Sul y Palmwydd
Cyflwyno stori Iesu’n mynd i mewn i ddinas Jerwsalem, o safbwynt yr asyn.
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Cyflwyno stori Iesu’n mynd i mewn i ddinas Jerwsalem, o safbwynt yr asyn.
Paratoad a Deunyddiau
- Byddai llun mawr o asyn yn ddefnyddiol. Does dim angen mwy o waith paratoi.
- Cewch hanes Iesu’n mynd i Jerwsalem yn Luc 19.28–37.
Gwasanaeth
- Dangoswch lun yr asyn i’r plant, gan ofyn ydyn nhw’n adnabod yr anifail.
Dewisol: Roedd yr asyn, yn amser Iesu Grist, yn wahanol i’r anifail llwyd y gwyddom ni amdano heddiw. Roedd yr asynnod oedd ganddyn nhw’r adeg honno yn anifeiliaid hardd urddasol a chyfeillgar gyda chot frowngoch. Roedden nhw’n caro llwythi trymion ar eu cefnau ac yn cael eu defnyddio i aredig y tir a gwneud gwaith amaethyddol. Roedd yn anifail gwerthfawr, ac yn wir, yr oedd yn symbol o gyfoeth ei berchennog. Yng ngwlad Iesu Grist, yr adeg honno, fe fydden nhw’n cysylltu ceffylau â rhyfela. Felly, mewn adeg o heddwch, ar gefn asyn y byddai brenin yn teithio. Roedd yr asyn yn cynrychioli gostyngeiddrwydd a heddwch. Ac fe fyddai asyn oedd heb gael ei ddefnyddio o’r blaen yn cael ei ystyried yn arbennig o addas ar gyfer achlysuron crefyddol. - Dyma stori sy’n cael ei hadrodd gan un asyn arbennig iawn.
Stori’r asyn
addasiad o stori gan Jan Edmunds
Roedd hi’n ddiwrnod poeth iawn ac roeddwn i gyda fy mam wedi ein rhwymo wrth bolyn yn yr iard. Daeth dau ddyn yno o rywle gan ddechrau datod y rhaff oedd yn fy nal wrth y polyn. Fe glywais rywun yn gofyn i’r dynion beth oedden nhw’n ei wneud, ac fe ddywedodd y ddau fod eu meistr fy angen i. Heb ddim mwy o holi, cefais fy arwain oddi yno. Doeddwn i ddim yn hollol hapus wrth gael fy ngwahanu oddi wrth fy mam. Roedd gen i ofn, ond roedd y dynion yn siarad yn garedig â fi wrth i ni gerdded yn ein blaenau.
Fe aethon nhw â fi at ddyn oedd ag wyneb caredig ac a oedd wedi’i wisgo mewn dillad gwyn. Fe redodd ei law yn dyner dros fy ngwar a rhoi mwythau i mi. Rhoddodd ei ffrindiau eu clogynnau dros fy nghefn, ac fe eisteddodd y dyn mewn dillad gwyn ar fy nghefn a dechrau fy marchogaeth.
Wedi teithio am ychydig, fe ddaethom ni at borth y ddinas. Wrth fynd trwy’r porth fe welais fod yno dyrfa fawr o bobl a phawb yn gweiddi hwre ac yn canu. Roedden nhw’n canu, ‘Hosanna’. Rhoddodd ambell un ei glogyn ar lawr fel carped i mi gerdded drosto. Torrodd rhai eraill ddail mawr oddi ar y coed palmwydd a rhoi’r rheini ar y llawr ar hyd y llwybr lle’r oeddwn i’n cerdded. Roedd yn deimlad anhygoel. Fe wyddwn i fy mod i’n cario rhywun arbennig iawn ar fy nghefn. Fe glywais i bobl yn galw ei enw. Buom am rai oriau yn cerdded strydoedd y ddinas. Roedd pawb yn swnio’n llawen iawn, a phawb yn diolch i’r dyn arbennig yma am iachau’r bobl sâl ac am eu dysgu am Dduw.
Ond fe welais i rywbeth arall hefyd. Fe welais i wynebau rhai o’r dynion yn y dyrfa, a doedden nhw ddim yn edrych yn un mor hapus â phawb arall. Doeddwn i ddim yn hoffi’r ffordd roedden nhw’n edrych ar y dyn oedd ar fy nghefn. Roeddwn i’n siwr eu bod yn cynllunio i wneud rhywbeth drwg. Roeddwn i’n gobeithio na fydden nhw’n gwneud dim i’w frifo.
Ar ddiwedd yr orymdaith, fe ddaeth y dyn i lawr yn araf oddi ar fy nghefn. Fe redodd ei law eto fel o’r blaen, dros fy ngwar, yn garedig, fel petai’n dweud diolch yn fawr. Er iddo gael y fath groeso gan y bobl, roedd golwg drist ar ei wyneb. Roedd fel petai’n gwybod bod rhywbeth difrifol yn mynd i ddigwydd iddo. Aeth y ddau ddyn, oedd wedi dod i fy nôl yn y lle cyntaf, â fi yn ôl at fy mam. Roedd gen i stori fawr i’w hadrodd wrthi.
Ddyddiau’n ddiweddarach, fe glywais rywun yn siarad â’i gilydd yn yr iard. Allwn i ddim credu’r hyn roeddwn i’n ei glywed. Roedden nhw’n dweud hanes y dyn hwnnw roeddwn i wedi’i gario ar fy nghefn. Roedd y milwyr wedi’i ddal ac wedi mynd â fo o flaen y Llywodraethwr Rhufeinig. Ac roedd hwnnw wedi ei anfon i gael ei groeshoelio. Roeddwn i’n methu’n lân â deall pam roedd y dyn addfwyn caredig hwnnw wedi cael ei anfon i farw mewn ffordd mor greulon. Wna i byth ei anghofio, ac fe fyddaf, hyd weddill fy oes, yn teimlo’n falch fy mod i wedi cael ei gario ar fy nghefn y diwrnod arbennig hwnnw yn ei hanes. - Efallai yr hoffech chi drafod y stori gyda’r plant, gan gynnwys y cwestiynau canlynol:
Pwy oedd y dyn mewn dillad gwyn?
Pam rydych chi’n meddwl ei fod wedi dewis marchogaeth ar gefn asyn?
Beth oedd y bobl yn ei wneud wrth iddo farchogaeth ar hyd strydoedd y ddinas?
Beth oedden nhw’n ei weiddi?
Pam roedd ei elynion yn awyddus i gael gwared ag ef?
Ydych chi’n gwybod beth ddigwyddodd wedyn yn y stori?
Amser i feddwl
Myfyrdod
Meddyliwch eto am stori’r asyn.
Sur rydych chi’n meddwl yr oedd yr asyn yn teimlo:
Pan gafodd ei arwain oddi wrth ei fam …
Pan oedd yn cario’r dyn mewn dillad gwyn …
Pan glywodd beth oedd wedi digwydd i’r dyn?
Gweddi
Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, y cyfnod sy’n arwain at y Pasg, rydyn ni’n cofio hanes Iesu’n marchogaeth yn fuddugoliaethus i mewn i ddinas Jerwsalem. Er ei fod wedi dioddef, ac wedi marw ar y groes yn fuan wedyn, rydym yn cofio’i eiriau: ‘Cofiwch, fe fyddaf fi gyda chi bob amser.’
Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.