Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ceirch, Haidd a Ffa

Meddwl am sut mae ein bwyd yn tyfu, gyda dim ond ychydig o help gennym ni, yn ôl pob golwg.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Meddwl am sut mae ein bwyd yn tyfu, gyda dim ond ychydig o help gennym ni, yn ôl pob golwg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allwch chi lwytho i lawr y geiriau a’r symudiadau ar gyfer y gân ‘Oats, peas, beans and barley grow’ o’r wefan http://www.kididdles.com/lyrics/o001.html.
  • Efallai yr hoffech chi wneud arddangosfa o’r bwydydd y mae cyfeiriad atyn nhw yn y gân.
  • Fe fydd arnoch chi angen peth ceirch hefyd (ar y coesynnau, fel maen nhw’n tyfu, os yn bosib), blawd uwd, fflapjacs, rhywfaint o ffa sych, rhywfaint o ffa ffres neu ffa dringo neu lysiau tebyg (os gallwch chi), ffa pob mewn tun, a photel o ddiod barley water.
  • Ewch dros y gân mewn gwers ganu rywbryd cyn y gwasanaeth. Efallai y gallech chi drosi’r geiriau Saesneg i rai Cymraeg, rywbeth yn debyg i hyn:

Tyfu ceirch a haidd a ffa

Tyfu ceirch a haidd a ffa,
Tyfu ceirch a haidd a ffa,
Pwy sydd yma’n gwybod yn awr
Sut mae tyfu ceirch a haidd a ffa?

Pennill 1:

Mae’r ffermwr yn gyntaf yn hau yr had,
Ac yna’n sefyll mewn mwynhad,
Mae’n stampio’i droed, a churo’i ddwylo,
Edrych ar y tir, ac yna gwylio.

Cytgan:

Tyfu ceirch a haidd a ffa ....

Pennill 2:

Yna mae’r ffermwr yn dyfrio’r had,
Ac yna’n sefyll mewn mwynhad,
Mae’n stampio’i droed, a churo’i ddwylo,
Edrych ar y tir, ac yna gwylio.

Cytgan:

Tyfu ceirch a haidd a ffa ....

Pennill 3:

Yna mae’r ffermwr yn hofio’r chwyn,
Ac yna’n sefyll mewn mwynhad,
Mae’n stampio’i droed, a churo’i ddwylo,
Edrych ar y tir, ac yna gwylio.

Cytgan:

Tyfu ceirch a haidd a ffa ....

Pennill 4:

Yn olaf mae’r ffermwr yn medi’r grawn,
Ac yna’n sefyll mewn mwynhad,
Mae’n stampio’i droed, a churo’i ddwylo,
Edrych ar y tir, ac yna gwylio.

Cytgan:

Tyfu ceirch a haidd a ffa ....

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y gân wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth.

    Holwch y plant pwy sydd wedi cael uwd i frecwast, neu rywbeth fel Ready Brek? Neu pwy sy’n hoffi bwyta fflapjacs? Oes rhywun yn gwybod o beth mae’r pethau hyn wedi’u gwneud? – Ceirch.

    Dangoswch i’r plant sut beth yw’r planhigyn ceirch (ceisiwch lun y planhigyn os na chawsoch goesynnau o geirch i’w dangos), a dangoswch y blawd ceirch fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud uwd.

    Holwch wedyn pwy sy’n hoffi ffa? Ffa pob, neu unrhyw fath o ffa. Dangoswch dun ffa pob a rhywfaint o’r ffa sych. Efallai y gallech chi ddangos y llysiau ffa ffres, os oes rhai ar gael gennych, er mwyn gallu dangos yr hadau i mewn yn y goden ffa, ac egluro sut maen nhw’n tyfu.

    Dangoswch y ddiod barlys (barley water). Mae’n debyg y bydd angen i chi egluro beth ydyw. Efallai bod rhai o’r plant wedi sylwi ar y chwaraewyr tenis yn Wimbledon yn yfed y ddiod hon,(os ydyn nhw’n gwylio’r cystadlaethau tenis ar y teledu).

  2. Oes rhywun yn gwybod sut rydyn ni’n cael pethau fel ceirch, ffa a barlys neu haidd, beth sydd raid i ni ei wneud iddyn nhw dyfu? - Plannu’r hadau.

    A hoffai rhywun ddangos i mi sut i blannu hadau? Ydych chi wedi gwneud hyn o’r blaen, gartref neu yn yr ysgol? - Rydych chi’n gwneud twll yn y pridd, yn  gollwng yr hedyn i’r twll a’i orchuddio ag ychydig o’r pridd neu’r compost.

    Sut mae ffermwyr yn plannu hadau? Ydyn nhw’n gwneud yr un peth? Maen nhw’n plannu mwy o hadau ac yn defnyddio tractor i dynnu peiriant y tu ôl iddo sy’n plannu’r hadau.

    Eglurwch eich bod yn gweld llawer o adar yn hedfan uwchben y cae, ac yn dilyn y tractor, pan fydd y ffermwr yn hau hadau. Pam tybed? Efallai eu bod yn hoffi bwyta’r pryfaid genwair sydd yn dod i’r golwg yn y pridd sydd newydd ei droi, neu’n bwyta unrhyw hadau sydd heb gael eu gorchuddio â’r pridd!

  3. Nawr, gofynnwch a oes rhywun yn gallu egluro sut mae’r hedyn yn tyfu wedyn? Mae arno angen dwr, a maeth o’r pridd. Mae’r bywyd bach newydd i mewn yn yr hedyn, ac yna mae’n tyfu i fod yn blanhigyn llawn. Ond wyddom ni ddim yn iawn sut mae hyn yn digwydd mewn gwirionedd.

  4. Dywedwch eich bod yn mynd i ganu cân gyda’ch gilydd sy’n sôn am stori plannu hadau a thyfu planhigion. Dysgwch y gân i’r ysgol gyfan, ac yna dangoswch y symudiadau. Fe fyddai’n well i’r plant eistedd wrth wneud y symudiadau.

    Unwaith y byddwch chi wedi mynd dros y gân ac wedi dysgu’r symudiadau, galwch ar bawb i’w chanu eto, gyda phawb yn ffermwr, etc. Neu, os oes nifer fawr o blant yn yr ysgol, fe allech chi rannu’r penillion rhwng gwahanol grwpiau o blant, pennill i bob blwyddyn ysgol efallai, nen beth bynnag a welwch chi fyddai orau.

Os hoffech chi chwarae’r gêm yn ôl y cyfarwyddiadau ar y wefan, bydd y plant yn sefyll mewn cylch yn gafael yn nwylo’i gilydd. Caiff un ei ddewis i fod yn ‘ffermwr’ a sefyll yng nghanol y cylch.

Symudiadau:

Cytgan: Tra byddan nhw’n canu’r cytgan, bydd y plant yn troi mewn cylch tua’r dde, o gwmpas y ffermwr.

Pennill 1: Bydd y ‘ffermwr’ yn gwneud y symudiadau sy’n cael eu hawgrymu yn y pennill cyntaf, sef plannu’r hadau, sefyll, stampio’i droed, curo’i ddwylo ac edrych ar y tir trwy droi o fewn y cylch gan smalio edrych dros y caeau, a’i law yn cysgodi ei lygaid. Ar ddiwedd y pennill, mae’r ‘ffermwr’ yn dewis un o’r plant o’r cylch a ddaw yn ‘ffermwr’ yn ei le am y cytgan nesaf a’r ail bennill.

Pennill 2: Bydd y ‘ffermwr’ yn gwneud y symudiadau sy’n cael eu hawgrymu yn yr ail bennill, sef dyfrio, sefyll, stampio’i droed, curo’i ddwylo ac edrych ar y tir trwy droi o fewn y cylch gan smalio edrych dros y caeau, a’i law yn cysgodi ei lygaid. Ar ddiwedd y pennill, mae’r ‘ffermwr’ yn dewis un o’r plant o’r cylch a ddaw yn ‘ffermwr’ yn ei le am y cytgan nesaf a’r trydydd pennill.

Pennill 3: Bydd y ‘ffermwr’ yn gwneud y symudiadau sy’n cael eu hawgrymu yn y trydydd pennill, ac yn dewis un o’r plant o’r cylch a ddaw yn ‘ffermwr’ yn ei le am y cytgan nesaf a’r pedwerydd pennill.

Pennill 4: Bydd y ‘ffermwr’ yn gwneud y symudiadau sy’n cael eu hawgrymu yn y pedwerydd pennill, ac yn dewis un o’r plant o’r cylch a ddaw yn ‘ffermwr’ yn ei le eto. Ailadroddwch y penillion a’r chwarae nes bydd pawb wedi cael cyfle i fod yn ‘ffermwr’, yn ôl fel byddwch chi’n gweld orau, yn dibynnu ar y nifer o blant sydd yn y gwasanaeth.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Oes rhywun y gwybod yr ateb, o ddifi,
Sut mae ceirch a haidd a ffa yn tyfu?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am yr holl fwyd a gawn ni i’w fwyta.
Diolch am y ffermwyr,
sy’n plannu’r hadau,
ac yn annog y cnwd i dyfu,
ac sydd wedyn yn medi’r cynhaeaf, er mwyn i ni gael bwyd.
Heddiw rydyn ni’n dweud diolch am yr holl bobl, ledled y byd, sy’n tyfu bwyd i ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon