Y Dychymyg
Helpu’r plant i feddwl am ryfeddodau byd natur ac am y rhodd o ddychymyg.
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i feddwl am ryfeddodau byd natur ac am y rhodd o ddychymyg.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o wahanol flodau a/ neu ffrwythau (o’r ddarpariaeth sydd gennych chi yn yr ysgol o ffrwythau) a/ neu luniau o wahanol anifeiliaid a/ neu luniau o wahanol adar.
Gwasanaeth
- Gan gadw’r lluniau a’r eitemau sydd gennych chi o’r golwg ar hyn o bryd, gofynnwch i’r plant beth yw eu hoff anifail, a pham. Ar ôl trafod rhywfaint, dangoswch y lluniau o’r anifeiliaid, i’r plant, a gofynnwch iddyn nhw ddisgrifio rhai o’r gwahaniaethau rhwng yr anifeiliaid sydd yn y lluniau. Fe allai’r plant ddisgrifio nodweddion, neu sôn am ble mae’r anifeiliaid yn byw, neu a ydyn nhw’n anifeiliaid gwyllt neu’n ddof, etc.
- Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu enwi’r blodau wrth i chi ddangos eu lluniau. Gofynnwch iddyn nhw’u disgrifio. Fe allai’r plant ddisgrifio’u lliw a’u siâp, neu ddod ymlaen i’w harogli os oes gennych chi flodau ffres.
- Gofynnwch i’r plant beth yw eu hoff ffrwythau. Dangoswch y casgliad sydd gennych chi. Fe allech chi gyfrif pleidlais i weld pa un yw hoff ffrwyth mwyafrif y plant.
- Dangoswch y lluniau o’r adar. Fe allech chi gysylltu hyn â’r ymgyrch gwylio adar - Big School Bird Watch (http://www.rspb.org.uk/).
- Pwysleisiwch fod Cristnogion a phobl o nifer o wahanol grefyddau yn credu mai Duw sydd wedi gwneud y byd a’r bydysawd i gyd. Efallai bod gan rai syniadau gwahanol am sut y digwyddodd hynny, ond maen nhw i gyd yn credu o ddifrif bod Duw yn gyfrifol am y greadigaeth.
- Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid a dychmygu sut le fyddai yn y byd pe bai yna ddim ond robin, er enghraifft, yma a dim aderyn arall o’r holl amrywiaeth sydd gennym ni o’n cwmpas. Dychmygwch pe na bai blodau gwahanol i’w cael, dim ond llygad y dydd, efallai, a’r unig anifeiliaid fyddai i’w cael yn y byd fyddai cathod. Gofynnwch i’r plant ddychmygu sut le fyddai yn y byd pe bydden ni ddim yn cael dim arall i’w fwyta ar wahân i datws - dim byd arall, byth.
- Eglurwch fod Cristnogion, a phobl o grefyddau eraill, yn credu bod Duw eisiau i’r byd fod yn llawn o ryfeddod ac amrywiaeth, fel ei fod yn lle mor ardderchog i fyw ynddo. Felly, fe greodd Duw fwy o amrywiaeth nag a all yr un ohonom ei ddychmygu, byth!
- Pwysleisiwch fod y plant i gyd wedi cael y ddawn ryfeddol i ddychmygu, er mwyn ei defnyddio i’w helpu i weld y rhyfeddodau yn y byd o’u cwmpas. Hefyd i’w helpu i greu eu darluniau eu hunain, eu storïau a’u cerddoriaeth eu hunain, a llawer, llawer mwy.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Caewch eich llygaid a meddyliwch am eich hoff anifail…
Eich hoff aderyn…
Eich hoff flodyn…
Eich hoff fwyd…
Meddyliwch am yr holl amrywiaeth rhyfeddol o bethau sydd yn ein byd.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y byd rhyfeddol rydyn ni’n byw ynddo.
Diolch i ti am beidio gwneud y byd yn lle anniddorol a diflas,
yn hytrach fe wnest ti greu byd sy’n hardd, yn lliwgar,
ac yn llawn o amrywiaeth diddorol.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.