Rhannu Ein Problemau
Egluro bod problemau gan bawb o dro i dro, a’i fod yn help yn aml i rannu ein problem â rhywun arall.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Egluro bod problemau gan bawb o dro i dro, a’i fod yn help yn aml i rannu ein problem â rhywun arall.
Paratoad a Deunyddiau
- Copi o’r llyfr Saesneg The Lighthouse Keeper’s Lunch gan Ronda a David Armitage.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n rhai da am allu datrys problemau? Rydych chi’n mynd i ddweud stori wrthyn nhw heddiw am ddyn oedd â rhywbeth yn ei boeni. Yn ffodus iawn, roedd ganddo wraig oedd yn gallu ei helpu a chynnig ateb iddo i ddatrys ei broblem.
Darllenwch y llyfr The Lighthouse Keeper’s Lunch, gan ddangos y lluniau i’r plant. Gallwch drosi’r stori i Gymraeg wrth i chi fynd ymlaen, os nad oes fersiwn Gymraeg o’r stori ar gael. Mae’n stori am ddyn fyddai byth yn gallu cael ei ginio’n iawn. Pwysleisiwch na chafodd y broblem ei datrys ar unwaith, ond wrth ddal ati, fe ddaeth pethau’n well. - Eglurwch i’r plant eich bod chwithau wedi bod â phroblem beth amser yn ôl, cyn dechrau’r tymor. Roeddech chi’n edrych ymlaen yn fawr at gael croesawu pawb o’r plant i’r dosbarth. Roedd yn rhaid i chi ddod o hyd i ddigon o gadeiriau i bob plentyn gael un i eistedd arni. Roeddech chi eisiau gofalu bod digon o fyrddau i bawb gael lle i eistedd wrth fwrdd. Roeddech chi eisiau trefnu lle mewn cornel, lle gallech chi i gyd ddod at eich gilydd i eistedd a sgwrsio neu fwynhau amser stori. Roedd rhaid i chi ofalu bod lle i’ch desg neu’ch bwrdd chi, a bod lle i gadw papurau a phensiliau a phopeth arall y byddech chi eu hangen yn y dosbarth. Roedd angen lle i’r llyfrau a chant a mil o bethau eraill. Mewn gair, roeddech chi eisiau cael trefn ar yr ystafell a’i gwneud yn ddeniadol a chartrefol.
Fe fuoch chi’n gosod y byrddau y ffordd hon a’r ffordd arall, ac fe wnaethoch chi symud popeth o gwmpas eto i weld sut bydden nhw wedyn. Ond, na, doedd dim digon o le i bopeth.
Felly, fe wnaethoch chi symud y byrddau i un pen yr ystafell a’r ddesg i’r pen arall, symud y llyfrau i gyd at y ffenest wedyn.... Ond, na, roeddech chi’n dal i fod yn brin o le.
Ac fe aethoch chi i ddweud wrth un o’ch cyd-athrawon, ‘Mae gen i dipyn o broblem. Beth ydych chi’n feddwl ddylwn i ei wneud?’
‘Pam na wnewch chi geisio rhoi eich desg chi yma, y llyfrau acw, a symud y byrddau i’r ochr arall?’ meddai.
Hwre! Roedd y broblem wedi’i datrys! Roedd yr ystafell yn edrych yn iawn wedyn. Roedd digon o le i bawb a phopeth wedyn, ar ôl gwneud hynny, ac roedd lle yn sbâr i gael symud o gwmpas ac i wneud gweithgareddau chwarae. Rydych chi’n gobeithio bod y plant yn hoffi’r dosbarth y gwnaethoch ch ei drefnu ar eu cyfer.
Eglurwch fod peth bach syml fel gair o gyngor gan eich cydweithiwr wedi gwneud byd o wahaniaeth. Roedd un ffrind wedi gallu eich helpu i ddatrys y broblem. - Dywedwch wrth y plant ei bod hi’n ddigon posib y bydd problemau bach eraill yn debygol o godi yn y dosbarth o dro i dro. Efallai y bydd gennych chi, fel athro neu athrawes, broblem arall rywbryd eto, ac y byddwch chi’n gofyn i’r plant eich helpu. (Mae’n bosib y gallech chi awgrymu rhywbeth sy’n debygol o ddigwydd - er enghraifft, eich bod chi yn aml yn methu dod o hyd i’ch dyddiadur, neu lyfr cofnodi.)
Ddiwrnod arall, efallai mai un o’r plant fydd angen help gyda phroblem, ac y bydden nhw’n falch o gael rhywun i’w helpu i ddatrys eu problem. Efallai y byddan nhw wedi colli rhywbeth, neu’n methu cyrraedd rhywbeth.
Gall pob math o bethau bach fynd o’u lle mewn diwrnod.
Ond, rhaid i ni beidio â phryderu, gan ein bod ni i gyd yma i helpu’r naill a’r llall. Cofiwch fod rhannu problem â rhywun yn ffordd dda o’i datrys.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Pan fydd gen i broblem
Alla’ i ddweud wrthyt ti?
Pan fydd gen ti broblem
Fe fyddaf fi yno i ti.
Gall problem sydd wedi’i rhannu,
Fod yn llawer llai oherwydd hynny.
Os byddwn ni, am y naill a’r llall, yn gofalu,
Bydd gennym dipyn llai o achos pryderu.
Gweddi
Annwyl Dduw ein Tad,
Rwyt ti wedi rhoi llawer o bobl o’n cwmpas ni i ofalu amdanom.
Diolch i ti am ein rhieni, am ein hathrawon, ac am ein ffrindiau.
Diolch ei bod hi’n bosib i ni ddweud wrthyt ti am ein problemau hefyd.
Rwyt ti wedi addo ein helpu ni os gwnawn ni ofyn i ti.
Amen.