Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Ffolant Berffaith

Helpu’r plant i ddeall nad oes neb yn union ’run fath â’i gilydd, ac na fwriadwyd i neb erioed fod yn union yr un fath â rhywun arall.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall nad oes neb yn union ’run fath â’i gilydd, ac na fwriadwyd i neb erioed fod yn union yr un fath â rhywun arall.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddai’n bosib paratoi’r gerdd ar ffurf rap, mewn dwy ran, i’w chyflwyno gan y plant hynaf.

Gwasanaeth

  1. Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i fwriadu i fod yn hwyliog, felly byddwch yn barod am ychydig mwy o swn nag arfer! 

    Sgwrsiwch am y traddodiadau sy’n gysylltiedig â Dydd Sant Ffolant - cardiau, rhosod coch, prydau bwyd arbennig, neu gariadon yn rhoi anrhegion i’w gilydd. Efallai eich bod eisoes wedi sôn am Wyl Santes Dwynwen, ar 25 Ionawr, fel dydd gwyl nawddsant cariadon Cymru. Soniwch wrth y plant fod eleni, 2008, yn Flwyddyn Naid, sef blwyddyn pan fydd 29 diwrnod ym mis Chwefror yn hytrach na 28 diwrnod. Mae hyn yn digwydd bob pedair blynedd, ac mae traddodiad yn gysylltiedig â Blwyddyn Naid sy’n mynd yn ôl i’r bumed ganrif . Yn ystod Blwyddyn Naid roedd merch yn gallu gofyn i ddyn ei phriodi. Eglurwch nad oedd hyn yn beth cyffredin, ond ganrifoedd yn ôl, yn y flwyddyn 1288 dan ddeddf a luniodd y Frenhines Margaret yn yr Alban, fe allai dyn gael dirwy pe byddai’n gwrthod priodi merch oedd yn gofyn iddo’i phriodi. Gallai’r ddirwy fod yn unrhyw beth o gusan i £1 neu hyd yn oed wisg sidan hardd! Felly, roedd y dynion gymaint o ofn cael cynigion i briodi yn ystod Blwyddyn Naid, gan ferched doedden nhw ddim yn hoff iawn ohonyn nhw, fel y gwnaethon nhw benderfynu cyfyngu rhywfaint ar yr arferiad. Penderfynwyd mai dim ond ar yr un diwrnod penodol hwnnw, sef Chwefror 29, y cai merch ofyn i ddyn ei phriodi - ac yna, mae’n debyg y byddai’r dynion mwyaf ofnus yn cuddio’u hunain trwy’r dydd ar y diwrnod hwnnw!

  2. Beth bynnag, mae’r hen draddodiad hwnnw wedi peidio â bod bron erbyn heddiw. Ond ar ddydd Sant Ffolant mae’n dda cofio bod pobl yn caru’i gilydd ac yn cael eu denu at ei gilydd. Weithiau mae dau sy’n wahanol iawn i’w gilydd yn cael eu denu ynghyd. Weithiau fe gewch chi gyplau lle mae’r dyn yn siaradus a’r ferch yn swil, neu’r dyn yn anhrefnus a’r ferch yn drefnus iawn, neu lle mae’r dyn yn hoff iawn o chwaraeon a’r ferch yn eu casáu  - neu fel arall yn groes hollol! 

    Yn aml fe fydd pobl yn dweud bod cyplau’n gweddu i’w gilydd. Efallai bod un o’r ddau yn gwneud iawn am yr hyn y mae’r llall yn ddiffygiol ynddo. 

    Caiff enghraifft o hyn ei ddarlunio yn yr hen rigwm Saesneg Jack Sprat.

    Jack Sprat could eat no fat 
    His wife could eat no lean
    And so between the two of them
    They licked the platter (plate) clean.


    Fe allen ni gyfieithu’r pennill, yn fras, rywbeth tebyg i hyn:
    Doedd Sioni Gwallter ddim yn bwyta braster 
    Doedd ei wraig ddim yn bwyta’r cig
    Ac felly, rhwng y ddau ohonyn nhw’n wir -
    Roedden nhw’n bwyta’r cyfan i gyd.


