Y Robin a Gwynt Oer y Gaeaf
Ystyried problemau a meddwl beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth ddyfalbarhad y robin.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Ystyried problemau a meddwl beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth ddyfalbarhad y robin.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’r gerdd a’r symudiadau yn gwneud y gwasanaeth yn addas ar gyfer y plant ieuengaf, ac mae’r ffeithiau yn ei wneud yn fwy addas ar gyfer y plant hynaf. Gallwch ei addasu ar gyfer eich cynulleidfa fel bo’n briodol.
- Mae yma symudiadau addas ar gyfer plant y Dosbarth Derbyn, ac efallai y byddai’r plant hynaf yn mwynhau darllen y gerdd yn uchel gyda chi.
- Dewisol: llun robin goch, disgrifiadau ysgrifenedig o’r robin ar gyfer y bwrdd gwyn neu sgrin y cyfrifiadur (gwelwch rhif 1).
Gwasanaeth
- Dywedwch wrth y plant eich bod yn meddwl am un aderyn penodol. Gofynnwch iddyn nhw ddyfalu pa aderyn yw’r un rydych chi’n meddwl amdano wrth wrando ar y cliwiau neu’r disgrifiadau sydd gennych chi’n ysgrifenedig (neu gallwch eu cyflwyno ar lafar). Dangoswch neu adroddwch y rhain fesul un yn y drefn ganlynol. Gofynnwch i’r plant godi eu dwylo pan fyddan nhw’n gallu meddwl pa aderyn rydych chi’n cyfeirio ato, a pheidio â gweiddi’r ateb nes byddwch chi wedi cynnig y disgrifiadau i gyd, er mwyn rhoi cyfle i bawb ddyfalu.
Aderyn bychan yw hwn..
Mae’n aros gyda ni trwy’r gaeaf.
Fe welwn ni lun yr aderyn bach yma ar gardiau Nadolig.
Mae ganddo fron goch.
Pan fydd pawb o’r plant wedi cael cyfle i ddyfalu, dangoswch lun y robin goch. Sylwch ar liwiau’r aderyn. - Trafodwch ymhellach gyda’r plant. Pwy sydd wedi gweld robin goch? Ym mhle? Beth oedd y robin yn ei wneud? Y robin yw hoff aderyn pobl Prydain. Pam rydych chi’n meddwl ei fod yn hoff aderyn pobl ein gwlad? Pam rydych chi’n meddwl fod pobl yn hoffi gweld ei lun ar gardiau Nadolig?
Eglurwch i’r plant fod rhai adar yn hedfan i wledydd cynnes dros y gaeaf, ond mae’r robin yn aros gyda ni yma trwy’r gaeaf, trwy ddyddiau tywyll, oer, gwyntog, rhewllyd misoedd Rhagfyr, Ionawr a Chwefror. Mae’n anodd i’r adar bach ddod o hyd i fwyd a chadw’n gynnes yn ystod misoedd y gaeaf, ac mae llawer ohonyn nhw’n marw.
Pan ddaw mis Mawrth, fe ddylai’r tywydd wella, ac fe ddaw’r gwanwyn cyn hir. Ond mae gwynt oer y gogledd yn dal i chwythu ambell dro, ac mae hynny’n galed i’r robin a’r adar bach sydd yn wan ac wedi blino ar ôl brwydro i oroesi’r gaeaf hir. - Darllenwch a meimiwch y symudiadau gyda’r pennill canlynol, sy’n addasiad o’r pennill Saesneg, ‘The north wind doth blow’.
Dyna oer y gwynt y gogledd yn y gaea’ (chwifiwch eich breichiau fel canghennau coed yn symud yn y gwynt)
Mae’n debygol iawn o fwrw eira (codwch eich breichiau eto gan symud eich bysedd i ddarlunio plu’r eira’n disgyn)
Yna, beth wnaiff y robin druan? (lledwch eich breichiau gan droi cledrau eich dwylo allan a gwneud ystum holi â’ch wyneb)
Hedfan i’r sgubor i chwilio am loches (chwifiwch eich breichiau mewn ystum hedfan)
Er mwyn swatio’n glyd, a chadw’n gynnes (lapiwch eich breichiau amdanoch yn dynn)
Gan guddio’i ben o dan ei adain, robin druan! (cuddiwch eich pen yn eich breichiau) - Dyma rai ffeithiau: gall aderyn golli hyd at 10 y cant o bwysau ei gorff yn ystod un noson oer yn y gaeaf. Fel arfer, fe fydd y braster sydd ganddo wedi’i storio yn ei gorff yn gallu ei gadw am nifer o ddyddiau. Ond os nad yw’n gallu cael bwyd bob dydd, yna fe allai cyfnod hir o dywydd oer effeithio cymaint ar yr aderyn bach nes ei fod yn marw.
Dyma pryd y gallwn ni helpu’r adar bach. Fe allwn ni roi bwyd iddyn nhw ar fwrdd adar. Y bwyd addas i’r robin yw braster, caws, bisgedi, briwsion cacen a ffrwythau sych. Atgoffwch y plant fod ar yr adar angen dwr hefyd. - Eglurwch y bydd rhai adegau, mae’n debyg, pan fydd y tywydd yn rhy arw i’r adar bach ddod allan i chwilio am fwyd. Beth mae’r plant yn feddwl fydd y robin yn ei wneud bryd hynny? Cyfeiriwch at y pennill. Yn syml, fe fydd yn rhaid i’r robin bach ddibynnu ar y stôr o fraster sydd ganddo yn ei gorff bach. Fe wnaiff beth bynnag sy’n bosib er mwyn arbed ei hun. Fe fydd yn swatio’n llonydd ac yn ceisio cadw’i hun yn gynnes a chryf, a dal i gredu, nes daw pethau’n well eto.
- Fe allwn ni ddysgu rhai gwersi wrth feddwl am y robin bach. Weithiau, fe fyddwn ninnau’n gorfod wynebu adegau anodd. Weithiau, fe fydd gennym ni broblemau, rhai’n fach ac eraill yn fwy. Bydd rhai problemau’n parhau am gyfnod byr, eraill yn para’n hirach. A diolch byth, fe fydd gennym ni rywun wrth law fydd yn gallu ein helpu trwy gyfnodau anodd, sef pobl fel ein rhieni, athrawon a ffrindiau. Mae hynny’n wir, yn enwedig pan fyddwn ni’n ifanc.
Ond efallai y daw amser wedi i ni dyfu i fyny, a ninnau’n wynebu rhyw broblem neilltuol, y byddwn ni’n meddwl fod yn rhaid i ni ei hwynebu ar ein pen ein hunain. Bryd hynny, fe fydd yn rhaid i ninnau geisio cadw’n hunain yn gryf, a dal i gredu, gan ddal ati’n ffyddiog y daw pethau’n well. Enghraifft o hyn o bosib, fyddai pe baech chi’n cael anhawster â rhyw waith neilltuol yn yr ysgol. Fe fyddwch yn cael help, ond bydd rhaid i chithau ddyfalbarhau a dal ati nes byddwch chi wedi gallu deall y gwaith, neu ei gwblhau. - Dewisol: Mae Cristnogion yn credu bod hwn yn amser hefyd pryd y bydd llawer o bobl yn gallu dysgu bod Duw ar gael iddyn nhw droi ato am help ac i wrando ar eu problemau.
Efallai y byddwch yn teimlo ei bod hi’n briodol sôn yma fod rhai plant yn dod ar draws problemau na ddylen nhw byth orfod eu hwynebu ar eu pen eu hunain. Cysylltwch hyn â pholisi’r ysgol yn erbyn bwlio, a nodwch pwy yw’r rhai y dylai’r plant siarad â nhw os oes unrhyw beth yn eu poeni.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Meddyliwch am adegau pan gawsoch chi broblem neu anhawster y bu’n rhaid i chi ei wynebu a gorfod dal ati’n gryf trwy’r cyfan nes y daeth pethau’n well unwaith eto. Byddwch yn falch ohonoch eich hun, yn falch eich bod wedi llwyddo i ddyfalbarhau. Oes adegau pryd y dylem ni rannu ein problemau a chael help gan oedolion?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydym yn diolch dy fod ti wedi ein gwneud ni’n gryfach nag a feddyliwn ni.
Rydym yn diolch dy fod ti wedi gallu gwneud a chyflawni llawer mwy nag a feddyliwn ni.
Rwyt ti wedi ein gwneud ni’n debyg i ti.
Diolch dy fod ti wedi addo rhoi help i ni a’n gwneud ni’n ddoeth ac yn gryf,
pan fyddwn ni angen bod felly.