Ymddiriedaeth
Helpu’r plant i feddwl am ymddiried mewn pobl, a meddwl am bwy maen nhw’n dibynnu arnyn nhw i’w helpu ar adegau anodd.
gan The Revd Sophie Jelley
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Helpu’r plant i feddwl am ymddiried mewn pobl, a meddwl am bwy maen nhw’n dibynnu arnyn nhw i’w helpu ar adegau anodd.
Paratoad a Deunyddiau
- Chwiliwch am athro neu oedolyn, sydd heb fod yn fawr iawn yn gorfforol, ac sy’n fodlon cymryd rhan i’ch helpu gyda’r gwasanaeth. Bydd gofyn i’r unigolyn hwnnw fod yn hapus i chi ei ‘ddal’ yn yr arbrawf rydych chi eisiau ei wneud er mwyn ddangos rhywun yn ymddiried yn rhywun arall.
- Nodwch: Mae’n bosib defnyddio’r gwasanaeth yma i atgyfnerthu polisi’r ysgol ar y perygl o ymddiried mewn dieithriaid, a phwysleisio pwy yw’r rhai y gall y plant siarad â nhw pan fydd rhywbeth yn eu blino.
Gwasanaeth
- Heddiw, rydyn ni eisiau meddwl am ymddiriedaeth - ‘trust’. Efallai bod ymddiriedaeth yn air anodd ei ddeall. Eglurwch pa mor bwysig yw hi i staff yr ysgol ymddiried yn y pennaeth, a pha mor bwysig yw hi i’r plant ymddiried yn eu hathrawon, etc. Mae ymddiriedaeth yn beth pwysig iawn mewn bywyd, ac mae angen i ni gyd allu ymddiried mewn pobl.
Gofynnwch am enghreifftiau o ymddiriedaeth o brofiadau’r plant eu hunain, fel rhoi benthyg pethau i ffrindiau ac ymddiried y byddan nhw’n dod â’r pethau rheini’n ôl i chi. Neu, efallai eich bod yn trystio y bydd eich ffrindiau’n gwneud beth bynnag maen nhw’n addo ei wneud (fel cwrdd â chi, mewn lle penodol, ar amser penodol). - Dywedwch eich bod chi’n mynd i wneud arbrawf i geisio dangos beth mae ymddiried yn rhywun yn ei olygu o ddifrif. Gofynnwch i’r oedolyn rydych chi wedi cael gair ag ef neu hi o flaen llaw, i ddod atoch chi i’r tu blaen, a gofynnwch iddo neu iddi faint y mae’n eich trystio. Yna gofynnwch i’r oedolyn droi ei gefn atoch a disgyn i’ch breichiau, gan drystio y byddwch yn ei dal (neu ei ddal) a chithau’n gofalu nad yw’n disgyn.
Os yw hynny’n briodol, fe allech chi ailadrodd y gweithgaredd yma gyda nifer o’r plant (un ar y tro!). Gofynnwch i’w hathrawon dosbarth eu dewis, gan fod angen iddyn nhw fod yn synhwyrol ynglyn â’r arbrawf yma i wneud iddo weithio. Hefyd, cofiwch rybuddio’r plant am eu diogelwch - a pheidio â cheisio gwneud yr un peth pan fyddan nhw allan yn chwarae ar yr iard. Byddai’n dda hefyd pe byddech chi’n defnyddio matiau ymarfer corff ar y llawr pan fyddwch chi’n gwneud yr arbrawf. - Awgrymwch fod Cristnogion yn meddwl am ymddiried yn Nuw yn y ffordd yma. Nid bod Duw’n llythrennol yn ein dal yn ei freichiau pan fyddwn ni’n disgyn, ond mae Cristnogion yn credu bod Duw’n ein gwarchod ac yn gofalu amdanom, a’i bod hi’n bosib i ni ymddiried yn Nuw bob amser. Darllenwch ran o Salm 46 (e.e. adnodau 1-3). Dyma ddarlun mawr o Dduw, ac mae’n addo ei fod yn gallu gwneud pethau mawr. Dydi hyn ddim yn golygu nad yw Cristnogion yn credu na fydd pethau drwg byth yn digwydd iddyn nhw, ond bod holl greadigaeth Duw yn dda, a’i fod yn gallu rhoi nerth a help i ni os gofynnwn ni iddo, pan fyddwn ni’n gweld bywyd yn anodd.
- Pan fyddwn ni’n wynebu pethau sy’n anodd i ni, fel symud ymlaen i ysgol newydd, neu ddosbarth arall, neu i gartref newydd, neu efallai pan fydd rhywun sy’n annwyl gennym yn sâl, fe allwn ni deimlo’n ansicr. Ar adegau felly fe allwn ni feddwl am y bobl y gallwn ni eu trystio a throi atyn nhw am help. Yn ychwanegol, fe allwn ni drystio Duw, a throi ato yntau am help.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Treuliwch foment mewn distawrwydd. Oes unrhyw beth yn eich bywyd ar hyn o bryd rydych chi’n ansicr amdano neu’n teimlo ychydig yn bryderus yn ei gylch? Pwy ydych chi’n ymddiried ynddo fydd yn gallu’ch helpu chi?
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ei bod hi’n bosib i ni ymddiried ynot ti bob amser.
Rydyn ni’n gwybod na wnei di ein siomi ni,
na’n gadael ar ben ein hunain.
Rwyt ti yno bob amser gyda ni.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.