Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

66 Llyfr/ Un Llyfr Mawr

gan The Revd Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall yr amrywiaeth o ddeunydd sydd yn y Beibl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Beibl mawr (efallai y gallech chi fenthyca Beibl mawr oddi ar y ddarllenfa yn yr eglwys).
  • Dwy fainc, neu rywbeth tebyg, un ar bob ochr i chi.
  • Cardiau maint A4 gyda’r geiriau canlynol arnyn nhw, un ar bob un: Storïau, Caneuon, Cerddi, Hanes, Dywediadau doeth, Cyfreithiau.

Gwasanaeth

  1. Pe byddwn i’n gofyn i chi pa un yw eich hoff lyfr, o bob llyfr yn y byd - dwylo i fyny pwy fyddai’n gallu enwi un ar eich union? Mae llyfrau’n bethau gwych, a’r peth gorau yw bod llyfrau ar gael i blesio pawb. Dwylo i fyny pwy sy’n hoffi llyfrau am geffylau, ceir, dewiniaid, morladron, ditectif, llyfrau ar goginio?

  2. Dyfalwch am ba lyfr rydw i’n meddwl nawr? Mae dwy ran i’r llyfr. Mae’r rhan gyntaf yn llyfr arbennig iawn yng ngolwg pobl sy’n Iddewon, Cristnogion a phobl eraill hefyd. Mae’r ail ran yn llyfr arbennig iawn yng ngolwg pobl sy’n Gristnogion. Ond mae’r llyfr cyfan yn fwy nag un llyfr sydd wedi’i rannu’n ddwy ran. Mae’n gasgliad o lyfrau - y Beibl yw’r llyfr arbennig yma.

  3. Oes rhywun yn gwybod faint o lyfrau sydd yn y Beibl? Enw’r ddwy ran yw’r Hen Destament (39 o lyfrau) a’r Testament Newydd (27 o lyfrau). Felly, mae’n debycach i lyfrgell o lyfrau na dim ond un llyfr.

  4. Holwch y plant ydyn nhw’n mynd i’r llyfrgell? Os oes llyfrgell yn yr ysgol, fe allwch chi drafod sut rydym ni’n dewis llyfrau gwahanol.

    Mae’n debyg bod yr athrawon yn hoffi i chi ddewis amrywiaeth eang o wahanol lyfrau, peidio â dewis yr un math o lyfr bob tro. Mae hynny’n ein helpu i ddysgu am bob math o wahanol bethau.

    Felly, fe feddyliais y byddai’n syniad da i ni greu llyfrgell o blant heddiw. Fe fydd angen gwirfoddolwyr i wneud hyn.

    Gwahoddwch nifer o blant i gynrychioli’r gwahanol fathau o lyfrau sydd i’w cael yn llyfrgell y Beibl. Peidiwch â manylu gormod - dim ond eisiau rhoi syniad  ydych chi i’r plant am y casgliad cyfoethog ac mor amrywiol sydd yn y Beibl. Rhowch y cardiau A4 i’r plant eu dal. Gosodwch rai o’r gwirfoddolwyr ar silff (mainc) yr Hen Destament  a rhai eraill ar silff (mainc) y Testament Newydd.

  5. Mae Cristnogion yn credu ein bod yn dod i adnabod Duw yn well wrth i ni ddarllen y Beibl. Mae nifer o fersiynau o’r Beibl ar gyfer plant i’w cael, a llyfrau storïau o’r Beibl hefyd. (Fe allwch chi ddangos rhai o’r rhain, neu gyfeirio at ble maen nhw i’w cael yn llyfrgell yr ysgol). Hyd yn oed os ydyn ni’n ei chael hi’n anodd darllen y Beibl ein hunain ar hyn o bryd, fe allwn ni wrando ar bobl eraill yn dweud y storïau wrthym ni, a dod i adnabod Duw felly. Uwchlaw popeth, mae Cristnogion yn credu bod llyfr mawr Duw, sef y Beibl, i fod i gael ei fwynhau gan bawb.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Meddyliwch am lyfrau. Pa fath o lyfrau rydych chi’n eu hoffi? Oes gennych chi hoff lyfr a hoff awdur?

Ydych chi’n gwybod am unrhyw hen, hen storïau, fel y rhai y byddech chi’n eu darllen yn y Beibl, neu hen chwedlau?

Gweddi

Annwyl Dduw,

Diolch am yr holl wahanol fathau o lyfrau.

Diolch am y pleser gawn ni wrth ddarllen.

Diolch i ti am y Beibl,

am y storïau, y llythyrau, y cerddi a’r caneuon, yr hanesion, a llawer mwy y gallwn ni ddod o hyd iddo rhwng tudalennau’r Beibl.

Amen.

 

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon