Y Jig-So Dysgu
Dathlu cyflawniad a llwyddiannau’r plant dros gyfnod y flwyddyn ysgol hon, ac edrych ymlaen at gael dysgu a chyflawni mwy yn y flwyddyn sydd i ddod.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dathlu cyflawniad a llwyddiannau’r plant dros gyfnod y flwyddyn ysgol hon, ac edrych ymlaen at gael dysgu a chyflawni mwy yn y flwyddyn sydd i ddod.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen posau jig-so addas ar gyfer gwahanol oedrannau’r plant sy’n bresennol. Fe ddylai’r rhain fod yn bosib eu gwneud gan grwpiau o ddau neu dri o blant mewn llai na deg munud, os yn bosib.
- Dylai pob pos jig-so fod ag un neu ddau o ddarnau ar goll.
- Bydd angen help oedolyn arall i oruchwylio’r gweithgaredd.
- Bwrdd gwyn neu fwrdd du â’r geiriau canlynol wedi’u hysgrifennu arno:
‘Rydw i’n falch fy mod i wedi dysgu sut i …’
‘Rydw i’n falch fy mod i'n gallu …’
‘Rydw i’n falch fy mod i wedi cyflawni …’
Gwasanaeth
- Gosodwch bos jig-so i nifer o grwpiau o blant geisio’u gwneud. Gadewch iddyn nhw wneud hyn yn nhu blaen y neuadd neu’r ystafell, fel y gallan nhw fod yn rhan o’r gwasanaeth. Yn ystod y gwasanaeth cadwch eich llygad arnyn nhw i weld sut maen nhw’n llwyddo.
- Dywedwch wrth y plant i gyd, fel mae’r flwyddyn ysgol yn dod i ben, yr hoffech chi iddyn nhw feddwl am yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni a’r hyn y maen nhw’n falch ohono. Pa sgiliau newydd y maen nhw wedi eu meistroli? Pa lwyddiannau maen nhw wedi’i gael? Fe hoffech chi dreulio ychydig o amser i ddathlu’r pethau yma gyda’ch gilydd.
Awgrymwch y gallen nhw ddefnyddio’r brawddegau sydd wedi’u dechrau iddyn nhw, ar y bwrdd gwyn neu ddu, er mwyn eu helpu i sôn am eu llwyddiannau os hoffen nhw. Gwrandewch ar hynny sy’n bosib, a dathlwch bob llwyddiant gan gynnwys eu hathrawon hefyd. - Gadewch i ni weld sut mae’r grwpiau wedi llwyddo gyda’u tasgau a osodwyd iddyn nhw ar ddechrau’r gwasanaeth. Holwch y rhai ieuengaf yn gyntaf i weld sut hwyl gawson nhw. Pa lun oedd eu jig-so nhw? Gawson nhw unrhyw drafferth?
Rhowch sylw, yr un fath, i bob grwp yn ei dro. Fe fydd pob grwp yn nodi fod un neu ddau o ddarnau ar goll.
Holwch y plant sut maen nhw’n teimlo am hynny. Oedd hynny’n gwneud y dasg yn fwy anodd?
Diolchwch iddyn nhw am eu hymdrechion, ac ymddiheurwch am y ffaith mai chi eich hun oedd yn fwriadol wedi tynnu’r darnau coll oddi yno. - Eglurwch eich bod eisiau dangos i’r plant bod eu dysgu yn ystod y flwyddyn wedi bod yn debyg i bos jig-so. Trwy gyflawni nifer o bethau gwych maen nhw wedi dechrau creu darlun hardd, sydd mewn gwirionedd fel darlun o’u bywydau. Ond, yn union fe mae un neu ddau o ddarnau yn dal yn eisiau yn y jig-so, felly hefyd mae rhai bylchau eto i’w llenwi yn eu dysgu, ac yn eu sgiliau sy’n datblygu, ac yn eu cymeriad sy’n tyfu.
Rydych chi’n edrych ymlaen at eu gweld yn dod yn ôl i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf (neu at glywed hanes y rhai fydd wedi symud i ysgol arall erbyn hynny), fel y gall rhagor o’r darnau gael eu rhoi yn eu lle, a darlun harddach fyth a darlun mwy cyflawn yn cael ei lunio o’u bywydau.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Gwaith ar ei ganol ydym ni!
Mewn beth rydych ni wedi gwneud cynnydd eleni?
Mewn blwyddyn arall, pa gynnydd pellach fyddwch chi wedi’i wneud?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl wahanol nodweddion, talentau a doniau sydd gennym ni i gyd.
Diolch i ti am y potensial rwyt ti wedi ei roi ym mhob un ohonom.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.