Cath Fach Annwyl
Helpu’r plant i feddwl am bwysigrwydd gofalu am anifeiliaid anwes mewn ffordd dyner a charedig.
gan The Revd Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i feddwl am bwysigrwydd gofalu am anifeiliaid anwes mewn ffordd dyner a charedig.
Paratoad a Deunyddiau
- Er mai gwasanaeth ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 yw hwn, fe fyddai’n addas ar gyfer pobl o bob oed, sy’n caru anifeiliaid, mewn unrhyw le! Fe fyddai’n neilltuol o addas ar gyfer diwrnod Gwyl Sant Ffransis (4 Hydref).
- Fe fydd arnoch chi angen copi o’r llyfr i blant Ginger Finds a Home gan Charlotte Voake (2003, Walker Books).
- Fe allech chi arddangos rhai lluniau o gathod a chathod bach, neu daflunio lluniau ar fwrdd gwyn rhyngweithiol.
Gwasanaeth
- Dechreuwch trwy holi faint o’r plant sydd â chath (neu gathod) yn eu cartrefi, neu yn eu cymdogaeth. Beth yw eu henwau? Beth maen nhw’n ei fwyta? Sut maen nhw’n ymddwyn pan fyddan nhw eisiau bwyd … ac ar ôl iddyn nhw gael bwyd? Oes rhai o’r plant yn helpu i edrych ar ôl y cathod?
- Trafodwch y ffaith bod llawer o gathod yn lwcus, yn cael pobl i ofalu amdanyn nhw’n dda. Ond mae rhai, er hynny, yn gathod nad oes neb eu heisiau, ac mae’r rheini’n byw’n wyllt heb neb i ofalu amdanyn nhw. Cathod strae y byddwn ni’n galw cathod felly. Oes rhywun wedi gofalu am gath strae ryw dro, ac wedi ei mabwysiadu a rhoi cartref iddi?
- Cyflwynwch stori Ginger Finds a Home i’r plant gan ddangos y lluniau ac adrodd y stori yn eich geiriau eich hun.
- Gofynnwch i’r plant sut y newidiodd ymddygiad Ginger yn raddol ar ôl cwrdd â’r eneth fach. Gwahoddwch y plant i ystyried sut y daeth y gath yn fwy dof. Ar y dechrau roedd Ginger yn rhedeg i ffwrdd pan fyddai’r eneth fach yn ceisio rhoi mwythau iddi. Ond ymhen amser roedd y gath yn dod yn ffrindiau â hi ac yn dod ati wrth iddi alw arni. Ac wedyn wrth i’r ferch fach roi mwythau iddi, roedd y gath yn canu grwndi. Gwahoddwch y plant i ddychmygu sut roedd Ginger yn teimlo wrth fynd i’r ty, a disgrifio teimladau’r gath. Doedd hi erioed wedi bod mewn ty o’r blaen!
- Roedd yr eneth fach yn gofidio ei bod wedi dychryn y gath, a’i bod wedi mynd i ffwrdd. Beth wnaeth i Ginger ddod yn ôl? Pwysleisiwch y ffordd y gwnaeth yr eneth fach ofalu am Ginger - yn garedig a thyner.
- Adroddwch y penillion hyn, neu efallai y gallech chi gyfansoddi alaw syml i ganu’r geiriau arni, ac wrth wneud hynny fe allech chi wneud y symudiadau priodol i gyd fynd â’r geiriau os hoffech chi.
Helo gath fach
Addasiad o eiriau Alan M. Barker 2007
Helo, gath fach,
Dyma ni wedi cwrdd,
Dyma ddiod o lefrith,
Paid â rhedeg i ffwrdd.
Helo, gath fach,
Gaf fi roi mwythau iti?
Pan fyddi di’n hapus.
Fe fyddi’n canu grwndi.
Helo, gath fach,
Wyt ti’n unig heb gartre?
Mae lle gyda ni
Os mai dyna wyt ti eisie. - Trafodwch y ffaith, er bod llawer o bobl yn meddwl y bydden nhw’n hoffi rhoi cartref i gath strae neu anifail arall, mae hynny’n gyfrifoldeb mawr. Mae angen rhoi gofal cyson a pharhaus i anifail. Mae arnyn nhw angen cael eu bwydo ac angen sylw ddydd ar ôl dydd, yn enwedig pan fyddan nhw’n mynd yn hen. Ambell dro, fe fydd yn rhaid mynd â nhw ar y milfeddyg i gael brechiadau neu driniaeth. Gall oes cath fod tua 15 mlynedd! Mae’n bwysig iawn cofio hynny cyn rhoi cartref i unrhyw anifail. Fe fyddai’n greulon i chi beidio ag ystyried hynny.
- Dewch i ddiwedd eich gwasanaeth trwy gyfeirio at sant Cristnogol enwog sy’n cael ei gofio am fod yn dyner ac yn garedig tuag at anifeiliaid. Ei enw oedd Sant Ffransis. Roedd yn cyfeirio at greaduriaid fel ei frodyr a’i chwiorydd. Dyna ei ffordd ef o ddangos ei fod yn eu parchu. Fel y ferch fach yn y stori, a Sant Ffransis, fe allwn ninnau ddangos parch tuag at gathod a chreaduriaid eraill trwy fod yn garedig wrthyn nhw.
- Adroddwch neu canwch bennill olaf y gerdd:
Helo, gath fach,
yn cysgu’n braf yn fy mreichiau.
Rwyt ti’n ‘sbesial’ gan Dduw,
ac yn ‘sbesial’ gen innau!
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Meddyliwch am unrhyw anifeiliaid y gwyddoch chi amdanyn nhw …
Anifeiliaid anwes, anifeiliaid gwyllt, anifeiliaid ar ffermydd, anifeiliaid mewn sw.
Ydych chi’n garedig wrthyn nhw bob amser?
Ydych chi’n rhoi i anifeiliaid anwes y sylw a’r gofal y mae arnyn nhw ei angen?
Allwch chi wneud rhagor i’r anifeiliaid sydd o’ch cwmpas chi, a’r anifeiliaid sy’n rhannu’r un byd â chi?
Gweddi:
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein hanifeiliaid anwes,
am eu cwmni, ac am eu cyfeillgarwch.
Helpa ni i ofalu amdanyn nhw’n dda
a’u trin nhw’n garedig a thyner.
Heddiw a phob amser.
Amen.