar, fe allwn ni werthfawrogi’r hyn y mae’n ei ychwanegu at ein diwrnod. Cân yr adar yw un o arwyddion cyntaf y gwanwyn, a dydyn ni ddim yn clywed llawer o swn yr adar bach yn y gaeaf oer. Mae’n sain bleserus. - Eglurwch fod yn ein hardal, a’n hysgol o bosib, bobl o wahanol wledydd a gwahanol ddiwylliannau. Efallai bod rhai newydd symud i’r ardal i fyw, ac eraill sydd wedi eu geni yma. (Fe allech chi sôn am rai pobl sydd wedi dod i’r ardal o wledydd Dwyrain Ewrop yn hytrach na chanolbwyntio ar blant o leiafrifoedd ethnig sydd yn yr ysgol.)
- Efallai ein bod yn cael anhawster ambell dro i ddeall ein gilydd yn dda iawn oherwydd bod gennym ieithoedd gwahanol, arferion gwahanol a chefndiroedd gwahanol. Ond does dim rhaid i ni wybod popeth am rywun cyn bod yn ffrindiau â nhw. Fel cân yr adar, nad ydym yn ei deall, fe allwn ni i gyd, pob un ohonom, ychwanegu amrywiaeth a hapusrwydd i fywydau’r naill a’r llall.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Mae cân yr adar bob amser yn swnio’n hapus,
yn union fel petai’r adar yn falch eu bod yn fyw ar fore newydd.
Am beth rydych chi’n hapus ac yn ddiolchgar ar ddiwrnod newydd fel hwn?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi ein gwneud ni i gyd yn wahanol,
diolch dy fod ti wedi ein gosod ni mewn gwahanol deuluoedd a grwpiau.
Diolch i ti am yr holl bobl o wahanol wledydd y byd sy’n byw yn ein gwlad ni.
Diolch fod pob un ohonom yn arbennig,
a’n bod ni’n gallu cyfoethogi bywydau ein gilydd.
Amen.