Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Canmol

Atgoffa’r plant pa mor bwysig yw canmoliaeth yn ein bywydau, a sut mae hyn yn cysylltu â moli Duw.

gan The Revd Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant pa mor bwysig yw canmoliaeth yn ein bywydau, a sut mae hyn yn cysylltu â moli Duw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Beibl.
  • Efallai yr hoffech chi baratoi dau grwp o blant i ddarllen y ddwy salm.

Gwasanaeth

  1. Dwylo i fyny pwy sy’n hoffi cael ei ganmol? Eglurwch mai dweud “Da iawn” wrth rywun yw canmoliaeth. Dweud da iawn am fod rhywun wedi gwneud rhywbeth yn dda, neu oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi rhywbeth ynghylch yr unigolyn hwnnw. Siaradwch am werth canmoliaeth yn yr ysgol, yn ddibynnol ar ba mor gyfarwydd ydych chi â chyd-destun neilltuol yr ysgol.

  2. Eglurwch eich bod yn mynd i ofyn i’r plant feddwl am enghreifftiau o adegau pan gawson nhw’u canmol gan wahanol bobl yn eu bywydau. Fe fydd angen i chi drafod hyn yn ofalus, ond fe allech chi ofyn i blant sôn am eu profiadau pan gawson nhw’u canmol e.e. gan rieni neu ofalwyr, aelodau eraill o’u teulu, athrawon a chynorthwywyr, ffrindiau, aelodau eraill o dimau y maen nhw’n perthyn iddyn nhw, etc. Fe allech chi gysylltu hwn â gwasanaethau eraill sy’n sôn am ddathlu neu’n sôn am ddigwyddiadau eraill yn yr ysgol.

  3. Sgwrsiwch am y ffaith ein bod yn gallu canmol mewn sawl ffordd: e.e. gair tawel o anogaeth gan daid neu nain i blentyn am wneud llun da, neu floeddio a chofleidio mawr ar gae pêl-droed, ymysg oedolion, ar ôl i un o’r tîm sgorio gôl!

  4. Mae’r Beibl yn cyfeirio’n aml at ganmoliaeth. Fe fydd Cristnogion yn canmol Duw trwy ddefnyddio geiriau o’r Beibl. Maen nhw’n credu fod Duw mor rhyfeddol fel mai eu hymateb naturiol wrth feddwl am Dduw yw ei ganmol, a’i foli.

  5. Darllenwch Salm 150, neu ran ohoni (penderfynwch chi faint sy’n briodol), darllenwch yn araf, gan egluro unrhyw eiriau anghyfarwydd. Canmoliaeth ‘swnllyd’ sydd yn y Salm hon.

    Yna darllenwch ran o Salm 46. Canmoliaeth ‘dawel’ sydd yma.

    Mae sawl ffordd y gallwn ni ganmol Duw, ond mae Cristnogion yn credu fod moli Duw ynghyd yn dod â ni at ein gilydd fel cymuned, ac yn ein helpu i gofio pa mor dda yw Duw.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Rydyn ni’n byw mewn byd rhyfeddol – oedwch a meddyliwch am funud am rywbeth yr hoffech chi ganmol Duw amdano heddiw.

Gweddi

Treuliwch foment dawel yn diolch i Dduw am y pethau hynny rydych chi newydd fod yn meddwl amdanyn nhw.
‘Bydded i bopeth byw foliannu’r Arglwydd.
Molwch yr Arglwydd. Amen.’ (Salm 150.6)

Cân/cerddoriaeth

Unrhyw gân o foliant i Dduw.

Ar ôl canu’r emyn, fe allech chi rannu’r plant yn ddau grwp Os oes geiriau fel ‘Haleliwia’ neu ‘Molwch Dduw’ yn y gân, fe allai rhai o’r plant ganu ‘Haleliwia’ a’r lleill ganu’r moliant arall. Ac fe allech chi amrywio lefel y sain wrth ganu i ddangos bod modd moli mewn gwahanol ffyrdd, a bod y naill ffordd yr un mor ddilys â’r llall.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon