Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Brenin i’r Bobl

Meddwl am arwyddocâd genedigaeth Iesu mewn stabl dlawd.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am arwyddocâd genedigaeth Iesu mewn stabl dlawd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen lluniau o frenhinoedd a breninesau, palasau a chestyll. Fe allai'r rhain fod yn lluniau pobl go iawn, o’r cyfnod presennol neu o oesoedd a fu, o ffilmiau, neu’n ddarluniau o lyfrau stori plant.
  • Rhestrwch y geiriau canlynol ar fwrdd gwyn (neu eu gosod fel labeli y gallwch chi eu symud i’w harddangos), ar gyfer ymarferiad paru geiriau.

    Ble byddech chi’n dod o hyd i’r rhain?

    aderyn                                              nyth
    cogydd                                             garej
    athro                                                 stabl
    mochyn                                             pegwn y de
    baban                                                cae
    peiriannydd                                        cegin
    pengwin                                             twlc
    defaid                                                dosbarth

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y lluniau o’r brenhinoedd/ breninesau/ tywysogesau a sgwrsiwch amdanyn nhw. Mewn pa fath o gartrefi y mae’r rhain yn byw? Dangoswch luniau’r palasau a’r cestyll a thrafodwch y rhain hefyd.

  2. Gofynnwch am rai gwirfoddolwyr o blith y plant ieuengaf i’ch helpu chi gyda’r ymarferiad paru geiriau. Gallai nifer o blant gymryd eu tro i baru’r bobl neu’r anifeiliaid â’u cartrefi neu’r llefydd y maen nhw i’w gweld, a gobeithio y bydd dau enw ar ôl, sef ‘baban’ a ‘stabl’.

  3. Eglurwch na fyddech chi fel rheol yn disgwyl gweld babi mewn stabl. Yn fwy na hynny, fyddech chi ddim yn disgwyl i faban gael ei eni mewn stabl – a beth os byddai’r baban hwnnw’n dywysog? Fyddai tywysog bach yn cael ei eni mewn stabl? Wel, na fyddai wrth gwrs! Mwy na thebyg fe fyddai tywysog bach yn cael ei eni mewn palas brenhinol.

    Dyna pam y byddwn ni’n clywed yr hanes, yn stori’r Nadolig, am dri gwr doeth oedd wedi bod yn dilyn seren arbennig lachar iawn am ddyddiau lawer, yn mynd i chwilio am frenin newydd ym Mhalas y Brenin Herod. Roedden nhw’n gwybod bod rhywbeth arbennig iawn wedi digwydd, bod rhywun arbennig iawn wedi’i eni.  Ond doedden nhw ddim wedi meddwl chwilio am y baban bach hwnnw mewn stabl!

  4. Felly, pam fod y brenin hwn, o’r enw Iesu - oedd yn ôl yr hanes yn y Beibl, yn fab Duw ei hun - wedi’i eni mewn stabl gyffredin? Mae Cristnogion yn credu bod y stori hon yn dweud hynny wrthym ni am mai ‘brenin y bobl’ fyddai’r baban bach arbennig hwn. Roedd hwn yn mynd i fod yn frenin i bobl gyffredin fel chi a mi. Fe fyddai’n tyfu i fyny i fod yn Frenin Cariad. Fe fyddai’n byw ymysg y bobl gyffredin, yn bwyta gyda nhw, yn treulio’i ddyddiau gyda nhw, ac yn eu dysgu pa ffordd yw’r ffordd iawn o fyw.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Pa un sydd bwysicaf: grym, arian, a thai mawr crand; neu gyfeillgarwch, cymwynasgarwch a chariad?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch i ti am anfon Iesu i’r byd i ddangos i ni sut un wyt ti.
Diolch i ti, er dy fod di’n frenin, dy fod di hefyd yn ffrind i ni,
ffrind sy’n hoffi bod gyda phobl gyffredin fel ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon