Cyfaill Ffyddlon
Dangos pa mor bwysig yw ffydd ac ymddiriedaeth.
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dangos pa mor bwysig yw ffydd ac ymddiriedaeth.
Paratoad a Deunyddiau
- Does dim angen paratoi, ar wahân i ddarllen trwy’r stori o flaen llaw.
Gwasanaeth
- Dechreuwch trwy ddweud y stori yma. Eglurwch ei bod yn fath o ddameg - stori ddychmygol gyda neges ynddi. Gofynnwch i’r plant wrando’n ofalus a meddwl beth yw’r neges yn y stori.
Filoedd o flynyddoedd yn ôl, roedd bywyd ar y ddaear yn wahanol iawn. Roedd y bobl gynharaf yn bobl unig. Roedd yr anifeiliaid o’u cwmpas, ond doedd y bobl yn gwneud dim â nhw. Fe fyddai’r anifeiliaid yn cadw gyda’i gilydd, ac yn cadw draw yn ddigon pell oddi wrth y bobl.
Un diwrnod, digwyddodd daeargryn mawr. Ar y dechrau, aeth pob man yn dywyll iawn, ac fe gasglodd yr anifeiliaid ynghyd mewn man agored. Roedden nhw’n synhwyro fod rhywbeth o’i le a bod rhywbeth difrifol ar fin digwydd. Yna, fe ddaeth swn trwst trwm. Dechreuodd yr anifeiliaid ysgwyd a chrynu am fod y tir o dan eu traed yn crynu. A dweud y gwir, roedd yr holl ddaear yn crynu.
Roedd ofn ar y bobl yn ogystal, ac fe aethon nhw hefyd allan i’r man agored, i’r un lle ag yr oedd yr anifeiliaid wedi tyrru at ei gilydd. Roedden nhw angen cwmni, yn union fel roedd ar yr anifeiliaid angen cwmni ar yr adeg ddychrynllyd hon. Edrychodd yr anifeiliaid mewn braw ar y bobl, roedden nhw’n meddwl mai’r bobl oedd yn gyfrifol am beth oedd yn digwydd. Felly roedden nhw’n dal i gadw draw oddi wrth y bobl.
Yna, fe grynodd y ddaear eto. Fe gwympodd rhai o’r coed ac fe rowliodd cerrig mawr i lawr y llethrau. Brefodd ac udodd yr anifeiliaid mewn ofn. Yn y cynnwrf mawr, yng nghanol yr holl stwr, fe glywson nhw lais rhywun yn gweiddi: ‘Byddwch ddistaw!’ Ac fe dawodd pawb. Syllodd yr anifeiliaid ar yr un oedd wedi gweiddi - dyn oedd o.
Unwaith eto, fe wnaethon nhw deimlo cryndod anferth ac fe ymddangosodd hollt yn y ddaear. Ar y dechrau doedd yr hollt ddim yn mesur mwy na thua metr, ond fe ddechreuodd ledu’n araf a mynd yn lletach a dyfnach. Roedd yn ymddangos fel petai’r byd yn ymrannu’n ddau. Safodd y dyn yn ôl, gan gadw’n ddigon pell o’r bwlch mawr oedd yn ehangu bob eiliad. Ac fe swatiodd yr anifeiliaid i gyd gyda’i gilydd mewn ofn mawr, yr ochr arall i’r hollt.
Dechreuodd rhai o’r bobl feddwl y bydden nhw’n cael eu gwahanu am byth oddi wrth yr anifeiliaid, ac y bydden nhw’n unig iawn hebddyn nhw. Gwaeddodd un wraig arnyn nhw: ‘Dewch yma, atom ni, rai ohonoch chi, dewch i’r ochr yma.’ Doedd dim un o’r anifeiliaid am symud, gan fod cymaint o ofn y bobl arnyn nhw ag a oedd o ofn y daeargryn. Fe fyddai rhai o’r anifeiliaid wedi gallu neidio drosodd at y bobl pe bydden nhw eisiau. ‘Oes dim un ohonoch chi am ddod atom ni?’ galwodd y wraig arnyn nhw. Rhuodd y llewod a’r teigrod, a hisiodd y nadroedd. Doedd arnyn nhw ddim eisiau bod yn ffrindiau â’r bobl. Ac roedd y bwlch rhyngddyn nhw’n mynd yn lletach ac yn lletach.
Yna, fe edrychodd y bobl eto ar draws y bwlch a sylwi bod yno un anifail a golwg bywiog, eiddgar arno yn edrych yn bryderus ar y bobl. Ci oedd yr anifail hwnnw. Edrychodd y wraig arno gan wenu, ac fe ddywedodd eto, ‘Tyrd, neidia.’ Fe chwibanodd ar y ci gan ei annog drosodd. Petrusodd y ci am ychydig cyn cerdded yn araf at fin yr hollt, oedd yn dal i ledu’n araf. Cwynodd gan redeg yn ôl ac ymlaen ar hyd ymyl y dibyn. ‘Tyrd, neidia,’ meddai hi eto. A dyna’r ci yn gwneud ei hun yn barod i neidio, yn oedi ychydig, ac yna’n rhoi un naid fawr. Fe laniodd ar ymyl ochr arall yr hollt, gyda dim ond ei draed blaen ar y lan. Teimlai’r ci ei hun yn llithro’n ôl, ac roedd ar fin cwympo i’r hafn. Ond fe redodd y wraig ato’n wyllt a gafael yn ei war a’i dynnu i ddiogelwch.
Crynodd y ddaear unwaith yn rhagor, ac fe ledodd y bwlch yn ddyffryn eang, gan adael gweddill yr anifeiliaid ar yr ochr arall. A byth ers hynny mae pobl a chwn wedi bod yn ffrindiau mawr. Roedd y ci wedi dysgu bod â ffydd yn y bobl ac roedd yn gwybod y gallai ymddiried ynddyn nhw. Ac o ganlyniad roedd hynny wedi arbed y ci a’r bobl rhag cael bywyd unig. - Fe allech chi dreulio ychydig o amser yn trafod y stori gyda’r plant. Beth yw ystyr y stori? Beth mae’n ddweud am fod â ffydd yn rhywun, neu ymddiried yn rhywun?
Oes gan rai o’r plant gi? Fe allech chi yma hefyd drafod awgrymiadau ar sut i gadw’n ddiogel, lle mae cwn neu anifeiliaid eraill o gwmpas.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Rydyn ni’n aml yn ofnus neu’n ansicr pan fyddwn ni ddim yn gwybod pa un yw’r ffordd orau i ‘neidio’. Sut gwyddwn ni beth yw’r poeth gorau i’w wneud pan fyddwn ni’n ansicr?
Fe allwn ni aros, cymryd cam yn ôl a meddwl am beth allai ddigwydd os gwnawn ni rywbeth neilltuol. Fe allwn ni hefyd feddwl am beth allai ddigwydd os na wnawn ni’r rhywbeth hwnnw.
Fe allwn ni ofyn i oedolion rydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw. Fe allwn ni ofyn i’n ffrindiau am gyngor hefyd.
Fe allwn ni weddïo, neu eistedd yn dawel a meddwl.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein hanifeiliaid anwes.
Diolch i ti am yr ymddiriedaeth y mae ein hanifeiliaid anwes yn ei rhoi ynom ni.
Helpa ni i wybod beth yw’r peth gorau i’w wneud pan fydd gennym benderfyniadau anodd i’w gwneud.
Amen.