Arwyddion Ffyrdd
Meddwl am yr hyn y mae Cristnogion a phobl o grefyddau eraill yn ei ddysgu am fywyd o’r Beibl.
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am yr hyn y mae Cristnogion a phobl o grefyddau eraill yn ei ddysgu am fywyd o’r Beibl.
Paratoad a Deunyddiau
- Beibl, i’w ddangos.
- Fe fydd arnoch chi angen lluniau o’r arwyddion ffyrdd sydd yma. Mae’n bosib tynnu llun y rhain ar bapur, neu eu llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd oddi ar: www.bris.ac.uk/imagelib/ts.html
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod beth yw neges pob un o’r arwyddion:
Dim mynediad
Stopiwch
Un ffordd
Perygl creigiau’n disgyn. - Dangoswch y Beibl, a dywedwch fod Cristnogion a phobl o grefyddau eraill yn credu bod y Beibl yn llyfr sy’n cynnwys llawer o ddoethineb sy’n gallu ein helpu i fyw bywydau gwell.
- Dangoswch yr arwydd ‘Dim mynediad’. Weithiau mae’r Beibl yn dweud wrthym ni ei bod hi’n well i ni beidio â dilyn ambell ffordd o fyw (fel bod yn hunanol, a gwrthod rhannu). Fe allech chi gyfeirio at y Deg Gorchymyn. Mae Duw wedi rhoi gorchmynion i ni, nid oherwydd ei fod yn anfodlon i ni fwynhau ein hunain, ond oherwydd bod y gorchmynion yno i’n cadw’n ddiogel, am fod Duw yn ein caru ac yn gofalu amdanom ni.
- Dangoswch yr arwydd ‘Stop’. Eglurwch fod yn y Beibl rai storïau am y Gyfraith a storïau sy’n dweud wrthym ni am beidio gwneud rhai pethau y byddwn ni’n eu gwneud weithiau. Efallai ein bod ni’n achosi pryder neu boen i rywun neu’n gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn, er ein bod yn gwybod hynny. Mae’r Beibl yn dangos y dylem ni stopio gwneud y pethau sydd ddim yn iawn i ni eu gwneud a byw bywyd gwell lle gallwn ni helpu pobl eraill a gofalu amdanyn nhw.
- Dangoswch yr arwydd ‘Un ffordd’. Mae’r Beibl yn dangos ffordd o fyw i ni sy’n ein hannog i feddwl am eraill yn gyntaf o flaen ein hunain. Mae gofyn i ni beidio â rhoi ein hunain yn gyntaf a mynnu pethau, ond ystyried syniadau pobl eraill a meddwl am yr hyn sydd orau ganddyn nhw. Fe fyddwn ni’n hapusach pan fyddwn ni’n gwneud hynny.
- Dangoswch yr arwydd ‘Perygl’. Eglurwch fod Cristnogion yn credu nad yw’r Beibl yno i wneud ein bywydau yn ddiflas ond i ddangos i ni ffordd dda o fyw, ffordd sy’n gwneud y bobl o’n cwmpas ni’n hapus. Mae’n dangos fod perygl i ni fyw bywydau mor brysur ac mor hunanol fel ein bod yn y pen draw yn gwneud ein hunain a’r rhai o’n cwmpas yn anhapus hefyd.
- Pwysleisiwch eto nad llyfr rheolau i Gristnogion eu dilyn yw’r Beibl, ond llyfr sy’n llawn o enghreifftiau sut y gallwn ni fyw ein bywydau er mwyn eraill. Mae llawer o bobl yn gweld fod y Beibl yn rhoi arweiniad iddyn nhw, ac yn rhoi tangnefedd a chysur iddyn nhw. Mae rhai pobl yn credu bod Duw yn siarad yn uniongyrchol â nhw trwy’r Beibl. Fe fydd rhai pobl eraill yn ei weld fel ffynhonnell dda o storïau a doethinebau difyr o wareiddiad cynnar. Mae’n adrodd storïau am Iesu a’i ddilynwyr yn y Testament Newydd, a storïau am y bobl Iddewig yn yr Hen Destament.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Meddyliwch am foment am yr arwyddion ffyrdd
sy’n ein helpu i fod yn ddiogel ar y ffordd.
Treuliwch rywfaint o amser yn ystyried o ble y cawn ni arwyddion ar gyfer ein bywydau.
Ydych chi’n gwybod unrhyw storïau o’r Beibl?
Ydyn nhw’n eich helpu chi i feddwl am sut i fyw?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti eisiau ein helpu ni yn trwy ein bywyd drwyddo draw.
Diolch i ti am roi’r Beibl i ni.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2007 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.