Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Defnyddio Rhywbeth mewn Ffyrdd Gwahanol!

Annog y plant i sylweddoli, yn union fel mae pethau rydyn ni’n eu defnyddio’n gallu bod yn ddefnyddiol neu’n niweidiol, felly hefyd mae ein geiriau’n gallu bod yn ddefnyddiol neu’n niweidiol, yn ôl y ffordd rydyn ni’n eu defnyddio nhw.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i sylweddoli, yn union fel mae pethau rydyn ni’n eu defnyddio’n gallu bod yn ddefnyddiol neu’n niweidiol, felly hefyd mae ein geiriau’n gallu bod yn ddefnyddiol neu’n niweidiol, yn ôl y ffordd rydyn ni’n eu defnyddio nhw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o eitemau y mae’n bosib eu defnyddio mewn ffordd ddefnyddiol, ac mewn ffordd sydd heb fod mor ddefnyddiol hefyd, fel matsis, dwr, moddion a chyffuriau (potel foddion neu baced tabledi gwag), chwiban.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch yr eitemau i’r plant fesul un, a holwch ym mha ffordd mae’r pethau’n gallu bod yn ddefnyddiol i’n helpu ni. Er enghraifft, gallwn ddefnyddio matsis i gynnau tân i’n cadw ni’n gynnes, neu i oleuo cannwyll i roi golau i ni (yn enwedig pan fydd y trydan wedi diffodd), neu i oleuo canhwyllau ar deisen ben-blwydd. Gallwn ddefnyddio dwr i ymolchi  a’n cadw’n hunain yn lân, i olchi ein dillad, ac i’w yfed i dorri ein syched. Byddwn yn cymryd moddion er mwyn teimlo’n well pan fyddwn yn sâl, gall y cyffur sydd ynddo waredu’r boen neu gael gwared â’r haint sy’n ein blino. Beth am y chwiban? Gall canolwr ei defnyddio mewn gêm, neu fe all rhywun sydd wedi mynd i drafferthion wrth gerdded ar y mynydd ddefnyddio chwiban i alw am help.

  2. Nawr, gofynnwch i’r plant ail edrych ar yr eitemau a gofyn iddyn nhw feddwl am ffordd y gallai rhywun gamddefnyddio’r pethau yma, a’u defnyddio mewn ffordd allai fod yn niweidiol neu’n beryglus. Er enghraifft, fe allech chi losgi wrth chwarae â matsis neu hyd yn oed achosi tân mawr a difrod difrifol. Mae’n bosib i ddwr achosi difrod difrifol hefyd os oes gormod ohono, fel ar adeg llifogydd mawr. Gall moddion fod yn niweidiol hefyd os oes rhywun yn cymryd gormod ohono, neu os byddwch chi’n cymryd rhywbeth anghywir, fe allech chi fynd yn sâl iawn. Os oes chwiban yn cael ei chwythu’n rhy uchel yn ymyl clust rhywun, fe allai hynny achosi niwed hefyd.

  3. Eglurwch fod sawl peth y gallwch chi ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n ddefnyddiol, ond o’i ddefnyddio mewn ffordd arall, sy’n gallu bod yn niweidiol. Holwch y plant ydyn nhw’n gallu meddwl am enghreifftiau eraill eu hunain.

  4. Awgrymwch eu bod hi’n bosib defnyddio geiriau hefyd mewn ffordd sy’n helpu rhywun. Ac o ddefnyddio geiriau mewn ffordd wahanol, fe allan nhw fod yn niweidiol. Fe allwn ni siarad geiriau caredig, llawn anogaeth, geiriau tyner, cyfeillgar, neu fe allwn ni ddweud geiriau sy’n brifo teimladau, geiriau angharedig a chas. Mae gennym ni ddewis, ac fe allwn ni benderfynu sut i ddefnyddio grym ein geiriau.

  5. Gofynnwch i’r plant feddwl am adegau pan gawson nhw’u brifo gan eiriau cas. Yna, gofynnwch iddyn nhw feddwl am adegau pan ddywedodd rhywun rywbeth caredig wrthyn nhw a gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus wedi iddyn nhw glywed y geiriau hynny – efallai y bydd rhai o’r plant y fodlon rhannu rhai o’r profiadau da rheini.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Caewch eich llygaid a meddyliwch am adeg y gwnaeth rhywun eich helpu chi, neu wneud i chi deimlo’n hapus trwy ddweud rhywbeth caredig wrthych chi. Beth am benderfynu ceisio dweud rhywbeth wrth rywrai heddiw fydd yn gwneud iddyn nhw deimlo’n dda!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am roi i ni y gallu i siarad.
Helpa ni bob amser, os gweli di’n dda,
i gofio defnyddio ein ceg er mwyn dweud pethau fydd yn helpu pobl eraill.
Helpa ni i wneud rhywun deimlo’n dda heddiw
oherwydd yr hyn y byddwn ni wedi’i ddweud wrthyn nhw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon