Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Spot the tourist

Dangos ein bod yn aml yn barnu pobl wrth yr olwg sydd arnyn nhw ar y tu allan.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos ein bod yn aml yn barnu pobl wrth yr olwg sydd arnyn nhw ar y tu allan.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un aelod o’r staff i wisgo fel ymwelydd neu rywun ar ei wyliau, e.e. yn gwisgo het haul, gyda sach deithio, camera ac yn cario map – gorau po fwyaf o bethau y gallwch chi feddwl amdanyn nhw.

  • Paratowch y sgript (gwelwch rhif 3).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i un neu ddau o’r plant lle buon nhw ar eu gwyliau. Beth welson nhw? Beth wnaethon nhw ei fwynhau orau? Fe fydd y plant, mae’n debyg wedi sylwi ar ymwelwyr yn ystod gwyliau’r haf. Eglurwch ein bod yn galw’r bobl hyn yn dwristiaid.

  2. Eglurwch yr hoffech chi i’r plant wneud gwaith ditectif yn ystod y dyddiau nesaf. Mae’n bosib fod rhai twristiaid yn dal o gwmpas, er bod gwyliau’r haf drosodd i ni’r rhai sy’n mynd i’r ysgol. Fe hoffech chi iddyn nhw sylwi oes rhai ymwelwyr yn dal o gwmpas. Gofynnwch am awgrymiadau sut gallwn ni adnabod twristiaid:
    Beth fyddan nhw’n ei wisgo?
    Beth fyddan nhw’n ei gario?  – sach deithio, ysbienddrych, camera. 
    Beth fyddan nhw’n edrych arno? – mapiau, cardiau, adeiladau arbennig, etc.
    Beth fyddan nhw’n ei brynu?
    Pa iaith fyddan nhw’n ei siarad?

  3. Dyma’r adeg y byddwch wedi trefnu i’r aelod o staff, sydd wedi ei wisgo fel ymwelydd, yn dod atoch chi ac yn rhoi neges i chi. Awgrymwch iddo neu iddi bod golwg fel ymwelydd arno neu arni, ond eich bod chi’n gwybod nad ymwelydd ydyw. Holwch yr ‘ymwelydd’ pam ei fod wedi gwisgo felly - a pham ei fod yn cario sach deithio a chamera ac yn edrych ar y map, ac ati? 

    Gallwch ddarlunio’r sefyllfa fel y mynnoch, yn dibynnu ar sut mae’r oedolyn wedi’i wisgo, neu dywedwch rywbeth fel hyn:

    Mr/Ms… roedden ni’n meddwl mai ymwelydd oeddech chi pan ddaethoch chi i mewn, twrist o America, efallai! Pam rydych chi’n cario camera? 

    ‘O wel, wyddoch chi, rydw i wedi bod yn nosbarth Blwyddyn 2. Ydych chi wedi gweld yr arddangosfa wych o drychfilod sydd ganddyn nhw yno? Roedd yn rhaid i mi gael tynnu ychydig o luniau ar gyfer llyfr cofnodi sydd gennym ni yma yn yr ysgol.'

    Ond pam roeddech chi eisiau’r map?

    ‘O wel, wyddoch chi, rydw i wedi bod yn cael golwg ar gynllun o’r ysgol, ac wedi bod yn meddwl efallai y gallem ni newid ambell beth o gwmpas yr ysgol os cawn ni.' 

    Ond pam rydych chi eisiau gwisgo’r het?

    ‘O wel, wyddoch chi, rydw i’n mynd i Sbaen ar fy ngwyliau yn ystod gwyliau’r hanner tymor ac mae fy ngwraig ofn i mi fod allan yn yr haul heb rywbeth i amddiffyn fy mhen. Mi feddyliais i y byddwn i’n dechrau ei gwisgo er mwyn dod i arfer â hi.

    A pham y sach deithio? 

    'Poen yn fy nghefn sydd gen i! Fe fyddai plygu i lawr a chario pethau mewn unrhyw ffordd arall yn anodd i mi heddiw!'

  4. Eglurwch na fyddai Mr/Ms… wedi gwisgo fel hyn fel rheol.

    Wrth i ni ddysgu bod yn sylwgar neu’n graff, fe fyddwn ni’n rhagdybio pethau (ffurfio barn neu syniadau heb wybod y ffeithiau) am bobl, ac yn aml fe fyddwn ni’n iawn hefyd. Er enghraifft, mae’n debyg y byddai’n iawn i chi ragdybio, os yw rhywun yn gwisgo crys neu wisg pêl-droed Manchester United, ei fod ef neu hi yn cefnogi’r tîm hwnnw ac yn hoffi pêl-droed. Ond fe allai’n unigolyn hwnnw fod yn gwisgo’r dillad neilltuol rheini oherwydd bod rhywun wedi’i herio, wedi’u gwisgo mewn camgymeriad, neu efallai yn eu gwisgo am mai dyna’r unig bethau glân oedd ganddo i’w gwisgo!

    Mae’n debyg y byddai’n iawn i chi ragdybio, os yw Mari yn bwyta brechdanau caws bob amser cinio ei bod yn hoff iawn o gaws. Ond efallai bod ei mam yn gweithio mewn ffatri gaws ac mai dyna’r unig beth y mae hi’n ei roi i bawb o’r teulu ar eu brechdanau, bob dydd!

    Mae’n debyg y byddai’n iawn i chi ragdybio, os yw plant yr ysgol yn gweiddi 'Hwre!' ac yn ymddangos yn gynhyrfus ar ddiwedd y tymor, eu bod yn edrych ymlaen at gael mynd ar eu gwyliau! Ond efallai nad yw pob plentyn yn mynd ar ei wyliau, efallai bod un o’r plant yn symud i fyw i rywle arall y diwrnod wedyn ac yn bryderus ynghylch hynny.

  5. Mae’n werth i ni gofio nad yw pethau bob amser yn union fel maen nhw’n edrych. Fe allwn ni ffurfio barn am bobl ar sail beth maen nhw’n ei wisgo, neu sut olwg sydd arnyn nhw, neu sut maen nhw’n ymddwyn. Ond fe allwn ni fod yn hollol anghywir. Mae’n well dod i adnabod pobl yn gyntaf cyn i ni ffurfio barn am bwy ydyn nhw a sut bobl ydyn nhw.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Weithiau rydyn ni’n gallu bod yn sarrug, neu’n drist neu’n gofidio am bethau. Sut y byddem ni’n hoffi i bobl eraill ymddwyn tuag atom ni ar adegau felly?
A fydd pobl, weithiau’n fy marnu ar gam?
A fyddaf fi, weithiau’n barnu pobl eraill ar gam?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Ti yn unig sy’n gwybod yn iawn beth sy’n mynd ymlaen yn ein calonnau ac yn ein meddyliau.
Fyddi di byth yn ein barnu yn ôl y ffordd rydyn ni’n edrych, gan dy fod ti’n gwybod y gall hyn fod yn gamarweiniol yn aml.
Helpa ni i fod yn ddoeth ac yn debyg i ti.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon