Geiriau Cadarnhaol
Meddwl am sut effaith y gall rhywbeth y byddwn ni’n ei ddweud ei gael ar bobl eraill, ac annog y plant i siarad yn gefnogol a chadarnhaol.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Meddwl am sut effaith y gall rhywbeth y byddwn ni’n ei ddweud ei gael ar bobl eraill, ac annog y plant i siarad yn gefnogol a chadarnhaol.
Paratoad a Deunyddiau
- Byddwch angen argraffu’r datganiadau ‘adeiladu’/ ‘dinistrio’ (gwelwch rhif 3) mewn print mawr, fel y gallwch chi eu gosod ar ddau wirfoddolwr a ddaw i’ch helpu i gynrychioli’r cadarnhaol a’r negyddol.
- Dewisol: Clip fideo o ddigomisiynu terfynol y tyrau oeri yng ngorsaf ynni niwclear Chapelcross; gwelwch http://www.bbc.co.uk/cumbria/content/articles/2007/05/22/chapelcross_video_feature.shtml
- Y ffeithiau canlynol am Chapelcross, British Nuclear Group:
- Adeiladwyd yn 1959.
- Pedwar adweithydd yn cynhyrchu plwtoniwm yno.
- Pedwar o dyrau oeri gyda dwr yn cael ei bwmpio o afon Annan ddwy filltir i ffwrdd.
- Pan oedd y lle yn ei anterth ac yn gweithio’n llawn, roedd yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi pob cartref yn ne-orllewin yr Alban, the ardal y Borders a Cumbria.
- Wedi’i ddigomisiynu yn 2004.
- Roedd y tyrau oeri wedi’u gwneud o goncrit cyfnerth ac yn pwyso tua 25,000 tunnell.
- 11 eiliad yn unig gymerodd hi i chwalu’r tyrau, a hynny trwy gyfrwng 6,000 o ffrwydradau bychain.
Gwasanaeth
- Os yw hynny’n bosib, dangoswch y rhan o’r fideo sy’n dangos tyrau Chapelcross yn cael eu chwalu. Rhowch rywfaint o gefndir yr hanes trwy ddefnyddio’r wybodaeth uchod.
Os nad yw hi’n bosib i chi ddangos y fideo, fe allech chi ddarlunio hanes y chwalu yn eich geiriau eich hun, neu ddefnyddio cyfarpar gweledol fel twr o flociau, neu adeiladu twr o focsys, er mwyn i chi allu eu chwalu trwy dynnu blociau neu focsys o waelod y twr. - Eglurwch eich bod, wrth wylio difrodi’r adeiladweithiau mawr hyn, a oedd wedi cymryd cymaint o amser a deunyddiau i’w codi, wedi cael eich atgoffa o rywbeth sydd wedi’i ysgrifennu yn y Beibl. Nid yw’r dyfyniad o’r Beibl yn sôn am dyrau na ffrwydradau - yn hytrach mae’n sôn am rywbeth sydd gan bob un ohonom ni, yn ein corff ein hunain, ac sy’n gallu bod yr un mor ddinistriol, mewn ffordd. Unrhyw syniadau?
Mae’r Beibl yn dweud rhywbeth fel hyn am ein tafod: Mae’r tafod yn gallu bod fel tân. Mae’r tafod yn gallu bod yn beth cas iawn. Mae’r tafod yn gallu llygru’r person cyfan. Mae’n gallu bod yn llawn o wenwyn pur. Mae’n swnio fel dynameit! Yn rhywbeth peryglus iawn!
Dywedwch wrth y plant am beidio â phryderu. Pe bai eu tafodau yn bethau felly, fyddech chi byth yn gadael iddyn nhw ddod i mewn i’r ysgol! Yr hyn yr oedd yr awdur yn ei olygu oedd bod modd i ni ddefnyddio ein tafodau i ddinistrio, fel tân neu wenwyn marwol, ond does dim rhaid i ni wneud hynny. - Gofynnwch am ddau wirfoddolwr, y naill i fod yn dehongli’r cadarnhaol a’r llall i ddehongli’r negyddol. Darllenwch y datganiadau rydych chi wedi’u paratoi, fesul un, gan benderfynu gyda’r plant yn y gynulleidfa ai datganiad adeiladol (cadarnhaol) ydyn nhw neu ddatganiadau dinistriol (negyddol). Defnyddiwch glipiau papur neu gyfrwng arall i lynu’r datganiadau, fesul un, ar y gwirfoddolwr priodol.
Rydw i’n hoffi dy esgidiau newydd di.
Pam rwyt ti bob amser yn gwisgo’r esgidiau blêr yna?
Dyna stori dda!
O! Roedd hi’n stori bôring!
Da iawn ti!
Dydw i ddim eisiau iddi hi fod yn yr un grwp â fi eto.
Diolch i ti am fy helpu i.
Allith o ddim chwarae pêl-droed.
Wrth gwrs, fe gei di chwarae efo ni.
Dwyt ti’n dda i ddim, rwyt ti mor afrosgo! - Weithiau, yr hyn sy’n digwydd ym mywyd rhywun yw ei fod wedi clywed cymaint o ddatganiadau ‘dinistriol’ sy’n achosi iddo ef neu hi gwympo, yn union fel y tyrau oeri yn Chapelcross (neu’r pentwr blociau/ bocsys).
Mae’r ffordd y mae unigolyn yn meddwl amdano’i hun yn gallu cael ei difrodi neu ei dinistrio hyd yn oed. Rydyn ni’n galw hyn yn hunan-barch, ac mae dweud pethau cas am rywun yn gallu dinistrio hunan-barch yr unigolyn hwnnw.
Yn aml iawn, nifer fawr o ffrwydradau bach sy’n gallu crynhoi at ei gilydd i ddinistrio hunan-barch rhywun. Mae rhai pobl yn sensitif iawn ac mae’r pethau cas y mae pobl eraill yn eu dweud wrthyn nhw’n aros gyda nhw am byth ac yn creu argraff negyddol. Weithiau fe fydd teimladau felly yn gallu parhau gyda nhw ac effeithio arnyn nhw am weddill eu hoes.
Nid yw hyn yn golygu fod yn rhaid i chi smalio cytuno â phob peth y mae pobl eraill yn ei ddweud a’i wneud. Ond fe allwch chi fod yn gadarnhaol a dweud pethau fel: ‘Rydw i’n gwybod dy fod yn hoffi’r ‘peth a’r peth’, ond dydw i ddim, mae’n ddrwg gen i,’ neu: ‘Doeddwn i ddim yn gweld y stori mor gyffrous ag yr oeddet ti, ond fe allaf fi ddeall pam roeddet ti wrth dy fodd gyda hi.’ Mae’r dulliau hyn yn ddulliau mwy cadarnhaol o ddelio â sefyllfaoedd lle rydych chi’n anghydweld â rhywun. Mae’n well dweud hynny na dweud pethau fel: ‘Rwyt ti’n anghywir,’ neu: ‘Rwyt ti’n hurt os wyt ti’n hoffi pethau felly!’
Y tro nesaf y byddwch chi’n mynd i ddefnyddio’ch tafod, gofalwch nad yw’n mynd i achosi ffrwydrad! - Mae’n bosib i bob un ohonom ddefnyddio ein tafodau i annog. Holwch y plant oes rhywun wedi dweud rhywbeth wrthyn nhw heddiw sydd wedi bod yn gyfrwng i’w codi neu i adeiladu eu hyder. Byddwch yn barod gyda rhai enghreifftiau eich hun o bethau cadarnhaol y mae’n bosib eu dweud. Dathlwch y rhain gyda’ch gilydd.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Wrth i ni edrych unwaith eto ar y clip fideo, meddyliwch am rym geiriau.
NEU
Gall geiriau fod yn llym.
Gall geiriau fod yn greulon.
Gall geiriau frifo.
Gall geiriau fod yn ddefnyddiol.
Gall geiriau fod yn garedig.
Gall geiriau fod yn gyfrwng i adeiladu a chodi ein hyder.
Pa eiriau y byddwch chi’n ei defnyddio heddiw?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i feddwl am rym geiriau.
Helpa ni i ddefnyddio ein geiriau heddiw er mwyn adeiladu pobl, a’u cryfhau,
ac nid i’w chwalu, a’u bwrw i’r llawr.
Amen.