    Mae’n amlwg fod yr hen rigwm Saesneg wedi’i lunio  yn y dyddiau pan nad oedd gan y bobl lawer o ddewis beth allen nhw’i gael i’w fwyta. Fe allwch chi ddychmygu Sioni Gwallter yn torri’r tameidiau o fraster oddi ar ei gig ac yn eu gadael ar ochr ei blât, a’i wraig yn eu bwyta wedyn. Dim ond y braster roedd hi yn ei hoffi. Roedd hi yn gadael y cig ar ôl, a Sioni’n bwyta hwnnw wedyn oddi ar ei phlât hithau!   

  3. Y dyddiau hyn, rydyn ni’n ffodus iawn. Yn wir mae cymaint o wahanol  fwydydd ar gael i ni, mae’n anodd dewis weithiau beth i’w gael. Efallai y byddai’r gerdd yn debycach i hyn yn ein hoes ni!

    Roedd dyn o’r enw Sioni Gwallter,
    Na fyddai byth yn bwyta braster.
    Dim teisen,
    Dim hufen,
    Dim caws,
    Dim sosej-rôls
    na phroffiterôls!
    Dim ond yn ei freuddwydion
    y byddai’n meddwl am greision, 
    am fara saim, ac am sglodion.
    Fyddai Gwallter byth yn plygu i demtasiwn,
    Yr un fyddai ei ateb, 
    Yn bendant bob amser,
    'Na, dim diolch,
    dim tamaid o fraster.
    Gwnes adduned i’r dim,
    Rydw i eisiau cadw yn 
    SLIM!’

    Yn byw gyda Gwallter roedd Dot. 
    Doedd honno yn poeni dim iot.
    Roedd hi’n bwyta pob ‘stoj’,
    gan ddweud ‘Beth yw’r ots!’ 
    - pwdinau a sawsiau,
    dô-nyts, ffriters a phastai, 
    salami a phate, 
    a croissants 
    - gyda menyn yn dalpiau!
    Doedd dim wnâi ei stopio. 
    Doedd dim gobaith ei rhwystro. 
    Roedd hi’n rêl roli poli!
    Faint oedd hi’n ei bwyso? 
    Gwell peidio holi!

    Nawr gyda’r stori fach yma am Gwallter,
    Mae’n ddefnyddiol wrth edrych ar fywyd.
    Gan nad oes dau byth yn union ’run fath - 
    Mae pawb yn wahanol i’w gilydd!

    Felly, efallai mai’r lle gorau i chi chwilio am eich ffolant berffaith yw yn y neuadd ginio!

  4. Fe allwch chi atgoffa’r plant pa mor bwysig yw hi i fwyta bwydydd iach a diet cytbwys, ac mai dim ond tipyn o hwyl yw hyn. Ond rhaid i ni gofio hefyd y bydd pawb ohonom yn hoffi pethau gwahanol, pa un ai gwahanol fwydydd, gwahanol ddiddordebau, gwahanol dasgau, neu hyd yn oed wahanol fathau o bersonoliaethau. 

    Cofiwch nad oes dim o’i le ar fod yn wahanol. Rydym i gyd yn wahanol i’n gilydd ac yn unigryw. Mae’n cymryd pob math i wneud byd, neu fel mae’r ymadrodd Saesneg yn nodi - It takes all kinds to make a world.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Pa fath o berson ydych chi?
Pa fath o bobl ydych chi’n eu hoffi orau?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti fod ___ o bobl (y nifer sy’n bresennol) yn y gwasanaeth yma heddiw 
ac nad oes dau na dwy ohonom yn union yr un fath (dim hyd yn oed efeilliaid).
Bydd rhan o’n cymeriad neu ein personoliaeth yn debyg i rywun arall, efallai
ond bydd rhannau eraill yn wahanol.
Mae hynny am fod pawb ohonom yn unigryw.
Wnawn ni byth ddod o hyd i rywun sy’n union yr un fath â ni.
Helpa ni i fwynhau’r gwahaniaethau sy’n perthyn i bob un ohonom.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon