Christmas
Darparu cyflwyniad syml ar gyfer y Nadolig.
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Darparu cyflwyniad syml ar gyfer y Nadolig.
Paratoad a Deunyddiau
- Darllenwch y gerdd yn ofalus. Cafodd ei llunio i’w defnyddio mewn nifer o ffyrdd. Gallai’r dosbarth cyfan gydadrodd y gerdd; neu gallai rhywrai adrodd pennill yr un, gyda rhai eraill yn ategu’r gerdd â symudiadau wrth iddi gael ei darllen.
- Gyda phenillion 1, 2 a 3 mae’n bosib cyfleu paratoadau’r oes fodern, a bydd penillion 4 i 7 yn dangos y camau tuag at olygfa’r Geni, a gaiff ei wylio gan y rhieni a’r plant. Efallai y bydd angen saib rhesymol rhwng pob pennill er mwyn caniatáu amser i wneud y symudiadau.
- Byddai gwisgoedd a phrops syml yn ychwanegu at yr effaith. Fe fyddai’n bosib chwarae cerddoriaeth Nadoligaidd addas cyn i’r perfformiad ddechrau hefyd.
Gwasanaeth
Y Nadolig
addasiad o gerdd Jan Edmunds
Pan fydd plant yn meddwl am y Nadolig,
Beth yw’r peth cyntaf a ddaw i’w meddyliau?
Fel rheol, meddwl am yr anrhegion fyddan nhw’n eu cael
Gan eu perthnasau a’u ffrindiau.
I rieni, mae’r holl waith paratoi,
Cant a mil o bethau i’w gwneud yn ddi-oed,
Cerdded y siopau a phrynu bwyd,
Er mwyn dathlu’r Nadolig yn y ffordd orau erioed.
Heb anghofio’r goeden,
A’r llu goleuadau,
Mae pawb wrth eu bodd
Gyda’r holl addurniadau.
Ond arhoswch! Fe ddylem gofio pam, ar y diwrnod hwn,
Diwrnod sy’n hynod o ‘sbesial’,
Sef, bod Iesu wedi’i eni ym Methlehem,
Flynyddoedd yn ôl – a hynny mewn stabl!
Fe gyhoeddodd angylion y newydd mawr
I’r bugeiliaid yn y caeau.
Ac fe aethon nhw’n syth i Fethlehem
I weld y baban, a phlygu eu gliniau.
Daeth tri brenin ag anrhegion i’r baban bach,
Aur, thus a myrr, oedd ganddyn nhw’n wir.
Fe ddaethon nhw o hyd iddo yn ei wely tlawd
Ar ôl dilyn golau disglair seren glir.
Cofiwch felly ar adeg y Nadolig,
Y rheswm am yr holl ddathliadau,
Sef bod Iesu wedi’i eni ar y diwrnod hwn,
Iesu, ddaeth i’n dysgu ni sut i fyw ein bywydau.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Gofynnwch i’r plant feddwl am stori’r Nadolig tra bydd cerddoriaeth Nadoligaidd yn cael ei chwarae.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y Nadolig:
Amser arbennig i fod gyda’r bobl sy’n ein caru ni,
Amser i ddangos i bobl pa mor bwysig ydyn nhw i ni,
Amser i gofio dy gariad tuag atom, a ddangoswyd yn stori genedigaeth Iesu.
Amen.