Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Teimlo Bod Rhywun Eich Angen

Dangos y gallwn ni i gyd fod yn ddefnyddiol, a bod pawb yn hoffi cael ei werthfawrogi.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dangos y gallwn ni i gyd fod yn ddefnyddiol, a bod pawb yn hoffi cael ei werthfawrogi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Darllenwch trwy’r stori o flaen llaw, a’i haddasu i’w dehongli yn eich ffordd eich hun.

  • Dewisol: lluniau o bryfed cop neu gorynnod a/neu deganau ar ffurf pryfed cop neu gorynnod.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant fod pawb ohonom yn mwynhau bod yng nghwmni pobl eraill. Mae’n beth annifyr iawn os byddwn ni wedi ffraeo â’n ffrindiau. Mae pawb yn hoffi teimlo eu bod yn perthyn i grwp, a bod yn teimlo fod pobl eraill eu heisiau.

    Mae’r stori heddiw am greadur bach, druan, oedd yn meddwl nad oedd neb ei eisiau. Gwrandewch yn astud a chewch weld beth fyddwch chi’n ei feddwl ar y diwedd. 

    Dangoswch y lluniau o’r pryfed cop a/ neu’r teganau pryfed cop, os byddwch am eu defnyddio.

  2. Dywedwch y stori.

    Penri Pry Copyn
    (gan Jan Edmunds)

    Fe wnaeth Penri Pry Copyn y we harddaf erioed yng nghornel ystafell eistedd ty Mrs Huws. Roedd Penri’n falch iawn o’i we. Yn fuan iawn, roedd yn dal llawer o bryfed mawr a fyddai’n hedfan i mewn i’r ystafell trwy’r ffenestr agored. Teimlai Penri fod ei we yn un ardderchog, ond pan welodd Mrs Huws hi, fe aeth ar ei hunion i nôl brwsh a thynnu’r we. Yna fe gododd hi  Penri yn ei dwster melyn a’i ysgwyd allan trwy’r ffenestr. Ond roedd hi’n bwrw glaw allan, ac fe sleifiodd Penri yn ei ôl i mewn i’r ty trwy ddrws yr ystafell haul a oedd yn gil agored. 

    Roedd hi’n gynnes braf yn yr ystafell haul, felly fe ddechreuodd wneud gwe arall yno. Wedi ei gorffen, fe aeth Penri i swatio yn y gornel gan ddisgwyl i’r pryfed lanio ar ei we ludiog a chael eu dal. Yn anffodus i Penri, fe welodd Mrs Huws y we, ac ar unwaith, fe aeth i nôl y brws a’i sgubo i ffwrdd gan daflu Penri oddi ar y brws allan o’r ty unwaith eto.

    Ceisiodd Penri ei orau glas, sawl gwaith, i fynd yn ei ôl i’r ty, ond yn aflwyddiannus. Teimlai’n ddiflas iawn. Y cyfan oedd Penri ei eisiau oedd bywyd tawel heddychlon. Teimlai nad oedd neb yn ei hoffi, doedd neb ei eisiau.  Doedd dim llawer o bwrpas iddo fynd yn ôl i mewn i’r ty. 

    Un diwrnod yn fuan wedyn, roedd yn cropian ar hyd y llwybr y tu allan i’r ty, ac fe sylwodd ar Mali’r ferlen yn ysgwyd ei phen dros ddrws y stabl. Roedd llawer o bryfed  yn hedfan o gwmpas ei phen a’i chlustiau ac yn gwneud iddi deimlo’n annifyr iawn. Roedd Mali’n stampio’i thraed ac yn chwifio’i chynffon, ond roedd y pryfed yn mynnu glanio ar ei gwddw hir a’i chefn llydan - waeth faint roedd hi’n chwifio ar ei chlustiau a’i chynffon – doedd yr hen bryfed felltith ddim yn mynd oddi yno!

    Dringodd Penri i fyny ffrâm drws y stabl. ‘Paid â phoeni, Mali,’ meddai. ‘Fe allaf fi dy helpu’.

    Ac fe ddechreuodd Penri lunio gwe newydd sbon. Roedd hi’n we enfawr, a oedd yn ymestyn o’r drws i’r to. Yn fuan iawn yr oedd nifer fawr o’r pryfed a fu’n poeni Mali wedi’u dal yn y we. Roedd Mali’n ddiolchgar iawn i Penri – o’r diwedd roedd hi’n cael llonydd gan y pryfed. 

    Pan welodd Mrs Huws y we, a gweld yr holl bryfed wedi cael eu dal ynddi, a pan welodd hi gymaint yn hapusach yr oedd Mali wedyn, fe sylweddolodd ei bod hi’n bwysig gadael gwe’r pry copyn yn ei le. Nawr roedd Penri yn gallu byw mewn heddwch yn y stabl, ac ar yr un pryd yn gwneud bywyd Mali a’i ffrindiau’n llawer mwy dedwydd. Ac, o’r diwedd, roedd Penri yn hapus oherwydd ei fod yn teimlo bod rhywun yn ei werthfawrogi, ac eisiau iddo fod yno.

  3. Treuliwch beth amser yn trafod y stori. Holwch gwestiynau fel: Ydych chi’n meddwl fod Mrs Huws wedi bod yn gas wrth y pry copyn? Pam rydych chi’n meddwl nad oedd hi ei eisiau yn ei thy? Sut y gwnaeth Penri helpu Mali? Pam na wnaeth Mrs Huws chwalu’r we oedd yn y stabl?

    Mae rhai pobl yn casáu pryfed cop, ond fel pob creadur byw, mae’r pry copyn hefyd yn rhan bwysig o fyd natur. Yn union fel y byddwn ninnau’n hoffi cwmni  ac yn hoffi teimlo bod rhywun ein heisiau ni, roedd Penri yn hoffi gallu gwneud cymwynas â Mali a gallu mwynhau cwmni creaduriaid eraill.

  4. Dewisol, ffeithiau am y  pry copyn: 

    Mae pryfed cop yn bwyta gwahanol fathau o bryfed sy’n gallu bod yn niwsans, ac yn helpu i gadw’ch gardd yn rhydd o bla pryfed sy’n difetha planhigion yr ardd.

    Mae dau fath o edeuon mewn ambell we pry copyn, edau ludiog i ddal y pryfed, ac edau arall heb fod yn ludiog, y gall y pry copyn gerdded yn gyflym ar ei hyd er mwyn cyrraedd y pryfed sydd wedi’u dal. Rhaid i bryfed cop sydd â’r math hwn o we, droedio’n ofalus ar hyd yr edeuon cywir!

    Gall edeuon pryfed cop fod yn gryfach na dur - o’r un maint!

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Meddyliwch yn ôl dros y stori.
Beth oedd y stori yn ei ddweud wrthych chi am gyfeillgarwch,
a’r teimlad o fod yn perthyn?
Beth oedd y stori yn ei ddweud wrthych chi am fod yn ddefnyddiol ac yn gallu helpu?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y pry copyn, ac am ei sgiliau rhyfeddol.
Diolch i ti am bawb sydd yma, ac am eu sgiliau rhyfeddol hwythau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon