Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ewch Ati!

Meddwl am ein cyfrifoldeb o allu cadw’n iach, a gallu mwynhau ein hunain ar yr un pryd.

gan Penny Hollander

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am ein cyfrifoldeb o allu cadw’n iach, a gallu mwynhau ein hunain ar yr un pryd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r cwis ffitrwydd (gwelwch rhif 1), neu nifer o gwestiynau am ymarferion y byddwch chi wedi’u llunio eich hunan.

  • Lluniau neu ddelweddau o wahanol fathau o weithgareddau corfforol.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i ddechrau’r gwasanaeth â chwis, i ddarganfod faint maen nhw’n ei wybod am bwysigrwydd gwneud ymarferion a chadw’n ffit. Ar gyfer pob un o’r pedwar cwestiwn mae pedwar ateb posib, ac fe hoffech chi i’r plant ymateb i’r cwestiynau mewn un o bedair ffordd wahanol.

    Dywedwch wrth y plant, os ydych chi’n meddwl mai ateb (a) yw’r ateb cywir, rhowch eich dwylo ar eich pen. Os ydych chi’n meddwl mai (b) sy’n gywir, plethwch eich breichiau. Os ydych chi’n cytuno ag ateb (c), daliwch eich llaw chwith allan o’ch blaen. Neu, os ydych chi’n meddwl mai (ch) yw’r ateb gorau, codwch eich llaw dde.
    Gofynnwch y cwestiynau canlynol:

    Sawl diwrnod yr wythnos y dylech chi geisio gwneud rhywfaint o weithgaredd corfforol?
    (a) 1 diwrnod.
    (b) 5 diwrnod.
    (c) 7 diwrnod.
    (ch) 3 diwrnod.
    Ateb cywir: (c) 

    Pa fath o ymarfer y dylech chi ei wneud?
    (a) Nofio.
    (b) Rhedeg.
    (c) Pêl-droed.
    (ch) Beth bynnag sy’n briodol ar eich cyfer chi.
     Ateb cywir: (ch)

    Pa fath o weithgareddau ddylech chi eu gwneud?
    (
    a) Gwylio’r teledu.
    (b) Gorwedd yn eich gwely.
    (c) Chwarae gemau cyfrifiadur.
    (ch) Unrhyw weithgaredd sy’n gwneud i’r corff cyfan symud.
    Ateb cywir: (ch)

    Sut ddylech chi deimlo ar ôl ymarfer?
    (a) Wedi blino’n llwyr nes eich bod yn methu sefyll ar eich traed.
    (b) Yn iawn - gawn ni wneud rhagor?!
    (c) Wedi colli’ch gwynt i raddau, ond yn gallu dod atoch eich hun yn fuan.
    (ch) Yn teimlo fel bwyta pryd anferth a sawl bar o siocled.
    Ateb cywir: (c) Ddylech chi ddim bod yn teimlo’n rhy gyfforddus oherwydd mae hynny’n golygu nad yw’r ymarfer wedi bod yn waith digon caled.  Ond ddylech chi ddim bod wedi ymlâdd yn llwyr, chwaith!

    Cyfrwch yr ymatebion i weld pwy gafodd yr holl gwestiynau’n gywir.

  2. Pa fathau o ymarferion fyddwn ni’n gallu eu gwneud yn yr ysgol, a’r tu allan i’r ysgol?  Dangoswch y lluniau neu’r delweddau sydd gennych chi o weithgareddau posib ar y bwrdd gwyn.  Eglurwch nad oes raid i ymarfer corff fod yn un math neilltuol o ymarfer– fe allwn ni benderfynu pa fath o ymarfer fyddai’n addas ar ein cyfer ni, ac yn ymarfer y byddwn ni’n ei fwynhau.  Holwch y plant beth sy’n debygol o ddigwydd pe na fyddem yn gwneud unrhyw fath o ymarfer corff?  Fe allai arwain at bob math o broblemau iechyd, naill ai yn y presennol neu’n ddiweddarach yn ystod ein bywydau.

  3. Eglurwch fod gwneud ymarfer corff yn ein helpu i feddwl yn well ac yn helpu i gael ymennydd iach, ac mae hon yn ffaith sydd wedi’i phrofi’n gywir.  (Mae rhai ysgolion yn gwneud ymarferiadau er mwyn i’r plant fod yn fwy effro, ac yn galw hynny’n ymarfer ‘Wake up, shake up’).  Allwch chi feddwl am deitl Cymraeg tebyg?  Beth am "deffro, ystwytho, teimlo’n dda" neu rywbeth arall, efallai?  Mae hapusrwydd ac iechyd yn perthyn yn agos iawn i’w gilydd.

    Dywedwch wrth y plant fod y Beibl yn dweud wrthym fod Duw wedi creu bodau dynol fel corff, meddwl ac ysbryd.  Mae Salm 139 yn dathlu hyn a’r gwaith rhyfeddol y mae Duw wedi’i wneud gyda phob un ohonom.  Gofynnwch i un o’r plant ddarllen beth sy’n cael ei ddweud yn adnod 14, neu defnyddiwch yr aralleiriad hwn:

    Rwy’n dy ganmol am y ffordd ryfeddol rwyt ti wedi fy ngwneud i.  
    Mae’r ffordd rwyt ti’n gwneud pethau yn rhyfeddol a gwych.  Rydw i’n gwybod hyn â’m holl galon!

    Yn y myfyrdod sy’n dilyn, anogwch y plant i feddwl amdanyn nhw’u hunain.  Sut rydym wedi cael ein gwneud, a’r cyfrifoldeb sydd arnom ni i gadw ein hunain yn iach ym mhob ffordd bosib, fel y gallwn ni fwynhau bywyd i’r eithaf?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Meddyliwch am sut y gallwn ni ddefnyddio ymarfer corff i gadw’n hunain yn iach ac yn hapus. Efallai ein bod yn mwynhau pob math o chwaraeon, neu efallai dim ond un neu ddau o gampau gwahanol. Mae’n bosib gwneud ymarfer corff mewn sawl ffordd. Does dim gwahaniaeth pa fath o ymarfer corff y gwnawn ni ei ddewis - ein penderfyniad ni fydd dod o hyd i’r hyn y byddwn ni’n mwynhau ei wneud. Efallai y gallem ni gerdded mwy, naill ai i’r ysgol, neu allan am dro gyda’n teuluoedd. Rydyn ni’n meddwl am y ffordd y mae corff iach, sydd wedi cael ymarfer, yn helpu neu’n ysgogi ein meddwl, felly rydym yn gallu dysgu’n well hefyd.

Gweddi
Diolch i ti, Dduw, am y ffordd rydyn ni wedi cael ein creu.
Helpa ni i werthfawrogi hyn, ac i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein hunain yn iach.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon