Pethau Newydd
Ystyried sut rydym ni’n gofalu am bobl eraill ac am ein hanifeiliaid anwes.
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried sut rydym ni’n gofalu am bobl eraill ac am ein hanifeiliaid anwes.
Paratoad a Deunyddiau
- Does dim llawer o waith paratoi os yw’r gwasanaeth yn cael ei gyflwyno gan athro neu athrawes. Byddai OHP neu fwrdd gwyn yn ddefnyddiol ar gyfer darllen y gerdd. Fe fyddai’n bosib i’r gerdd gael ei darllen gan unigolion neu ei defnyddio fel darn i’w lefaru ar y cyd; yn y naill achos neu’r llall fe fyddai’n dda ymarfer hynny o flaen llaw.
Gwasanaeth
- Atgoffwch y plant ei bod hi’n ddechrau blwyddyn newydd. Mae llawer o bobl yn gwneud addunedau blwyddyn newydd er mwyn ceisio gwella’u hunain a chael gwared ag arferion drwg. Fe allech chi dreulio cyfnod byr yn gwahodd y plant i drafod eu bwriadau da am y flwyddyn newydd. Cyflwynwch stori Dai.
Dai
addasiad o stori Jan Edmunds
Roedd Dai, y ci, yn swatio yn ei wely. Doedd neb yn cymryd fawr o sylw ohono y dyddiau hyn. Doedd ei feistr ddim yn mynd ag ef am dro yn rheolaidd fel yr arferai, doedd y plant ddim eisiau chwarae ag ef fel roedden nhw ers talwm, ddim yn mynd ag ef i’r parc i chwarae pêl fel y bydden nhw’n arfer gwneud. Cofiai am yr hwyl fawr y bydden nhw’n ei gael. Roedd Dai wedi mynd yn hen. Roedd poenau yn ei gymalau ac fe gysgai bron trwy’r dydd. Teimlai’n unig a theimlai nad oedd neb yn ei garu erbyn hyn. Yn aml, fe fyddai aelodau’r teulu yn dwrdio am fod Dai o dan draed, fe fyddai ar eu ffordd ac yn methu symud yn gyflym iawn. Roedd Dai yn hiraethu am y dyddiau a fu pan fyddai rhywun yn aml yn rhoi mwythau iddo, yn rhoi sylw mawr iddo, ac yn siarad yn gyfeillgar. Ei anwybyddu y bydden nhw ran amlaf erbyn hyn. Wrth gwrs, fe fyddai’n cael ei fwyd yn gyson, ac fe ofalai rhywun bod ei wely’n lân ac yn gyfforddus, ond fe hoffai pe byddai rhywun yn dangos rhywfaint o gariad tuag ato yn awr ac yn y man.
Un noson roedd yn cysgu yn ei wely, ac fe glywodd Dai swn anghyfarwydd. Synhwyrodd fod rhywbeth o’i le. Roedd rhywun dieithr yn y ty! Llusgodd Dai ei hun o’i wely yn y gegin a mynd i gyfeiriad yr ystafell fyw. Roedd y drws yn gil agored ac fe welai olau tortsh yn cylchdroi o gwmpas y cypyrddau a’r droriau. Roedd rhywun yn cymryd pethau oddi yno ac yn eu rhoi mewn bag mawr.
Gwyddai Dai fod yn rhaid iddo wneud rhywbeth. Dechreuodd gyfarth yn uchel a neidiodd i gyfeiriad y lleidr. Dychrynodd y lleidr gan faglu a syrthio i’r llawr. Neidiodd Dai ar ei gefn a’i ddal i lawr. Wrth lwc, fe ddeffrodd y teulu ar ôl clywed Dai yn cyfarth, ac fe wnaethon nhw alw’r heddlu. A chyn pen dim roedd y lleidr wedi’i ddal. Ond doedd Dai ddim yn symud. Roedd yn hollol lonydd. Ofnai’r heddwas bod y lleidr wedi’i daro â’r dortsh - efallai ei fod wedi’i ladd.
Sylweddolodd y teulu pa mor ddewr yr oedd Dai wedi bod, yn dal y lleidr, ac fe wnaethon nhw alw’r milfeddyg. Roedden nhw’n teimlo’n euog iawn fod Dai wedi parhau’n ffyddlon iddyn nhw i’r diwedd, ac wedi eu gwarchod i gyd, er nad oedden nhw’n rhoi fawr o sylw iddo’n ddiweddar. Ond yn wir, doedd Dai ddim wedi marw, ac ymhen ychydig o ddyddiau, ac ar ôl cael tipyn o ofal, roedd Dai yn well unwaith eto. Roedd yn arwr gan y teulu i gyd. Doedden nhw ddim yn ei anwybyddu ar ôl hynny, a chafodd lawer o sylw a chariad am weddill ei oes. - Os yw amser yn caniatáu, trafodwch y stori. Sgwrsiwch am y teimladau sy’n gysylltiedig â’r stori. Sut roedd Dai yn teimlo ar ddechrau’r stori, a sut roedd yn teimlo erbyn y diwedd? Beth oedd wedi newid yn ystod y stori? Sut roedd agwedd y teulu tuag at Dai wedi newid?
Gwahoddwch y plant i ddarllen y gerdd syml hon, neu i wrando arni.
Pethau newydd
addasiad o gerdd Jan Edmunds
Mae bob amser yn dda cael rhywbeth newydd
Dillad neu gêm neu lyfr neu ddau,
Efallai mai car hoffech chi ei gael, neu ganolfan gerddoriaeth
Er mwyn gallu gwrando a mwynhau.
Mae pethau newydd yn edrych yn dda a glân,
heb eu defnyddio erioed o’r blaen.
Mae’n braf cael anrheg newydd sbon
neu allu prynu rhywbeth o’r siop, heb fawr o straen.
Mae’n braf iawn cael cath fach i’w mwytho,
Neu gi bach i chwarae’n rhydd.
Mae anifeiliaid anwes yn bethau arbennig iawn,
ac fe fydd angen gofal arnyn nhw o ddydd i ddydd.
Ond beth fydd yn digwydd pan fyddwn ni wedi blino arnyn nhw?
A dim awydd chwarae gyda nhw mwy?
Fyddwn ni’n trafferthu gofalu amdanyn nhw?
Neu dim ond eu hanwybyddu’n llwyr?
Wrth i’r flwyddyn newydd ddechrau,
Beth am gofio am ein hanifeiliaid anwes, tyner,
A chofio bod arnyn nhw angen gofal.
Gofal a chariad, bob dydd, bob amser.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Gwrandewch ar y gerdd eto a meddyliwch am y geiriau.
Gweddi
Wrth i ni ddechrau ar ein taith trwy’r flwyddyn newydd,
helpa ni i fod yn garedig ac i ystyried pobl eraill.
Rydyn ni’n meddwl am yr holl bobl rydyn ni’n eu caru, aelodau ein teulu a’n ffrindiau,
ac rydyn ni’n diolch amdanyn nhw.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.