Byddwch yn Real!
Dangos i’r myfyrwyr ei bod hi’n bwysig iawn i chi fod yn chi eich hun, ac mae hynny’n rhoi cyfle i bobl eraill fod yn nhw’u hunain hefyd.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Dangos i’r myfyrwyr ei bod hi’n bwysig iawn i chi fod yn chi eich hun, ac mae hynny’n rhoi cyfle i bobl eraill fod yn nhw’u hunain hefyd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen recordiad o’r gân ‘Stick to the Status Quo’ allan o High School Musical.
- Mae hefyd fersiwn dderbyniol iawn, a hawdd cael ati, o Salm 139 wedi’i gosod ar gerddoriaeth gan y band Dependance. Fe allech chi wrando ar honno, os hoffech chi. Mae ar gael ar y wefan: http://www.dependance.tv/original/sound/139.htm
Gwasanaeth
- Oeddech chi’n gwybod bod yr actor Max Beesley yn mwynhau dawnsio tap? Bod David a Victoria Beckham yn mwynhau treulio gyda’r nos yn chwarae dominos? Bod Fearne Cotton yn arlunydd brwd? A Paris Hilton wedi gwirioni ar bysgota?
Mae pob math o wahanol ddiddordebau gan bob math o wahanol bobl. - Beth amdanoch chi? Ydych chi’n hoffi gwneud rhywbeth, ond nad ydych chi wedi cyfaddef hynny wrth eich ffrindiau? Oes gennych chi ddiddordeb rydych chi’n ei gadw’n gyfrinach? Hoffech chi ymuno â chlwb neu gymdeithas neilltuol, ond eich bod yn meddwl y byddai eich ffrindiau’n eich gwawdio pe byddech chi’n gwneud hynny? Oes rhyw weithgaredd yr hoffech chi roi cynnig arno, ond eich bod yn poeni beth fyddai eich rhieni’n ei ddweud?
- Beth sy’n digwydd yn yr High School Musical pan fydd Troy a Gabriella yn rhoi’r gorau i ofidio beth fyddai eu ffrindiau’n ei feddwl, ac yn penderfynu mynd am glyweliad ar gyfer y sioe gerdd?
Chwaraewr pêl fasged yw Troy. Ac mae Gabriella yn dipyn o ‘brainiac’. Ond mae’r ddau yn hoffi canu hefyd. A phan wnaethon nhw benderfynu rhoi cynnig arni, a chyfaddef eu bod wrth eu bodd yn canu, mae pobl eraill hefyd yn gallu sôn am eu diddordebau hwythau wedyn. Gwrandewch ar beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud.
Chwaraewch y gân ‘Stick to the Status Quo’ from High School Musical.
Mae’n gymaint o ryddhad iddyn nhw gael dweud y gwir, ac o’r diwedd gael rhoi gwybod i’r bobl o’u cwmpas pwy ydyn nhw mewn gwirionedd! Ond sut mae’r bobl rheini’n ymateb?
Dyma ddyfyniad o’r gerdd:
‘Stick to the stuff you know.
Don’t mess with the flow.
Keep things as they are.
Stick to the status quo.’ - Mae angen bod yn ddewr iawn i fod yn chi eich hun, go iawn. Mae gofyn bod yn gryf i allu gwneud yr hyn rydych chi eisiau ei wneud o ddifrif. Mae’n hawdd iawn dilyn y dyrfa, dilyn y lleill. Ac mae’n hawdd iawn gwneud hwyl am ben rhai sy’n dilyn diddordebau gwahanol.
Amser i feddwl
Roedd Dafydd, un o’r rhai a ysgrifennodd y Salmau yn y Beibl, yn cael ei annog ac yn cael cysur wrth gredu bod Duw yn ei adnabod yn dda, ac yn gwybod popeth oedd i’w wybod amdano – ac eto’n dal i’w garu, a’i dderbyn yn union fel ag yr oedd (Salm 139).
Gwrandewch ar y geiriau yma o Efengyl Luc, pennod 12:
Dywedodd Iesu; ‘Oni werthir pump aderyn y to am ddwy geiniog? Eto nid yw un ohonynt yn angof gan Dduw. Yn wir, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni; yr ydych yn werth mwy na llawer o adar y to.’ (Luc 12.6, 7)
A sut mae Duw yn gallu ein hadnabod mor dda? Duw â’n gwnaeth ni. Mae Duw yn ein hadnabod ni. Mae Duw’n ein caru ni.
Ac mae llawer o bobl sydd â ffydd yn dal i gredu hyd heddiw mai Duw â’n gwnaeth ni i gyd. Mae Duw yn ein hadnabod ni i gyd. Mae Duw’n ein caru ni i gyd.
Duw â’ch gwnaeth chi. Mae Duw yn eich adnabod chi. Mae Duw’n eich caru chi.
Gweddi
Hollalluog Dduw,
a greaist y nefoedd a’r ddaear,
a llunio dyn ar dy ddelw dy hun:
caniatâ inni ganfod ôl dy law yn dy holl waith,
a’th foliannu’n wastadol am dy ddoethineb a’th gariad;
Trwy Iesu Grist, dy Fab, ein Harglwydd,
sydd gyda thi, a’r Ysbryd Glân, yn un Duw,
yn awr a hyd byth.
Amen.
(Colect o’r llyfr Y Weddi Gyffredin)