Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy Yw’r Pwysicaf?

Annog y plant i sylweddoli bod pawb yn bwysig, ac na fyddai cartref neu ysgol yr un fath heb i bawb fod yno.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i sylweddoli bod pawb yn bwysig, ac na fyddai cartref neu ysgol  yr un fath heb i bawb fod yno.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen yr offer a’r cynhwysion i wneud paned o de a theisen: 
    Bag te, dwr, siwgr, llefrith, cwpan, llwy
    Siwgr, margarin, wyau, blawd, bowlen, llwy, tun crasu

  • Fe allech chi addasu hyn a defnyddio bwydydd eraill, fel pitsa ac ysgytlaeth; neu unrhyw beth sy’n syml i’w wneud gan ddefnyddio ychydig o wahanol gynhwysion.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i wneud cwpanaid o de a gofynnwch i rywun eich helpu. Gyda help y plentyn, gwnewch y baned. (Efallai y byddwch chi’n dymuno defnyddio dwr sydd heb fod yn ferwedig  am resymau iechyd a diogelwch. Neu os ydych chi’n defnyddio dwr poeth, gofalwch mai chi’n unig fydd yn trin hwnnw.)

  2. Nawr, gofynnwch i’r plant pwy fyddai’n hoffi eich helpu i wneud teisen. Gwahoddwch blentyn arall i’ch helpu chi gymysgu’r cynhwysion a rhoi’r deisen yn y tun yn barod i’w chrasu. (Fe allwch chi grasu’r deisen ar ôl y gwasanaeth, a’i rhannu efallai gyda’r plant yn ddiweddarach i’w hatgoffa am y gwasanaeth.) Os mai teisen y gallwch chi ei choginio yn y popty microdon yw hi, fe allech chi ei choginio yn ystod y gwasanaeth, a bydd yr arogl da naill ai’n tynnu sylw’r plant neu’n ychwanegu at yr argraff!

  3. Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n feddwl yw’r cynhwysyn pwysicaf, naill ai wrth wneud y gwpanaid o de, neu wrth wneud y deisen.  Mae’n debyg y bydd eu hatebion yn amrywio, ond ceisiwch eu cael i drafod pa wahaniaeth fyddai pe bai ambell gynhwysyn yn cael eu gadael allan o’r broses. Meddyliwch am bob un yn ei dro: byddai’r blas yn wahanol heb y siwgr, byddai’r deisen yn fflat iawn heb y blawd, ac ati. 

    Beth bynnag, yn eu barn bersonol nhw yw’r cynhwysion pwysicaf, eglurwch y byddai’n gwneud tipyn o wahaniaeth pe bai unrhyw un o’r cynhwysion ar goll, yn y deisen neu yn y gwpanaid o de hyd yn oed.

  4. Rydym yn aml yn hoffi’r syniad o fod yn bwysig. Er hynny, yn union fel mae pob cynhwysyn yn bwysig, am wahanol resymau, felly hefyd rydyn ninnau i gyd yn bwysig am wahanol resymol. Yn union fel y byddai’r deisen ddim cystal heb y siwgr neu’r blawd, neu’r margarin, felly hefyd y byddai ein hysgol neu’n cartrefi heb i ni fod yno - mae gennym ni i gyd ein rhan hanfodol i’w chwarae!

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Mewn ysbaid o ddistawrwydd, atgoffwch eich hunain eich bod chi’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’r rhai o’ch cwmpas chi!
Rydych chi’n bwysig, ac ni fyddai eich cartref, na’ch ysgol chi, yr un fath heboch chi.
Ac…
Mae’r bobl sydd o’ch cwmpas chi hefyd yn bwysig, ac ni fyddai eich cartref, na’ch ysgol chi, yr un fath hebddyn nhw ychwaith!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti ein bod ni i gyd yn bwysig,
a bod pob un ohonom yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r byd o’n cwmpas ni.
Helpa ni i werthfawrogi pawb ac i ofalu am ein gilydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon