Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ein Clustiau

Gwerthfawrogi ein clyw a dangos pa mor bwysig yw gallu clywed.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Gwerthfawrogi ein clyw a dangos pa mor bwysig yw gallu clywed.

Paratoad a Deunyddiau

  • Does dim angen llawer o baratoi, dim ond ymgyfarwyddo â’r stori. Efallai bod gennych chi CD neu dâp y gallwch chi wrando arno yn yr ysgol, neu fe allech chi recordio rhai synau cyffredin ar gyfer gêm dyfalu, i gyflwyno’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  • Mae synau i’w clywed o’n cwmpas bob dydd. Yn aml iawn fyddwn ni ddim yn sylwi ar lawer ohonyn nhw. (Gallech ddefnyddio’r CD yma neu’r gêm dyfalu beth yw’r synau.)

    Gadewch i ni weld a yw hi’n bosib i ni eistedd yn hollol ddistaw am funud cyfan. Rhowch eich dwylo dros eich clustiau. (Amserwch y gweithgaredd: bydd hyn yn anodd i rai o’r plant!)

  • Allwch chi ddychmygu sut beth fyddai byw mewn byd o ddistawrwydd, byth yn gallu clywed sain cân yr adar na lleisiau ein ffrindiau nac aelodau ein teuluoedd? Mae rhai pobl sy’n byw mewn byd o ddistawrwydd hollol. Maen nhw’n dysgu siarad â’i gilydd trwy ddefnyddio’u dwylo i siarad iaith arwyddo. Maen nhw’n defnyddio gwyddor arbennig o arwyddion i gyfathrebu.

    Weithiau fe fyddwn ninnau’n gallu rhoi ar ddeall i bobl eraill beth fyddwn ni’n ceisio’i ddweud trwy ddefnyddio’n dwylo, hyd yn oed os nad ydyn ni’n siarad yr un iaith. 

    Dangoswch, ‘Dewch yma’, trwy amneidio ar blentyn yn y gynulleidfa; holwch y plentyn ‘Wyt ti eisiau bwyd?’ neu ‘Wyt ti wedi blino?’ trwy ddefnyddio arwyddion rydych chi’n eu gwneud â’ch dwylo a’ch wyneb. (Gallwch feddwl am rai enghreifftiau eraill hefyd, os hoffech chi.) Wedi gwneud hyn, diolchwch i’r un fu’n eich helpu, a chan ddefnyddio arwydd gofynnwch iddo, neu iddi, fynd yn ôl i eistedd.

  • Bydd pobl sydd â nam ar eu clyw yn gallu cyfathrebu trwy ddarllen gwefusau hefyd. Dywedwch rywbeth heb gynhyrchu llais er mwyn gweld pwy sy’n gallu dyfalu beth rydych chi’n ei ddweud, e.e. ‘Faint ydi hi o’r gloch?’ neu ‘Sut rydych chi?’

  • Mae seiniau’n effeithio arnom ni mewn gwahanol ffyrdd. Bydd rhai synau yn ein rhybuddio rhag perygl. Allwch chi feddwl am rai enghreifftiau? Rhowch amser i’r plant ymateb, e.e. seiren yr heddlu, neu’r injan dân, larwm tân, etc.

    Mae rhai synau rydyn ni’n hoffi eu clywed. Allwch chi feddwl am rai enghreifftiau o’r rhain? Rhowch amser i’r plant ymateb, e.e. cerddoriaeth, cân yr adar, swn chwerthin plant, lleisiau pobl rydyn ni’n eu hadnabod yn dda.

    Mae rhai synau sy’n ein dychryn. Allwch chi feddwl am rai enghreifftiau o bethau fel hyn? Rhowch amser eto i’r plant ymateb, e.e. taranau, synau yn y nos, swn sgrechian, neu swn y gwynt yn chwythu trwy’r coed. Bydd gan y plant wahanol enghreifftiau i’w cynnig.

  • Awgrymwch y gallai rhai athrawon fynd â’u dosbarthiadau ‘am dro gwrando’, lle gall y plant gofnodi pob swn y byddan nhw wedi’i glywed. Dywedwch y byddech chi â diddordeb mawr mewn gweld eu rhestrau ar ôl iddyn nhw fod yn gwneud hyn.

  • Rhaid i ni fod yn falch iawn ein bod yn gallu clywed. Stori am ferch fach o’r enw Mali yw’r stori heddiw.

    Mali 
    addasiad o stori gan Jan Edmunds

    Pan aeth Mali i’r ysgol gyntaf, doedd hi ddim y siarad â neb, a doedd arni hi ddim eisiau chwarae â’r plant eraill. Roedd y plant eraill yn y dosbarth yn chwerthin am ei phen ac yn ei phryfocio. 

    Roedd Mali yn unig iawn. Fe fyddai golwg ddigalon iawn arni yn aml. Byddai’n swatio mewn cornel wrthi’i hun. Roedd yr athrawes hyd yn oed yn ddiamynedd â hi ambell dro, am fod Mali’n gwrthod ymuno yn y gweithgareddau, ac yn methu gwneud pethau hyd yn oed pan fyddai hi’n egluro iddi beth oedd angen iddi ei wneud. 

    Un noson, roedd yr efeilliaid Ben a Lisa, o ddosbarth Mali, yn sgwrsio gyda’u mam wrth iddyn nhw fynd i’w gwelyau, ac roedden nhw’n sôn am y ferch fach anghyfeillgar oedd yn yr un dosbarth â nhw. ‘Dydyn ni ddim yn ei hoffi hi,’ meddai’r ddau, ‘a does neb eisiau chwarae gyda hi.’   

    Roedd mam Ben a Lisa yn gwrando’n astud, a gofynnodd i’r ddau sut y bydden nhw’n teimlo pe bai neb eisiau chwarae â nhw. ‘Sut rydych chi’n meddwl y mae Mali’n teimlo?’ holodd eu mam. 

    Fe wnaeth hyn i Ben a Lisa feddwl yn ddwys iawn am Mali. Efallai bod eu mam yn iawn. Mae’n debyg bod y ferch fach yn teimlo’n drist iawn, a dechreuodd y ddau deimlo trueni drosti. Penderfynodd y ddau y bydden nhw’n ceisio bod yn garedig wrth Mali y diwrnod canlynol. 

    Pan gyrhaeddodd Ben a Lisa  yr ysgol drannoeth, fe aethon nhw i chwilio am Mali. Dyna lle’r oedd hi, fel arfer, yn sefyll ar ben ei hun yng nghornel yr iard. ‘Mali, fyddet ti’n hoffi dod i chwarae gyda ni?’ gofynnodd y ddau. 

    Syllodd y ferch fach arnyn nhw heb ddweud dim. Roedd Lisa’n meddwl bod Mali’n anghwrtais iawn ddim yn ei hateb. Ond dywedodd Ben wrth Lisa, ‘Dydw i ddim yn meddwl bod Mali wedi ein clywed ni’n iawn, Lisa.’ 

    Yna, fe aeth Lisa at Mali a’i chyffwrdd yn ysgafn ar ei braich. Ceisiodd wneud i Mali ddeall trwy ddefnyddio’i dwylo a siarad yn araf. Ac roedd Mali fel petai’n ei deall wedyn. Siriolodd ei hwyneb pan ddeallodd hi beth roedd Lisa’n ei ddweud wrthi. 

    Pan welodd y plant eraill Mali’n chwarae gyda Ben a Lisa, roedd pawb wedi synnu. Ac roedd Mali yn gwenu hyd yn oed! Wedi i’r plant eraill hefyd ddeall nad oedd Mali’n clywed yn dda, fe wnaethon nhw fwy o ymdrech i gyfathrebu â hi, fel y gallai ymuno â nhw hefyd yn eu chwaraeon. 

    Gwelodd yr athrawes beth oedd wedi digwydd ar yr iard. Ac o’r diwrnod hwnnw fe ofalodd hi fod Mali’n cael eistedd ym mhen blaen y dosbarth fel bod Mali’n gallu ei gweld hi a’i deall yn iawn yn y gwersi. Ar ôl hynny, roedd Mali’n fwy awyddus i siarad â phawb. Ac er ei bod yn anodd ei deall yn siarad weithiau, fe ddaeth y plant eraill i ddeall beth roedd hi’n ei ddweud yn fuan iawn. 

    Cyn hir roedd Mali’n un o’r plant hapusaf a mwyaf deallus yn yr ysgol. Gwnaeth pawb ymdrech i’w chynnwys ym mhob gweithgaredd. Yn anffodus, roedd clyw Mali’n dirywio, ac fe fu’n rhaid iddi wisgo offer arbennig yn ei chlust a oedd yn ei helpu i glywed yn well.

    Erbyn hyn  mae Mali wedi tyfu’n oedolyn, ac mae ganddi ei theulu ei hun a chi bach arbennig o’r enw Nel i’w helpu. Mae Nel yn ‘gi clywed’ i Mali. Fe fydd yn ei helpu trwy redeg ati a’i tharo â’i phawen os oes rhywun yn canu cloch y drws. Neu, os yw’r ffôn yn canu, yna mae Nel yn taro’r ffôn o’i lle ac yn ei chario i Mali. Mae gan Mali declyn arbennig ar ei ffôn sy’n ei helpu i glywed pwy bynnag sy’n galw, ac mae’n gallu cael sgwrs â nhw. Mae Nel wedi’i hyffordd i fod yn glustiau i Mali. 

    Mae llawer o bobl fel Mali sydd â nam ar y clyw, ond mae’n dda bod mwy o gymorth i rai fel hi erbyn heddiw. Gydag ysgolion arbennig, athrawon arbennig a thechnoleg fodern fel teclynnau clyw digidol, mae’n bosib hyfforddi plant sydd â nam ar eu clyw i fyw bywyd normal.

  • Gallai fod yn ddiddorol trafod y stori gyda’ch cynulleidfa. 

    Os yw amser yn caniatáu, adroddwch stori Iesu’n iachau’r un oedd yn fud ac yn fyddar (Marc 7.31–37).

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am y rhodd arbennig o allu clywed.
Helpa ni i ddefnyddio ein clustiau yn ddoeth.
Gad i ni fod yn ymwybodol o seiniau sy’n ein rhybuddio rhag perygl, a chadw ni’n ddiogel.
Helpa ni i wrando’n ofalus yn ein gwersi fel ein bod yn gallu dysgu pethau newydd.
Helpa ni i werthfawrogi seiniau hyfryd byd natur sydd o’n cwmpas ym mhob man.
Rydyn ni’n diolch i ti am fod yn gallu clywed cerddoriaeth, seiniau chwerthin, a lleisiau pobl rydyn ni’n eu hadnabod yn dda, fel ein ffrindiau ac aelodau ein teulu.
Rydyn ni’n diolch i ti am ein clustiau ac am y negeseuon rhyfeddol rydyn ni’n eu clywed.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon