Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Syrpreis Mawr!

Archwilio’r syniad fod Iesu’n syrpreis!

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad fod Iesu’n syrpreis!

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch chi angen rhai neu’r cyfan o’r canlynol: Hosan Nadolig, cracer Nadolig, anrheg wedi’i lapio, calendr Adfent, bag lwcus.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant a ydyn nhw erioed wedi cael syrpreis mawr.  Gofynnwch i un neu ddau o’r plant ddweud rhagor am hynny wrthych chi.

  2. Dangoswch yr eitemau sydd gennych chi i’r plant, a gofynnwch beth sydd gan bob un ohonyn nhw i’w wneud â syrpreis: bydd yr hosan yn llawn syrpreisys fore Nadolig; dydych chi ddim yn gwybod beth yw’r anrheg nes byddwch chi’n tynnu’r papur lapio, felly fe fydd yn syrpreis; mae’n rhaid i chi dynnu’r gracer i ddod o hyd i anrheg syrpreis bychan a jôc.

  3. Eglurwch fod y Nadolig yn amser gwych am syrpreisys, ond mae Cristnogion yn credu ei fod i gyd wedi dechrau â syrpreis gan Dduw!  Roedd y genedl Iddewig wedi credu am amser hir y byddai Duw yn anfon brenin ac arweinydd gwych.  Wnaeth Duw ddim anfon brenin gwych, er hynny; yn hytrach, fe anfonodd faban bach a anwyd i bobl gyffredin, dlawd - dyna syrpreis oedd hynny!

  4. I lawer o bobl, roedd y syniad y byddai Duw yn anfon baban bach yn ymddangos mor annhebygol fel nad oedden nhw’n credu y gallai Iesu fod yn ddewis arbennig Duw.  Er hynny, mae Cristnogion yn credu fod Iesu wedi cael ei anfon gan Dduw i ddangos cymaint y mae Duw yn ein caru ni.  Dyna pam eu bod nhw’n meddwl mai amser i ddathlu yw’r Nadolig.

  5. Darllenwch y gerdd neu gofynnwch i rai o’r plant wneud hynny:

    Syrpeis, syrpreis!
    Nid dyna oeddech chi’n ei ddisgwyl.
    Eich car newydd wedi ei wneud o jeli.
    Eich cath yn bwyta esgid.
    Eich pensiliau yn drewi.
    A’ch athro wedi troi’n las.
    Yr ysgol yn hedfan yn yr awyr.
    Adenydd yn tyfu ar gefn eich mam.
    Y lleuad wedi cuddio dan eich cadair.
    Ac a yw’r baban hwnnw, a anwyd mewn stabl i’r ddau ddi-nod hynny, wir yn frenin?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Meddyliwch am syrpreis a gawsoch chi yn y gorffennol, neu syrpreis rydych chi’n gobeithio y byddwch chi’n ei gael yn y dyfodol!  Meddyliwch am funud sut y dechreuodd y Nadolig cyntaf – gyda genedigaeth baban bach.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydym i gyd yn hoffi syrpreisys,
ond y Nadolig hwn, helpa ni i gofio dy syrpreis mwyaf –
genedigaeth Iesu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2007    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon