Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Duw yn ein hadnabod i gyd

Dangos bod Duw yn ein hadnabod ni, ac yn ein caru ni, bob un.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos bod Duw yn ein hadnabod ni, ac yn ein caru ni, bob un.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen melon mawr, llawn hadau, e.e. melon honeydew a chyllell, bwrdd torri a bowlen i ddal yr hadau.

  • Fe fyddai OHP yn ddefnyddiol ar gyfer cyflwyno’r gerdd.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod faint o blant sydd yn yr ysgol. Oes unrhyw syniad ganddyn nhw faint o bobl sy’n byw yn eu pentref neu yn eu tref? Efallai bod rhai miloedd. Mae’n amhosib i ni fod yn adnabod pawb. Rydym yn ffrindiau â rhai o’r bobl am ein bod yn eu gweld yn yr ysgol, neu yn y llefydd y bydd aelodau’n teuluoedd yn mynd. Os byddwn yn gweld rhai pobl y aml, byddwn yn dod i’w hadnabod yn well, a bydd rhai ohonyn nhw’n dod yn ffrindiau arbennig i ni.

    Holwch y plant ydyn nhw’n gallu dyfalu faint o blant sydd yn y byd cyfan? Mae miliynau ar filiynau. Fe fyddai’n amhosib cyfrif pob un, na dod i adnabod pob un. Eto, mae Iesu wedi dweud wrth ei ddilynwyr: ‘Mae Duw yn adnabod pob un ohonoch ac yn eich caru, bob un.’ (‘Y mae’r Arglwydd yn dda wrth bawb’ – Salm 145.9.)

  2. Dangoswch y melon i’r plant, a gofynnwch iddyn nhw ddychmygu mai’r byd ydyw. Torrwch y melon yn ei hanner, a dangoswch yr haneri fel bod y plant yn gallu gweld yr hadau sydd y tu mewn. Awgrymwch fod yr hadau’n cynrychioli pobl y byd. Crafwch yr hadau i’r ddysgl a’u dangos eto i’r plant.

    Mae Duw yn edrych ar y byd fel rydym ni’n edrych ar y melon. Ac mae’n gallu gweld pob un ohonom yn union fel rydym ni’n gallu gweld yr hadau.

  3. Gwahoddwch y plant i’ch helpu chi ddarllen y gerdd.

    Mae Duw’n ein hadnabod i gyd
    addasiad o gerdd gan Jan Edmunds

    Os edrychwch chi ar y tu mewn i’r melon, fe welwch hadau di-ri.
    Mae’r byd yn llawn o bobl, ’run fath â chi a fi.
    Bydd rhai yn amrywio rhywfaint, eu croen neu eu gwallt, o ran lliw,
    Neu’n siarad ieithoedd eraill, yn ôl ym mha wlad maen nhw’n byw.
    Yng ngolwg Duw rydym oll yn bwysig, ac mae wedi rhoi i ni ei fyd.
    Mae ei roddion ym mhob man o’n cwmpas, yn dangos ei gariad atom i gyd.

    Treuliwch ychydig o amser yn trafod y gerdd, er mwyn gofalu bod y plant yn deall ei hystyr.

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
Edrych i lawr arnom a chadw ni’n ddiogel.
Dysga ni’r gwahaniaeth rhwng beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg,
A bydd gyda ni heddiw a phob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon