Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Arwyddion y Pasg

Ystyried y gwahanol arwyddion a’r emosiynau sy’n gysylltiedig â stori’r Pasg.

gan Penny Hollander

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y gwahanol arwyddion a’r emosiynau sy’n gysylltiedig â stori’r Pasg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen lluniau neu dryloywderau OHP o arwyddion cyfarwydd a welwn o’n cwmpas o ddydd i ddydd: arwydd dim ysmygu, dim mynediad, amrywiol arwyddion ffyrdd (ac arwyddion toiledau merched/ dynion os mynnwch chi!), etc.
  • Dwy ddeilen palmwydd, dwy groes, dau wy Pasg heb ddim y tu mewn iddyn nhw (addurnol).
  • Paratowch y geiriau sy’n cael eu dweud gan y gwahanol gymeriadau yn stori’r Pasg (gwelwch rhif 2) ar gardiau neu ar dryloywderau OHP.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y lluniau sydd gennych chi o wahanol arwyddion, fesul un, gan holi’r plant beth yw pob un, a holi pam rydyn ni angen yr arwyddion hyn.

    Eglurwch fod gan yr Eglwys Gristnogol arwyddion sy’n dangos agweddau ar y gred Gristnogol. Ar adeg y Pasg, mae’r tair eitem sydd gennym ni heddiw yn arwyddion sy’n dangos agweddau ar stori’r Pasg, sef deilen palmwydd, croes ac wy (wy Pasg gwag). Mae’r tri arwydd yn cynrychioli’r teimladau a’r emosiynau sy’n gysylltiedig ag adegau gwahanol yn stori’r Pasg.

    Mae’r ddeilen palmwydd yn cynrychioli llawenydd y bobl, a’r cyffro pan ddaeth Iesu i mewn i ddinas Jerwsalem ar gefn asyn (Sul y Palmwydd).
    Mae’r groes yn cynrychioli dicter y bobl wedyn tuag at Iesu, a’i farwolaeth ar y groes (Gwener y Groglith).
    Mae’r wy Pasg yn cynrychioli’r bedd. Pan fyddwn yn ei agor fe welwn nad oes dim y tu mewn - mae Iesu wedi codi o farw’n fyw (Sul y Pasg).

  2. Rhannwch y plant yn 6 grwp, neu dewiswch wirfoddolwyr i gynrychioli’r 6 grwp. Bydd grwpiau 1 a 2 yn gafael yn y dail palmwydd, grwpiau 3 a 4 yn gafael yn y croesau, a grwpiau 5 a 6 yn gafael yn yr wyau Pasg. Ail berfformiwch y digwyddiadau yn eu trefn, gyda phob grwp yn adrodd eu brawddegau, gan ddarlunio’r emosiwn priodol.

    Bydd plant grwpiau 1 a 2 yn chwifio’r dail palmwydd, gan floeddio eu llawenydd am fod Iesu’n dod i Jerwsalem:

    Grwp 1: Hosanna i Fab Dafydd!

    Grwp 2: Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw’r Arglwydd!

    Yn ddiweddarach yr wythnos honno mae’r bobl yn y dyrfa fel pe bydden nhw wedi cael eu siomi. Maen nhw’n teimlo’n ddig ac maen nhw eisiau cael gwared â Iesu.

    Grwp 3: Lladdwch ef! Croeshoeliwch ef! (Mae’r dyrfa’n gweiddi’n ddig.)

    Grwp 4: Gorffennwyd. (Mae Iesu’n gwybod fod y gwaith y daeth i’r byd i’w wneud, wedi’i wneud.)

    Ar ôl y tristwch mawr am fod Iesu wedi marw, mae ei ddilynwyr yn sylweddoli ei fod wedi dod yn ôl yn fyw pan ddywedodd yr angel hyn wrthyn nhw:

    Grwp 5: Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy’n fyw?

    Grwp 6: Y mae wedi’i gyfodi! (Maen nhw’n gweiddi mewn llawenydd.)

  3. Mae’r tri arwydd hyn o’r Pasg yn cynrychioli’r daith honno o emosiynau:

    Mae dail y palmwydd yn cynrychioli’r cyffro a’r disgwyl mawr y byddai Iesu, fel brenin yr Iddewon, yn rhyddhau’r bobl oddi wrth lywodraeth y Rhufeiniaid.
    Mae’r groes yn cynrychioli’r dicter a’r ofn, am fod y bobl yn meddwl bod Iesu wedi’u siomi.
    Mae’r wy yn cynrychioli’r llawenydd, am fod Iesu wedi codi o farw’n fyw, yn union fel roedd wedi addo.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Wrth i ni feddwl am wythnosau olaf bywyd Iesu, rydyn ni’n ystyried gwahanol emosiynau’r bobl gyffredin, a’r gwahanol ffyrdd yr oedden nhw’n ymateb i Iesu ar y pryd. Sut bydden ni wedi ymateb pe byddem ni yno ar bob un o’r achlysuron hyn? Beth ydyn ni’n ei gofio orau? Ai’r cyffro pan oedd Iesu’n cyrraedd Jerwsalem? Neu’r dicter a’r siom am nad oedd yn edrych yn debyg i frenin, fel roedd pawb wedi dychmygu y byddai? Neu tybed ai’r llawenydd: mae Iesu wedi cadw’i addewid, ac wedi dod yn fyw unwaith eto?

Neu

Meddyliwch yn ôl ac ystyried y teimladau a’r emosiynau yn y stori. Allwch chi gofio adegau pan wnaethoch chi deimlo cyffro, dicter neu lawenydd?

Gweddi

Annwyl Dduw,

Diolch i ti am hanes Iesu’n dod yn fyw eto.

Helpa ni i ddeall ei neges a’i addewid i bawb fydd yn credu ynddo.

Amen.

 

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon