Pethau’n Newid
Meddwl am farwolaeth a phrofedigaeth, a chred llawer un mewn bywyd ar ôl y bywyd hwn.
gan Oliver Harrison
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am farwolaeth a phrofedigaeth, a chred llawer un mewn bywyd ar ôl y bywyd hwn.
Nodwch: Rhaid bod yn sensitif wrth arwain y gwasanaeth yma, ac (os ydych chi’n ymwelydd) mae’n well ei gynnal mewn ysgol lle rydych chi’n adnabod y plant yn dda, ac os oes gennych chi wybodaeth am unrhyw bethau allai fod wedi digwydd yn ddiweddar ym mywydau’r plant. Os oes gennych chi amheuaeth trafodwch gyda’r pennaeth o flaen llaw.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen dwy falwn, dwy sach gysgu, dau bâr o adenydd ‘tylwyth teg’ neu ‘angel’ i’w gwisgo.
- Cerddoriaeth: ‘Fragile’ gan Sting (ar gael i’w llwytho i lawr).
- Adnoddau ar gyfer helpu plant i ddeall mwy am farwolaeth a phrofedigaeth: Waterbugs and Dragonflies (Doris Stickney)
Badger’s Parting Gifts (Susan Varley)
When Goodbye is Forever (Lois Rock)
The Goodbye Boat (Mary Joslin)
Gwasanaeth
- Dyma stori syml gydag ystyr dwfn iawn. Mae’n stori am rywbeth yn newid. Dangoswch y balwnau (wedi’u chwythu).
Dywedwch mai wyau bach ydyn nhw, un ar bob deilen, a phob un yn ddim mwy na maint dot neu sbecyn bach. O’r wy fe ddaw lindys. Galwch ar bawb i ysgwyd ei fys i gyfleu lindys yn symud. - Symudwch y ddwy falwn o’r neilltu, a gofynnwch i ddau blentyn ddod ymlaen i gynrychioli’r ddau lindysyn.
Mae’r ddau lindysyn yn ffrindiau mawr. Un diwrnod mae un o’r ddau lindysyn yn sylwi ei fod yn newid o ran pryd a gwedd. Mae’r ddau lindysyn yn dychryn, dydyn nhw ddim yn gwybod beth sy’n digwydd.
Ymhen ychydig, mae’r un oedd wedi dechrau newid yn troi’n gocwn (defnyddiwch y sach gysgu) ac yn araf yn diflannu o’r golwg. Mae’r lindys sydd ar ôl yn unig ac yn drist ac yn mynd i sefyll i’r ochr. - Yn araf wedyn, mae’r un sydd y tu mewn i’r cocwn yn dod allan, ac mae wedi newid yn llwyr. (Rhowch bâr o adenydd iddi eu gwisgo.) Mae wedi troi’n bili-pala neu’n löyn byw.
Ac mae’n hedfan i ffwrdd. Gall sefyll ar yr ochr gyferbyn neu fynd i guddio o’r golwg. - Ewch yn ôl at yr un oedd wedi cael ei adael ar ôl: gadewch i ni geisio meddwl sut roedd y lindysyn bach hwnnw’n teimlo. Gofynnwch i’r plant ddweud wrthych chi beth maen nhw’n ei feddwl.
Ond yn fuan wedyn, mae’r lindys bach hwnnw hefyd yn dechrau newid (estynnwch y sach gysgu arall ... ac wedyn y pâr arall o adenydd …).
Mae’r ddau oedd yn arfer bod yn lindys yn dod o hyd i’w gilydd unwaith eto, ond erbyn hyn maen nhw’n ddau bili-pala! - Gofynnwch i’r plant beth fyddai orau ganddyn nhw, bod yn lindys sy’n cropian dros y pridd yn bwyta dail, neu’n bili-pala hardd sy’n gallu hedfan yn rhydd i unrhyw le a byw ymysg y blodau?
Gofynnwch i bawb wneud ystum lindys â’u bysedd eto, ac yna dangoswch ddwylo pili-pala (gyda bodiau’r ddwy law wedi cydgloi, ysgwyd y bysedd eraill fel adenydd). - Mae pobl sydd â ffydd yn credu nad yw marwolaeth yn ddiwedd ein bywydau, ond yn hytrach yn ddechrau newydd ar fywyd o fath arall – yn debyg i sut mae pethau cyn i chi gael eich geni, doedd gan yr un ohonom syniad sut le oedd y tu allan i fol mam. Mae dysgeidiaeth sawl ffydd yn dweud wrthym ni ein bod ni’n symud i fath arall o fywyd ar ôl i ni farw, yn union fel mae’r pili-pala yn dod allan o’r cocwn.
- Sgwrsiwch am ba mor anodd yw hi pan fydd rhywun rydyn ni’n ei adnabod yn dda yn marw, ac yn ein gadael: sut roedd y lindys yn teimlo pan ddiflannodd ei ffrind o fewn y cocwn?
Fe allech chi sôn am anifeiliaid anwes yn marw, gan fod rhai o’r plant efallai heb brofiad o brofedigaeth colli rhywun agos yn y teulu neu rywun arall maen nhw’n ei adnabod. Eglurwch ei fod yn beth naturiol i deimlo’n drist pan fydd hynny’n digwydd, gan fod hynny’n dangos eich bod yn caru’r un sydd wedi mynd, ac yn gweld ei golli. - Gorffennwch trwy atgoffa’r plant am harddwch a hyfrydwch y pili-pala, ac am y rhyddid sydd ganddyn nhw. Atgoffwch y plant hefyd o’r pleser gawn ninnau wrth weld y creadur bach tlws hwnnw’n hedfan o flodyn i flodyn.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Ar ôl i chi fynd dros y stori’n gryno eto, rhowch ysbaid o dawelwch i’r plant feddwl. Efallai yr hoffech chi chwarae’r gerddoriaeth ‘Fragile’ gan Sting tra bydd y plant yn myfyrio.
Gweddi
Arglwydd Dduw, mae’n anodd iawn i ni fod ar wahân i’r bobl rydyn ni’n eu caru.
Rydyn ni’n gweld eu colli bob dydd.
Helpa ni i gofio stori’r am y lindys a’r pili-pala pan fyddwn ni’n teimlo’n drist,
a helpa ni i geisio teimlo’n falch o ryddid a harddwch y pili-pala a welwn ni yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf.
Amen.