Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dealltwriaeth a Thosturi

Dangos pa mor bwysig yw deall a chydymdeimlo neu dosturio.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos pa mor bwysig yw deall a chydymdeimlo neu dosturio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Does dim angen paratoi o flaen llaw, ar wahân i ymgyfarwyddo â’r stori.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y stori, gan ofyn i’r plant wrando’n astud, am eich bod yn mynd i ofyn eu barn ar y stori wedyn.

    Stori yw hon am fachgen bach o’r enw Morus. Roedd Morus yn byw mewn ardal allan yng nghefn gwlad. Doedd dim plant yr un oed â Morus yn byw yn ei ymyl, felly doedd ganddo neb i chwarae â nhw. Fe deimlai’n unig yn aml iawn. Roedd Morus wedi meddwl ers tro y byddai’n hoffi cael ci bach yn gwmni. Ond roedd ei rieni wedi dweud fod yn rhaid iddo gynilo ei arian poced er mwyn helpu i brynu un. Ac yn wir, erbyn hyn, roedd Morus wedi casglu ugain punt. 

    Un diwrnod roedd Morus yn cerdded ar hyd y ffordd gefn heb fod ymhell o’i gartref, ac wrth basio’r giât at fferm Mr Bowen fe welodd arwydd. Roedd yr arwydd yn hysbysebu bod yno gwn bach ar werth. Curodd calon Morus yn llawn cyffro. O! Fe fyddai wrth ei fodd pe byddai’n cael gweld y cwn bach. Felly, fe aeth trwy’r giât, a cherdded ar hyd y ffordd at y ffermdy. Curodd ar y drws. Dyn sarrug oedd Mr Bowen, a phan agorodd y drws, roedd Morus wedi dychryn tipyn bach. 

    ‘Os gwelwch chi’n dda, Mr Bowen,’ meddai Morus, ‘Alla i gael gweld y cwn bach sydd ar werth? Fe hoffwn i brynu un.’ 

    ‘Hy!’ meddai Mr Bowen, ‘Dydw i ddim yn meddwl y galli di brynu’r un o’r rhain. Maen nhw’n costio gormod.’  

    ‘Wel, fyddech chi’n fodlon i mi gael eu gweld nhw te, plîs,’ meddai Morus wedyn. 

    Wrth weld wyneb Morus, a golwg mor awyddus arno, fe chwibanodd Mr Bowen yn uchel. Ac yn sydyn, dyma gi defaid du a gwyn hardd yn dod i’r golwg gyda phedwar o gwn bach tew a thwt yn dilyn. Fe aeth y cwn bach ar eu hunion at Morus, ac roedd Morus wrth ei fodd yn rhoi mwythau iddyn nhw. Roedd pob un o’r cwn bach yn ysgwyd eu cynffon, ac yn mwynhau cael y fath sylw. 

    Yna, fe sylwodd Morus ar gi bach arall yn ymdrechu’n galed i ddod at y lleill. Roedd y ci bach yma’n gloff ac yn cael trafferth fawr i gerdded. Edrychodd Morus arno’n gwneud ei orau i ddod ato i gael mwythau. Cododd Mr Bowen y ci bach gan ddweud, ‘Dydi hwn yn dda i ddim i neb!’ 

    ‘O! Bechod!’ meddai Morus. ‘Faint mae’r ci bach yma’n ei gostio?’ holodd wedyn. 

    Ysgydwodd Mr Bowen ei ben, ‘Na, mae’n ddrwg gen i, ond dydi hwn ddim ar werth. Dydi o’n werth dim! Dydi o ddim yn gallu rhedeg na chwarae, a ddaw o byth i weithio fel y lleill.’

    Plygodd Morus gan godi gwaelod ei drowsus i ddangos bod ganddo fariau metel ar bob coes i’w helpu i gerdded. ‘Mae’r ci bach yma’n debyg i mi, felly,’ meddai Morus. Rydw i’n gwybod sut mae o’n teimlo.’

    Rhoddodd Morus fwythau mawr i’r ci bach, a gofynnodd eto, ‘Faint ydych chi eisiau am y ci bach yma, Mr Bowen?’ 

    Toddodd calon Mr Bowen, ac fe ddywedodd, ‘I ti, Morus, dim byd. Alli di gael y ci bach os ydi dy rieni di’n fodlon. All neb roi pris ar gariad mae’n debyg.’ 

    Roedd Morus wedi gwirioni! Fe gododd y ci bach i’w freichiau, a diolchodd i Mr Bowen. Yna, aeth adref yn hapus iawn i ddweud wrth ei dad a’i fam ei fod wedi dod o hyd i ffrind bach newydd. A phan ddaeth y ci bach i fyw i gartref Morus roedd y ddau wrth eu boddau yng nghwmni ei gilydd. Roedd y ddau ohonyn nhw wedi dod o hyd i rywun y gallen nhw’i garu. Rhoddodd Morus enw i’r ci bach, Mêt. Roedden nhw’n fêts go iawn, ac fe wnaethon nhw dreulio oriau lawer yn chwarae’n hapus yng nghwmni’i gilydd.

  2. Gofynnwch gwestiynau i’r plant am y stori. 

    Pam roedd Morus yn unig? 
    Beth hoffai Morus ei gael, yn fwy na dim? 
    Roedd ei rieni wedi dweud bod yn rhaid iddo wneud rhywbeth os oedd o eisiau cael ci bach. Beth? 
    Faint o arian yr oedd Morus wedi’i gynilo? 
    Beth ofynnodd Morus i’r ffermwr yn gyntaf? 
    Sut y galwodd y ffermwr ar y cwn? 
    Faint oedd yno i gyd? 
    Roedd un yn wahanol. Sut roedd o’n wahanol? 
    Pam roedd Morus yn hoffi’r ci bach hwnnw, yn fwy na’r lleill?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Meddyliwch am y stori rydych chi newydd ei chlywed.
Ydych chi wedi clywed y gair ‘tosturi’, ryw dro? Ei ystyr yw bod y ofalgar dros eraill.
Pwy wnaeth ddangos tosturi yn y stori?

Gweddi
Duw fo yn fy mhen, ac yn fy neall;
Duw fo yn fy llygaid, ac yn fy edrychiad;
Duw fo yn fy ngenau, ac yn fy llefaru;
Duw fo yn fy nghalon, ac yn fy meddwl.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon