Bod Yn Charlotte
Deall y rhinwedd o fod yn ostyngedig, ac effaith hynny ar bobl eraill.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Deall y rhinwedd o fod yn ostyngedig, ac effaith hynny ar bobl eraill.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd angen i chi fod yn gyfarwydd â’r ffilm neu’r llyfr, Charlotte's Web.
Gwasanaeth
- Bydd y rhan fwyaf o’r plant yn gyfarwydd â’r ffilm Charlotte's Web, os nad y llyfr. Gyda help rhai o’r plant sy’n gyfarwydd â’r stori, rhowch grynodeb ohoni i’r rhai hynny sydd efallai ddim mor gyfarwydd â hi.
Mae Fern yn achub Wilbur, y cwlin, sef y mochyn bach lleiaf o’r dorllwyth. Mae Wilbur yn dod yn ffrindiau â’r anifeiliaid yn yr ysgubor, yn cynnwys hyd yn oed Templeton y llygoden fawr, a’r pry copyn o’r enw Charlotte. Fyddech chi wedi dewis y ddau olaf yma i fod yn ffrindiau â nhw? Sut roedd Wilbur yn eu trin? Sut roedd hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo ?
Mae Charlotte yn gwneud ei rhan i achub Wilbur trwy nyddu rhai geiriau i’w gwe. Pam rydych chi’n meddwl y dewisodd Charlotte y geiriau hynny?
Mae’r mochyn yn dod â chymuned yr ysgubor ynghyd, a holl gymuned y fferm. Pam rydych chi’n meddwl fod hyn wedi digwydd? - Fe ymdrechodd Charlotte yn galed iawn i ysgrifennu’r gair olaf yn ei gwe, a’r gair hwnnw, mae’n debyg, oedd y gair a gafodd fwyaf o ddylanwad ar y rhai oedd yn edrych arni. Holwch y plant ydyn nhw’n cofio beth oedd y gair hwnnw.
Y gair yn Saesneg oedd ‘humble’ - yn Gymraeg, ‘gostyngedig’. Beth yw ystyr bod yn ostyngedig? Mae rhywun sy’n ostyngedig yn rhywun sydd ddim yn meddwl ei fod ef neu hi ei hun yn well nac yn bwysicach nag unrhyw un arall. - Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i sôn heddiw am ddau ddyn oedd yn ddynion gostyngedig iawn. Doedden nhw ddim yn byw ’run pryd, ond yr oedden nhw’n ddynion gostyngedig a wnaeth lawer o dda i bobl eraill.
Y cyntaf oedd Iesu Grist. Roedd yn byw bywyd syml iawn, a byddai bob amser yn trin pobl â pharch (roedd yn ystyried fod pawb yn bwysig), fe fyddai’n dosturiol wrth bawb (roedd ganddo ofal am bawb) a byddai’n gwneud hynny gydag urddas (doedd Iesu ddim yn anwybyddu gofidiau pobl a’u hanghenion). Ar un achlysur, fe olchodd draed llychlyd ei ffrindiau iddyn nhw. Roedd Iesu’n ostyngedig iawn. - Ganrifoedd lawer ar ôl hynny (yn yr 1900au), fe ddangosodd gwr Cristnogol arall, o'r enw William Booth, beth yw ystyr bod yn ostyngedig. Roedd William Booth yn gweithio mewn siop wystlo, neu i roi’r enw Saesneg ‘pawnbroker's shop’. Nid siop fel y siopau y byddwn ni’n prynu nwyddau ynddi heddiw oedd y siop wystlo. Lle oedd yn rhoi benthyg arian i bobl oedd hi. Pan fyddai pobl dlawd oedd heb arian ac eisiau benthyg arian i brynu bwyd neu rywbeth arall, roedden nhw’n mynd i’r math yma o siop. Roedd yn rhaid iddyn nhw adael rhywbeth oedd yn eiddo iddyn nhw yn y siop, cot neu flanced efallai, neu beth bynnag fyddai ganddyn nhw, ac fe fyddai perchennog y siop yn rhoi benthyg ychydig o arian iddyn nhw. Os na fydden nhw’n gallu talu’r arian yn ôl ymhen rhywfaint o amser, fe fyddai’r perchennog yn cadw’r eitem ac yn ei gwerthu.
Wrth weithio mewn siop felly, roedd William Booth wedi gweld llawer o bobl dlawd yn dod â’r cyfan oedd ganddyn nhw i’r siop er mwyn gallu cael rhywfaint o arian i brynu bwyd, ac roedd yn gofidio’n fawr am y bobl rheini. Roedd eisiau gwneud rhywbeth i’w helpu, ond roedd hi’n anodd gwybod beth i’w wneud. Fe ddechreuodd trwy gynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored, gyda’i ffrindiau, yn sôn am Dduw, yn adrodd storïau am Dduw ac yn dweud wrth bawb gymaint yr oedd Duw yn eu caru. Roedd croeso i bawb ddod yno i wrando arnyn nhw. Roedd ganddyn nhw gerddoriaeth fywiog, ac roedden nhw’n gwneud i bawb deimlo fod croeso iddyn nhw a bod rhywun yn ofalgar tuag atyn nhw.
Dechreuodd tyrfaoedd ddod i’r cyfarfodydd, er bod rhai pobl yn ddigon sbeitlyd yn gwawdio ac yn taflu cerrig hyd yn oed at William Booth a’i gyfeillion, oedd erbyn hynny’n cael eu galw’n Salvation Army, (neu Fyddin yr Iachawdwriaeth yn Gymraeg). Gwyddai William Booth fod yn rhaid iddyn nhw wneud rhywbeth mwy na dim ond sôn am Dduw, a dweud wrth y bobl fod Duw’n eu caru nhw’r bobl dlawd yn union yr un ffordd ag yr oedd yn caru pawb arall. Roedd yn rhaid iddo ddangos hynny rywsut, ac fe weithiodd ei ffrindiau ac yntau’n galed i helpu’r bobl dlawd ym mha ffordd bynnag y gallen nhw.
Un diwrnod, fe ddaeth dyn dieithr i mewn i ganolfan Byddin yr Iachawdwriaeth. Tynnodd ei lyfr sieciau allan o’i boced a rhoi siec i William Booth. Roedd yn siec am £1,000 - ac roedd hynny’n arian mawr iawn y dyddiau hynny.
Roedd William wedi rhyfeddu ac wedi’i syfrdanu, ac fe ofynnodd i’r dyn dieithr pam roedd yn rhoi cymaint o arian iddo at achos Byddin yr Iachawdwriaeth. Dyma oedd ei stori.
Pan oedd yn cerdded ar hyd un o strydoedd Llundain ryw ddiwrnod, roedd wedi gweld hen wr yn ymdrechu i godi hen ddarnau o haearn sgrap i’w ferfa. Roedd yr hen wr yn fychan ac yn wan, ac roedd hi’n amlwg na allai godi’r darnau haearn trwm i’r ferfa ei hun. Ond fe ddaeth gwr bonheddig heibio, ac fe dynnodd y gwr bonheddig ei het silc a’i fenig a’i got, a dechrau helpu’r hen wr tlawd i lwytho’i ferfa. Ar ôl gorffen llwytho’r cyfan, aeth y gwr bonheddig oddi yno cyn i neb allu dweud diolch yn iawn wrtho. Roedd y dyn dieithr wedi bod yn gwylio hyn, ac eisiau gwybod pwy oedd y gwr bonheddig oedd wedi helpu’r hen wr . Cafodd wybod mai William Booth oedd o.
Penderfynodd y dyn, ‘Os mai dyna beth mae William Booth a phobl Byddin yr Iachawdwriaeth yn ei wneud, yna fe fyddai’n anrhydedd i minnau gael eu helpu gyda’u hachos.’ A phenderfynodd ddod o hyd i William Booth a rhoi arian iddyn nhw allu dal ymlaen â’u gwaith da. Mae Byddin yr Iachawdwriaeth, neu’r Salvation Army yn parhau i wneud gwaith da, ac yn parhau i ddangos cariad Duw tuag at bobl, yn yr un ffordd, hyd heddiw.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Weithiau mae meddwl am groes ystyr gair yn ein helpu i’w ddeall yn well.
Y gair croes ystyr i ‘gostyngedig’ yw 'balch' neu 'drahaus'.
Er ei bod hi’n iawn i ni deimlo’n falch pan fyddwn ni wedi gwneud gwaith da neu wedi llwyddo, nid yw’n iawn i ni feddwl ein bod ni’n well na phawb arall.
Gweddi:
Annwyl Dduw,
Weithiau rydyn ni’n gallu bod yn hunanol ac yn hunanbwysig.
Pe bydden ni wedi bod yn lle Wilbur,
efallai na fydden ni wedi dewis bod yn ffrindiau â’r ceffyl,
neu’r fuwch neu’r ddafad,
efallai na fydden ni wedi dewis bod yn ffrindiau â’r pry copyn,
na’r llygoden fawr, mae’n debyg.
Rydyn ni’n tueddu i fod felly gyda phobl hefyd.
Helpa ni i fod yn ostyngedig, fel Wilbur
ac fel William Booth.
Amen.