Mynd i’r Afael ag Anghyfiawnder
Adnabod anghyfiawnder a’i herio, a gwybod pa mor bwysig yw cymryd camau priodol i ddelio ag annhegwch.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Adnabod anghyfiawnder a’i herio, a gwybod pa mor bwysig yw cymryd camau priodol i ddelio ag annhegwch.
Paratoad a Deunyddiau
- Gofynnwch i ddau neu dri grwp o blant baratoi golygfeydd syml i’w hactio (edrychwch ar rhif 2).
- Byddwch yn barod i adrodd stori Porthi’r Pum Mil, gan ddefnyddio’r fersiwn sy’n dilyn, neu ei darllen o’r Beibl Marc 6.30–42.
Gwasanaeth
- Siaradwch am yr adegau pan rydyn ni’n gweld rhywbeth yn digwydd, a ninnau’n gwybod nad oedd hynny’n beth iawn i’w wneud. Rydyn ni’n galw rhywbeth felly’n ‘anghyfiawnder’ - rhywbeth sydd ddim yn gyfiawn, neu ddim yn iawn. Cofiwch mai peth annoeth fyddai rhoi eich hun mewn perygl pan fyddwn ni’n sylwi ar rywbeth fel hyn yn digwydd, os yw’n rhywbeth difrifol. Ond weithiau fe fyddwn ni’n dod ar draws enghreifftiau o anghyfiawnder ar lefel y gallem ni wneud rhywbeth amdano.
- Cyflwynwch y sefyllfaoedd syml y mae’r grwpiau wedi’u paratoi ar gyfer y gwasanaeth. Fe allech chi drafod syniadau fel y rhai canlynol:
Grwp o blant wedi mynd â bag ysgol plentyn arall, neu ei focs bwyd, ac maen nhw’n profocio’r plentyn hwnnw, yn gwrthod rhoi’r bag neu’r bocs yn ôl iddo, ac yn ei basio o’r naill i’r llall yn lle hynny.
Mae athro neu athrawes yn dwrdio bachgen neu ferch, ac yn dweud rhywbeth fel hyn, ‘Pam mai ti sydd wrth wraidd pob drwg bob amser? Pam rwyt ti o hyd yng nghanol pob helynt?’ Ac yn yr olygfa sy’n dilyn mae dau blentyn yn siarad â’i gilydd. Mae un yn cyfaddef wrth y llall mai ef neu hi sy’n gyfrifol am yr helynt mewn gwirionedd y tro yma, ac nid y plentyn oedd yn cael ei ddwrdio. Ond dydi’r plentyn hwnnw ddim am gyfaddef hynny.
Mae un plentyn yn tynnu sylw ail blentyn er mwyn i rywun arall ddwyn pensil, neu lyfr, neu rywbeth arall sy’n eiddo i’r ail blentyn. Mae’r plant eraill yn chwerthin wrth weld hyn yn digwydd. - Trafodwch y sefyllfaoedd, a holwch y plant beth fyddai’r plant eraill wedi gallu ei wneud, neu beth ddylen nhw fod wedi’i wneud ym mhob achos. Pwysleisiwch ei bod hi’n bosib yn aml i bethau wella pe byddai dim ond un yn penderfynu rhoi’r gorau iddi, neu benderfynu gwneud neu ddweud rhywbeth neilltuol. Yna, fe fyddai hynny’n gwneud i bobl eraill gydweithio ac unioni’r sefyllfa unwaith eto.
- Mae stori yn y Beibl sy’n darlunio’r math yma o sefyllfa (Marc 6.30-42).
Roedd Iesu wedi mynd â’i ddisgyblion mewn cwch i le tawel, ryw ddiwrnod. Ond roedd pobl wedi clywed ei fod yn bwriadu mynd yno, ac fe aethon nhw yno hefyd. Roedden nhw eisiau gweld Iesu. Fe ddaethon nhw o’r pentrefi a’r trefi ledled Galilea i gael ei weld a chlywed beth oedd ganddo i’w ddweud. Roedden nhw wedi cerdded yno o bell, rai ohonyn nhw, ac wedi cyrraedd yno o flaen Iesu a’r disgyblion. Pan welodd Iesu y dyrfa fawr, fe ddechreuodd siarad â’r bobl, gan eu dysgu am gariad Duw. Ar ôl bod yn siarad am amser hir, roedd hi’n dechrau mynd yn hwyr, roedd pawb eisiau bwyd, ac roedden nhw ymhell o bob man.
Dywedodd y disgyblion wrth Iesu, ‘Gadewch i’r bobl yma fynd, a dywedwch wrthyn nhw am fynd i’r wlad a’r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddyn nhw’u hunain.’
Atebodd Iesu’r disgyblion trwy ddweud, ‘Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.’
Roedd y disgyblion yn meddwl mai tynnu coes yr oedd Iesu! Wedi’r cyfan, roedd tua phum mil o bobl yno. Fe fyddai angen cyflog wyth mis beth bynnag i brynu digon o fwyd i bawb!
Gofynnodd Iesu iddyn nhw chwilio am unrhyw fwyd oedd ar gael gan y bobl. A’r cyfan gawson nhw oedd pum torth fach o fara a dau bysgodyn a roddwyd iddyn nhw, yn ôl y sôn, gan blentyn bach.
Fe gymerodd Iesu’r bwyd, a gwneud i bawb eistedd ar y glaswellt. Diolchodd Iesu i Dduw am y bwyd. Fe dorrodd y bara’n ddarnau, a thorri’r pysgodyn hefyd. Yna fe ddywedodd wrth y disgyblion am fynd â rhannu’r bwyd rhwng pawb. Ar ôl i bawb gael digon i’w fwyta, fe aethon nhw o gwmpas i gasglu beth oedd yn weddill.
‘Roedd pawb wedi bwyta, ac wedi cael digon, ac roedd deuddeg basgedaid yn weddill.’
Mae Cristnogion yn credu bod Iesu’n gwybod nad oedd gan y disgyblion ddigon o fwyd i fwydo pawb. Yr hyn yr oedd Iesu eisiau iddyn nhw’i ddysgu oedd pe bydden nhw’n cymryd y cyfrifoldeb am les pobl eraill, a gwneud beth bynnag oedden nhw’n gallu ei wneud i helpu, yna fe fyddai ef yn cyflawni’r gwyrthiau.
Amser i feddwl
Myfyrdod
A ydw i ryw dro wedi pasio heibio rhywbeth ddigwyddodd, pan fyddwn i wedi gallu gwneud rhywbeth am y peth?
A ydw i ryw dro wedi disgwyl i rywun arall wneud rhywbeth, pan fyddwn i wedi gallu gwneud rhywbeth fy hun?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae nifer o anghyfiawnderau bach yn digwydd o’n cwmpas bob dydd,
pethau sy’n achosi gofid i bobl,
neu’n peri iddyn nhw fod yn unig neu’n ofnus.
Helpa fi i sylwi ar y pethau hyn
ac i wneud y pethau bach y mae’n bosib i mi eu gwneud i’w helpu.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.