Dameg yr Heuwr
Ystyried y syniad o wneud yr hyn rydyn ni’n gwybod sy’n iawn, heb adael i bethau dynnu ein sylw.
gan Jenny Tuxford
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Ystyried y syniad o wneud yr hyn rydyn ni’n gwybod sy’n iawn, heb adael i bethau dynnu ein sylw.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae nifer o wahanol awgrymiadau yn y gwasanaeth yma, ac mae’n bosib i chi ddewis pa adran yr hoffech chi ei defnyddio ar y tro. Neu, fe allech chi ddefnyddio’r gwasanaeth dros nifer o ddyddiau, gan gymryd yr elfen o ‘amser real’. Fe allech chi hyd yn oed blannu rhai hadau ffa a’u gwylio’n tyfu!
Gwasanaeth
Awgrymiadau ar ddefnyddio elfennau’r gwasanaeth yma:
- Darllenwch ddameg yr heuwr (Luc 8.5–15), a’i thrafod. Eglurwch mai stori sydd â mwy nag un ystyr iddi yw dameg. Mae dameg bron fel nionyn – mae mwy nag un haen i’r stori. Felly, heddiw, fe fydd y ddameg yn golygu un peth i chi, ond ymhen amser fe all olygu rhywbeth gwahanol - mae damhegion fel storïau hud!
- Awgrymiadau am drafodaeth: a oes rhai adegau pan oedd y plant efallai yn gwybod beth oedd yr hyn ddylen nhw’i wneud, ond bod rhywbeth wedi tynnu eu sylw ar y pryd, ac oherwydd hynny wnaethon nhw ddim gwneud rhywbeth fel y dylen nhw fod wedi’i wneud?
- Fe allech chi baratoi’r gerdd i’w hactio fel meim gyda’r plant yn portreadu gwahanol elfennau’r penillion. Felly, fe fyddai’r dosbarth cyfan yn cael cymryd rhan.
- Darllenwch trwy’r ddrama nifer o weithiau. Gan nad oes nifer fawr o frawddegau i unrhyw gymeriad, fe fydd y plant yn gallu eu dysgu’n rhwydd.
- Mae’n bosib darllen y gerdd trwy gael y plant i ddarllen y llinellau fesul un neu ddwy yn eu tro.
- Dameg yr heuwr
Byddai Iesu’n adrodd storïau arbennig,
I’n helpu ni ddeall ei neges yn iawn.
Storïau am bobl gyffredin fyddai ganddo,
Storïau am bysgotwyr neu ffermwyr a gawn.
Yn aml, eisteddai mewn cwch,
A’r bobl i gyd ar y lan.
Roedd ei storïau’n ymddangos yn syml,
Ond roedd ynddyn nhw neges lawn.
Roedd un yn stori am ffermwr o’i wlad,
Aeth allan un dydd ar ei dir,
I blannu hadau er mwyn tyfu planhigion,
Gobeithiai gael cnwd da, yn wir.
Fe soniodd am y ffermwr yn hau yr had,
Nid gyda pheiriant fel sydd gennym ni heddiw,
Ond eu hau â llaw o’i fasged fawr,
Gan eu taflu yma ac acw.
Felly, gwrandewch ar y stori
Am y ffermwr hwn aeth i hau ei hadau.
Tybed ydych chi yn tyfu yn dda,
A phob amser yn gwneud eich gorau?
Wel, fe fu’r ffermwr wrthi yn hau yr had,
Ond syrthiodd peth ar hyd y llawr.
Hedfanodd yr adar i lawr a bwyta’r rhain,
Eu pigo, a’u bwyta, a’u mwynhau yn fawr.
Syrthiodd rhai hadau ar dir caregog,
Roedd yn anodd iddyn nhw dyfu yno.
Mae ar bob hedyn angen pridd i dyfu,
Fel mae pob ffermwr a garddwr yn gwybod.
Tyfodd y rhain yn bur sydyn,
Tywynnodd yr haul yn gryf arnyn nhw,
Ond gan nad oes ganddyn nhw fawr o wreiddiau,
Buan y gwywodd y cyfan - a marw.
Syrthiodd hadau eraill ymysg yr ysgall,
Doedd y rheini ddim yn gallu tyfu’n iawn.
Unrhyw beth gaiff ei dagu gan chwyn fel yma,
Does ganddo fawr o obaith, na fawr o siawns.
Ond syrthiodd peth o’r hadau ar dir da,
A thyfu, tyfu, a thyfu.
Wedyn cynhyrchodd y planhigyn ffrwythau,
Yn wir, yn union fel y dylai …
A gobeithio mai dyna fydd eich hanes chithau! - Dameg y ffa
Dydd Llun
Miss Heulwen: Wel, blant, mae gennym ddigon o amser i chi blannu eich ffa cyn amser chwarae.
Twm: Rydw i wedi golchi'r jar jam sydd gen i, Miss, fel roeddech chi wedi dweud.
Tesni: Mam wnaeth olchi'r jar sydd gen i.
Ben: A Dad olchodd fy un i.
Sharon: Fe wnes i roi fy un i yn y peiriant golchi llestri.
Lisa: Ych! Mae picl yn dal i fod yn jar Rob!
Rob: Oes ots?
Miss Heulwen: Dyna ddigon! Mae’n rhaid na chafodd Rob amser i’w olchi’n iawn, naddo Rob?
Sali: Wyt ti wedi dod â phridd i dyfu dy ffa, Rob?
Rob: Paid â bod y wirion, Sali. Roedd gen i bethau gwell i’w gwneud neithiwr na gwastraffu fy amser yn tyllu am bridd.
Ben: Rwy’n siwr mai edrych ar Rownd a Rownd oedd o.
Rob: Ac roedd gen i eisiau cyfrif fy sticeri pêl-droed.
Wena: Fe ddylet ti wneud beth wnes i, fe gefais i bridd o’r pentwr pridd lle mae’r adeiladwyr yn gweithio.
Rob: O! Twpsyn! Nid pridd yw hwnnw. Graean i wneud concrid ydi o.
Wena: Miss Heulwen, mae Rob newydd fy ngalw i’n dwpsyn.
Miss Heulwen: Wel, fe fydd yn rhaid i ni ddysgu rhai geiriau newydd gwell iddo felly, ydych chi’n meddwl?
Peredur: Miss Heulwen? Wyddoch chi pan oedd Mr Huws y Pennaeth yn sôn am y Samariad Trugarog, a sut y dylem ni feddwl am helpu pobl eraill? Wel, rydw i wedi bod yn meddwl. Ydych chi’n meddwl y gallem ni gynnal taith noddedig oddi amgylch cae yr ysgol, a chasglu arian tuag at yr uned i fabanod cynamserol, yn yr ysbyty lleol?
Miss Heulwen: Dyna syniad ardderchog, Peredur.
Wena: Plîs, Miss, beth yw cynamserol?
Miss Heulwen: Ystyr cynamserol yma yw rhywbeth sy’n dod cyn yr amser yr oedden nhw fod i ddod.
Wena: O! ’Run fath â Rob, Miss. Roedd o yn yr ysgol am wyth o’r gloch heddiw. Mae’n rhaid ei fod o’n gynamserol.
Rob: Nac ydw, dydw i ddim! A chynamserol i chdithau hefyd!
Miss Heulwen: Gawn ni fynd yn ôl i siarad am y daith noddedig, Peredur. Fe fydd yn rhaid i ni ofyn i Mr Huws y Pennaeth yn gyntaf. Os bydd ef yn cytuno, fe fydd arnom ni angen trefnu dyddiad a llunio ffurflen noddi a’i dyblygu. Fe wnaf i eich helpu a’ch cefnogi. Beth am drefnu’r daith ar gyfer wythnos i ddydd Gwener? Os gallwch chi gerdded am awr ar ôl yr ysgol, yna fe fydd gennych chi’r penwythnos i ddadflino.
