Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod Yn Ddoeth

Annog y plant i wneud penderfyniadau doeth mewn bywyd, ac i feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i wneud penderfyniadau doeth mewn bywyd, ac i feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen y stori o’r Beibl am y dyn doeth a’r dyn ffôl, yn Efengyl Luc 6.47–49.
  • Fe allech chi nodi diffiniad o’r gair ‘doeth’ fel mae i’w gael mewn geiriadur, a hwnnw wedi’i argraffu ar bapur, e.e. rhywbeth tebyg i hyn: ‘un sy’n berchen ar brofiad, gwybodaeth a barn gytbwys neu sy’n dangos hynny.’

 

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant beth yw ystyr y gair ‘doeth’. Wedi iddyn nhw roi cynnig arni, efallai y gallech chi grynhoi hyn trwy roi diffiniad, fel pe byddai geiriadur yn ei roi i chi, e.e.: ‘un sy’n berchen ar brofiad, gwybodaeth a barn gytbwys neu sy’n dangos hynny.’

  2. Cynigiwch enghreifftiau i’r plant o achosion pan gawson nhw yn eu bywydau eu hunain, efallai, brofiadau sydd eisoes wedi dysgu iddyn nhw fod yn ddoeth, profiadau a ddysgodd iddyn nhw beth i beidio â’i wneud os byddan nhw yn yr un math o sefyllfa eto ryw dro.

    Efallai bod rhai plant bach wedi bod ar goll mewn siop fawr, a hynny wedi dysgu iddyn nhw gadw’n agos at yr oedolion sydd gyda nhw, a pheidio mynd i grwydro. Ac efallai fod y profiad wedi eu dysgu beth fyddai orau i’w wneud pe bydden nhw’n mynd ar goll eto.

    Efallai eu bod wedi dal eu bys yn rhy agos at fflam cannwyll neu fatsien. Nawr, maen nhw’n gwybod na ddylen nhw chwarae â matsis, neu ganhwyllau goleuedig. Ac os byddan nhw ryw dro yn cael cyfle i danio matsien, fe fyddan nhw’n gwybod fod angen diffodd y fatsien cyn i’r fflam gyrraedd pen draw’r fatsien.

    Efallai eu bod wedi brifo’u gwegil wrth wneud camp fel rholio ymlaen, a nawr maen nhw’n gwybod fod angen plygu’r pen ymlaen yn dynn bob amser cyn rholio drosodd.

  3. Adroddwch y stori o’r Beibl am y dyn doeth a’r dyn ffôl yn codi tai iddyn nhw’u hunain. Eglurwch fod y dyn ffôl wedi bwrw ymlaen â’i gynlluniau heb ystyried y canlyniadau’n iawn. Doedd o ddim wedi meddwl beth allai ddigwydd - a’r canlyniad oedd  trychineb!

    Roedd y dyn doeth wedi meddwl yn galed am ble byddai orau iddo adeiladu ei dy.  Cymerodd amser i gynllunio a meddwl am y ffordd orau i wneud hynny, a’r canlyniad oedd bod ei dy ef wedi gallu gwrthsefyll y storm fawr a ddigwyddodd wedyn .

  4. Eglurwch fod angen i ni fod y math o bobl sy’n meddwl am yr hyn y byddwn ni’n ei wneud, a gallu sylweddoli y bydd unrhyw benderfyniadau a wnawn yn cael effaith fawr ar ein dyfodol. Holwch y plant ydyn nhw’n gallu meddwl am unrhyw enghreifftiau o bethau y gallen nhw’u gwneud yn awr a allai gael effaith ar eu bywydau yn y dyfodol:

    Fe fyddai’n bosib iddyn nhw fwyta gormod o fwyd sydd ddim yn fwyd iach a hynny’n eu gallu effeithio ar eu hiechyd yn y dyfodol.

    Os na fyddan nhw’n gwneud eu gorau yn eu gwaith ysgol, efallai na fyddan nhw’n llwyddo pan fyddan nhw’n hyn, ac wedyn fe fyddan nhw’n methu cael y math o swydd y bydden nhw’n ei hoffi.

    Beth pe byddai bachgen neu ferch yn gas o hyd wrth blant eraill ar yr iard amser chwarae ac yn y diwedd yn sylweddoli nad oes neb eisiau bod yn ffrindiau ag ef neu hi wedyn.

    Gofynnwch am enghreifftiau o ymddwyn yn ddoeth ym mhob achos.

  5. Pwysleisiwch fod bod yn ‘ddoeth’ yn golygu dysgu o brofiadau yn y gorffennol, a meddwl yn ofalus am y penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud, ac am y pethau y byddwn ni’n eu gwneud ar hyn o bryd.

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Meddyliwch am y penderfyniadau y bydd yn rhaid i chi eu gwneud heddiw – pa un ai gweithio’n galetach yn y dosbarth, neu adael i rywun chwarae â chi yn ystod amser chwarae, bod yn foneddigaidd, pa un ai helpu’ch mam neu rywun arall ar ôl mynd adref o’r ysgol, ai peidio.

Cofiwch mai chi piau’r dewis; fe allwch chi wneud y dewis iawn neu’r dewis anghywir.

Gweddi:

Annwyl Dduw,
Helpa ni i fod yn ddoeth.
Helpa ni i sylweddoli bod canlyniadau i bopeth y byddwn ni’n ei wneud.
Helpa ni hefyd i wneud y penderfyniadau iawn,
a fydd yn benderfyniadau gorau ar ein lles ein hunain,
ac yn orau i bobl eraill hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon