Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod yn Ddiolchgar

Helpu’r plant i feddwl am garedigrwydd ac am fod yn ddiolchgar.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i feddwl am garedigrwydd ac am fod yn ddiolchgar.

Paratoad a Deunyddiau

Does dim angen paratoi, er fe allai llun o gi du blewog fod yn ddefnyddiol wrth ddarlunio’r stori.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y stori trwy egluro mai stori a adroddwyd gan filwr yn dod adref o’r Ail Ryfel Byd yw hi. Mae’n stori deimladwy am ei brofiad. Mae’n ymwneud â bod yn ddiolchgar. Gofynnwch i’r plant feddwl am hyn wrth iddyn nhw wrando ar y stori.

    Roedd swn y gynau mawr yn fyddarol. Roedd mwg yn llenwi’r awyr. Roedd nifer o filwyr Prydeinig wedi’u dal ar dir y gelyn. Roedden nhw’n methu mynd yn ôl i’w tir eu hunain, felly fe wnaethon nhw ddianc i fyny i’r bryniau, a llochesu mewn pentref anghyfannedd, pentref lle'r oedd yr adeiladau wedi’u difrodi gan y gelyn a’r bobl i gyd wedi gadael. Tra roedden nhw’n ceisio cuddio ymysg yr adeiladau oedd yn adfeilion erbyn hynny, fe glywson nhw swn cwyno yn dod o’r tu mewn i un o’r adfeilion.

    Aeth un milwr, o’r enw Jack, i weld beth oedd yno, ac fe ddaeth o hyd i gi du a golwg druenus arno ynghanol y rwbel. Roedd y ci yn wan iawn, ond fe ysgydwodd ei gynffon pan welodd Jack i ddangos mor falch oedd o’i weld. Rhoddodd Jack fwythau i’r ci, yna’i godi a’i gario allan o’r rwbel, i’r lleill gael ei weld. ‘Rhaid ei fod wedi cael ei adael yma, ar ôl i’r gelyn ymosod ar y pentref,’ meddai. Fe wnaethon nhw alw’r ci yn Lucky am ei fod yn lwcus ei fod yn fyw. Arhosodd y dynion a’r ci yno am nifer o ddyddiau yn cuddio, gan rannu hynny oedd ganddyn nhw o fwyd a rhannu cynhesrwydd a chyfeillgarwch.

    Un noson, roedd Lucky ychydig yn anesmwyth. Roedd y ci fel petai’n synhwyro bod rhywbeth o’i le . Roedd Jack yn cysgu, ond fe dynnodd Lucky ar ei lawes i’w rybuddio bod perygl yn agos. Ac yn fuan iawn fe sylweddolodd y milwyr bod nifer o filwyr y gelyn wedi cyrraedd y pentref. Cuddiodd y milwyr Prydeinig, a Lucky, gan obeithio na fyddai’r lleill yn dod o hyd iddyn nhw.

    Yn sydyn daeth rhywun i’r golwg a chanddo gyllell finiog yn ei law. Dechreuodd ymosod ar Jack. Fe neidiodd Lucky i fyny gan gyfarth ar y gelyn. Ysgyrnygodd arno a’i frathu, ac fe lwyddodd y ci i achub bywyd Jack. Bu brwydr yn y fan a’r lle rhwng y Prydeinwyr a’r gelyn, a’r Prydeinwyr enillodd. Roedden nhw a Lucky yn ddiogel. Ond roedden nhw’n gwybod ei bod hi’n amser iddyn nhw adael eu cuddfan, a cheisio mynd yn ôl at yr arfordir, cyn i ragor o’r gelyn ddod ar eu holau.

    Ymhen amser fe wnaethon nhw lwyddo i gyrraedd yr arfordir ac fe welson nhw long yn perthyn i lynges Prydain. Fe wnaethon nhw lwyddo i anfon signal i’r llong, ac fe anfonwyd dingi i’w nôl oddi ar y traeth, a Jack oedd yr olaf i fynd i’r dingi. Roedd Lucky yn sefyll ar y lan yn crynu. Edrychodd Jack yn ôl ar y ci ac ni allai feddwl am ei adael yno, ac yntau wedi bod yn ffyddlon iddo. Trodd yn ei ôl gan godi’r ci yn ei freichiau unwaith eto, fel o’r blaen, a’i gario trwy’r dwr. Roedd un o swyddogion y llynges yn sefyll yn ymyl y dingi i helpu’r milwyr, ond fe ddywedodd yn sarrug wrth Jack, ‘Alli di ddim dod â’r anifail yna efo ti, fe fydd yn bwyta ein dognau bwyd.’

    ‘Paid â phoeni, fe gaiff hanner fy mwyd i,’ meddai Jack wrtho. ‘Oni bai amdano ef, fyddai yr un ohonom ni yma heddiw.’

    ‘OK, neidia i mewn, ’te,’ meddai’r llongwr. Ac fe helpwyd  un milwr bodlon ac un ci du, oedd yn ysgwyd ei gynffon yn hapus, i mewn i’r dingi.

    Cyrhaeddodd y milwyr yn ôl i Loegr yn ddiogel, ac ar ôl treulio rhywfaint o amser mewn cwarantin cafodd Lucky fynd i fyw gyda Jack. Erbyn hyn, roedd y rhyfel drosodd, ac fe fu Lucky yn byw gyda’i ffrind diolchgar am weddill ei oes.

  2. Gwaith holi am y stori a thrafod:

    Pam y gwnaeth y milwyr ddianc i fyny i’r bryniau?
    Beth oedd wedi digwydd i’r pentref?
    Ble cawson nhw hyd i’r ci?
    Pam gwnaethon nhw alw’r ci yn Lucky?
    Sut y gwnaeth Lucky achub bywyd Jack?
    Pam y gwnaethon nhw adael eu cuddfan?
    Beth welson nhw, a beth wnaethon nhw, ar ôl cyrraedd yr arfordir?
    Pam roedd y llongwr eisiau i Jack adael y ci yno?
    Beth oedd ateb Jack?
    Sut y gwnaeth Jack ddangos ei fod yn ddiolchgar i’r ci?

Amser i feddwl

Myfyrdod

Fe ddangosodd y ci, Lucky, ei fod yn ddiolchgar i Jack am achub ei fywyd, ac mae’n dda clywed na wnaeth Jack adael ei gyfaill ffyddlon. Fe ddangosodd Jack hefyd ei fod yn ddiolchgar i’r ci am achub ei fywyd yntau.

I bwy rydych chi’n ddiolchgar? Pwy sydd wedi’ch helpu chi’n ddiweddar?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Dysga ni i ddangos ein bod yn ddiolchgar am yr hyn sydd gennym ni
trwy ofalu am y rhai sydd o’n cwmpas ni
a gofalu am y byd rhyfeddol rydyn ni’n byw ynddo.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon