Y Gaeaf
Archwilio tywydd y gaeaf a’r newid sy’n digwydd i blanhigion, i anifeiliaid, ac i ninnau, oherwydd y tywydd.
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio tywydd y gaeaf a’r newid sy’n digwydd i blanhigion, i anifeiliaid, ac i ninnau, oherwydd y tywydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen OHP/ bwrdd gwyn ar gyfer darllen y gerdd.
- Mae’n bosib i athro neu athrawes ddarllen y gerdd, neu fe allai rhai o’r plant ei chyflwyno.
- Casglwch rai lluniau o anifeiliaid fel y draenog a’r wiwer, lluniau coed yn y gaeaf, golygfeydd o eira neu farrug ac unrhyw bethau eraill y mae sôn amdanyn nhw yn y gerdd, neu sy’n cyfleu’r gaeaf.
Gwasanaeth
- Arweiniwch sylw’r plant at dywydd gwlyb neu oer rydych chi o bosib wedi’i gael yn ddiweddar. Holwch pwy sy’n hoffi’r gaeaf, a pham? Rhowch gyfle i’r plant ateb a thrafod.
- Atgoffwch y plant fod rhai pobl o ddifrif yn casáu’r gaeaf, yn enwedig pobl oedrannus sy’n ei chael hi’n anodd cadw’n gynnes. Mae’r gaeaf yn dod â phroblemau i’w ganlyn i rai sy’n teithio ar hyd y ffyrdd. Pan fydd hi’n niwl neu’n dywydd rhewllyd mae’r ffyrdd yn gallu bod yn beryglus. Hefyd mae rhai adar ac anifeiliaid yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i fwyd.
Gwahoddwch y plant i feddwl am eiriau’r gerdd fel rydych chi (neu eraill) yn ei darllen. Gofynnwch iddyn nhw wrando’n ofalus, gan y byddwch chi’n gofyn rhai cwestiynau wedyn ar ôl ei darllen. Defnyddiwch luniau gyda’r testun, lle bynnag mae hynny’n bosib. - Y Gaeaf
(addasiad o gerdd Jan Edmunds)
Mae’r haul dan gwmwl llwyd a thrwm,
Mae’r bore’n dywyll iawn.
Mae’r gwynt yn oer, a’r aer yn damp -
Yn y gaeaf, dyma’r tywydd a gawn.
Mae’r bryniau pell dan gapiau gwyn,
A’r coed yn sefyll yn dal a noeth,
Llawer wedi colli’u dail i gyd,
Yn gorffwys dros y gaeaf oer.
O dan y pridd mae bylbiau bach,
Yn swatio yno ynghudd,
Gan aros nes y daw hi’n bryd
I dyfu, ac ymestyn at olau dydd.
Mae siâp dail rhedyn ar y gwydr clir,
Y rhew wedi gwneud patrwm hardd,
A chadwyni iâ y corryn bach
Ar wal neu wrych yr ardd.
Mae bywyd yn anodd i’r creaduriaid bach,
Mae’n anodd cael hyd i fwyd.
Bydd rhai yn byw trwy gysgu’n drwm,
Ac eraill yn hedfan i wledydd twym.
Er gwaethaf hyn i gyd, aiff bywyd yn ei flaen,
Daw popeth eto’n fyw, pan ddaw y gwanwyn braf. - Gwahoddwch y plant i ateb y cwestiynau canlynol:
Pa fath o dywydd sy’n cael ei ddisgrifio yn y gerdd?
Beth sydd â chapiau gwyn?
Beth yw’r cap gwyn?
Pam mae’r coed y sefyll yn dal a noeth?
Pa bryd y bydd y dail yn dechrau tyfu unwaith eto ar y coed?
Beth sy’n swatio ynghudd o dan y pridd?
Beth sy’n gwneud patrymau ar y gwydr?
Sut mae rhai anifeiliaid yn cadw’n gynnes dros y gaeaf? (Gaeafgysgu)
Beth mae anifeiliaid ei angen i gadw’n fyw? (Trafodwch - dwr, bwyd, cysgod a gorffwys)
Ym myd natur, cyfnod o orffwys yw’r gaeaf. Mae ar bob peth byw angen gorffwys a chwsg. Mae hwn yn amser i atgyweirio, i gryfhau, a thyfu.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Mae’r tymhorau’n dod ag amrywiaeth a newidiadau.
Beth mae’r gaeaf yn ei olygu i chi?
Sut mae’r tywydd?
Pa rai pethau fyddwch chi’n eu gwneud yn y gaeaf na fyddwch chi’n eu gwneud ar adegau eraill o’r flwyddyn?
Beth ydych chi’n ei hoffi orau am y gaeaf?
Gweddi
Rydyn ni’n diolch am harddwch y byd yn y gaeaf.
Diolch fod pethau’n cael gorffwys, yn cael eu gwarchod, ac yna’n bywiogi eto pan ddaw’r gwanwyn.
Diolch am y ffordd y mae anifeiliaid bach yn cael swatio’n glyd a chysgu’n drwm nes daw’r tywydd yn gynhesach.
Yn union fel mae ar ein cyrff ni angen gorffwys a chwsg, mae Duw wedi trefnu bod y coed a’r blodau hefyd yn cael gorffwys yn y gaeaf.
Rydyn ni’n gwybod y bydd y tywydd braf yn dod eto, bydd y coed a’r planhigion yn deilio ac yn blodeuo, bydd mwy o adar i’w gweld.
Bydd y creaduriaid bach yn deffro a chawn weld yr wyn bach newydd eu geni yn y caeau, a bydd yr haul yn tywynnu ac yn llenwi ein calonnau â hapusrwydd.
Y mae’r Arglwydd yn dda wrth bawb. (Salm 145.9)