Peredur: Mae hynny’n swnio’n iawn. Gawn ni weld pwy sydd â diddordeb, os gwelwch yn dda?
Rob: Fydda’ i ddim yn gallu dod. Fydd dad ddim yn gadael i mi ddod, a beth bynnag fe fydda’ i’n llawer rhy brysur.
James: Sut rwyt ti’n gwybod na fydd dy dad yn gadael i ti ddod, dwyt ti ddim wedi gofyn iddo fo eto?
Wena: Fe ddof fi ar y daith, Peredur. Fe af fi rownd a rownd y cae, a chodi lot fawr o arian ar gyfer y babanod bach. Gewch chi weld!
Simon: A fi hefyd. Mae gen i esgidiau rhedeg newydd. Costio pres! Fydd o’n esgus i mi gael eu gwisgo nhw. Dydw i ddim yn gwneud dim ar ôl yr ysgol ar ddydd Gwener. Rho fy enw i lawr.
Miss Heulwen: Da iawn, bawb. Rydych chi’n garedig iawn. Nawr, mae’n rhaid i ni blannu’r ffa. Maen nhw wedi bod yn mwydo yn y dwr dros y penwythnos, felly fe ddylen nhw fod yn barod i’w plannu.
Len: Fe dyfodd fy hadau berwr i yn well ar y wlanen ymolchi.
Tariq: Dyna pam rwyt ti heb ymolchi ers wythnosau?
Peredur: Fe af i yn gyntaf, os hoffech chi. Mae gen i gompost John Innes Number 3. Mae fy nhaid yn arddwr. Mae wedi bod â chynnyrch ei ardd i’w arddangos yn Sioe Llanelwedd. Ond nid ffa, ’chwaith. Fe fydd gen i ddigon ar ôl wedyn, os oes rhywun eisiau peth.
Wena: Rwy’n barod i fetio mai fy ffa i fydd yn tyfu orau. Fe wna’ i wthio’r ffeuen i mewn i’r gro mân sydd gen i, gyda fy mhren mesur, wedyn fe wna’ i ei roi yn ymyl y gwresogydd. Fe ddylai dyfu’n dda yno. (Naill ochr) Ha ha! Sgwn i pam na wnaeth Peredur feddwl am roi ei ffa yno i dyfu?
Rob: Mae golwg ofnadwy ar dy bridd di, Simon. Mae’n llawn o chwyn. Wnaiff dy ffa di ddim tyfu yn hwn.
Simon: Paid â busnesa, Rob. O leiaf rydw i wedi dod â phridd, sy’n fwy nag a wnest ti!
Rob: Ac mi rwyt ti wedi rhoi gormod o lawer o ddwr.
Simon: Wel, does gan dy ffa di ddim pridd na dwr - dim ond picl!
Miss Heulwen: Iawn, mae’n amser chwarae blant, allan â chi! - Dydd Gwener
Nedw: Hei, edrych, mae gwreiddyn bach yn dod ar fy ffa i!
Siân: A f’un innau hefyd.
Cadi: Welwch, mae eginyn yn dod ar fy un i hefyd.
Helen: A dail bach.
Peredur: Mae fy un i’n fawr!
Gwen: Fel dy ben di.
Wena: Fy un i yw’r talaf, hwn yw’r gorau. Fi sydd wedi ennill.
Marian: Ond does gan dy un di ddim gwreiddyn.
Wena: Dim ots gen i am hynny. Fi sydd wedi ennill.
Gari: Wena – nid cystadleuaeth ydi hi.
Wena: Wel, y fi sydd wedi ennill, beth bynnag. Does gan Peredur ddim dail hyd yn oed ar ei un o.
Sophie: Ond mae’r dail ar dy un di yn frown ac wedi crebachu.
Nabil: Mae ffeuen Rob yn bendant wedi’i chael hi!.
Nedw: Beth oedd o’n ei ddisgwyl? Doedd ganddo ddim pridd, a wnaeth o ddim trafferthu rhoi dwr i’r ffeuen ychwaith.
Rob: Nid fy mai i ydi o – rydw i wedi bod yn rhy brysur.
Sarah: Rhy brysur yn ysgrifennu llinellau.
Wena: O na! Mae fy ffa yn dechrau gwywo.
Miss Heulwen: Rwy’n gwybod sut mae’r planhigyn yn teimlo! Efallai ei fod wedi bod mewn lle rhy boeth, mor agos at y gwresogydd. Wyt ti’n meddwl y dylet ti fod wedi ei symud?
Wena: O na, Miss. Rydw i eisiau iddo dyfu mwy eto dros y penwythnos. Efallai y bydd ffa yn tyfu ar y planhigyn erbyn hynny.
Miss Heulwen: Dydw i ddim yn meddwl y bydd hynny’n digwydd ar hyn o bryd, a dweud y gwir. Dewch, mae bron yn amser mynd adref. Gobeithio y cewch chi i gyd benwythnos da. Peidiwch ag anghofio’ch ffurflenni noddi. A chofiwch peidiwch â mynd i ofyn i ddieithriad – dim ond eich ffrindiau ac aelodau eich teuluoedd.
Pawb: Iawn, Miss Heulwen. Penwythnos da i chithau. Welwn ni chi dydd Llun - Dydd Llun
Bryn: O, edrychwch! Mae ffa Wena wedi crebachu’n llwyr!
Laura: Waw! Edrychwch ar un Peredur! Welwch fel mae wedi tyfu?
Sali: O diar! Beth sydd wedi digwydd i blanhigyn Simon?
Arwel: Mae’r holl chwyn wedi’i dagu. Bydd rhaid i ti gael chwynladdwr, neu rywbeth, Simon.
Miss Heulwen: Oes rhywun wedi dod â’i ffurflen noddi i’w dangos i ni? (Mae’r rhan fwyaf o’r plant yn codi eu dwylo.) Da iawn!
Wena: Fe wnes i lenwi fy un i ond mae’r ci wedi ei chnoi hi.
Simon: Fe ddof i â fy un i fory. Mae 30 o bobl wedi fy noddi, ond rydw i eisiau gofyn i un neu ddau o bobl eraill ar ôl i fi fod yn jogio heno.
Rob: Sori. Roeddwn i’n rhy brysur. - Dydd Gwener
Miss Heulwen: Wel, dyma ni! Rydw i’n gobeithio eich bod chi i gyd yn barod i gerdded i godi arian at achos da.
Pawb: Ydyn, Miss, mae pawb yn barod!
Miss Heulwen: Ar y marc - yn barod - ewch! (Y plant yn cerdded oddi amgylch y neuadd, fel pe bydden nhw ar eu taith noddedig.)
Rhiant 1: C’mon, Sali, gwna dy orau!
Rhiant 2: Rheola dy gyflymdra, Bryn!
Rhiant 3: Arafa, Arwel!
Rhiant 4: Brysia, Helen!
(Mae Laura’n llithro, ac mae Peredur yn ei helpu i godi.)
Peredur: Wyt ti’n iawn, Laura? Wyt ti eisiau i mi fynd â ti at y nyrs?
Laura: Na, ond diolch i ti, Peredur. Rhaid fy mod i wedi baglu ar draws coes matsien!
Nedw: Helpu dy gariad, wyt ti, Peredur?
Peredur: Mae hi’n rhan o’r tîm, Nedw. Rydyn ni i gyd yn rhan o dîm.
Miss Heulwen (wrth y nyrs ysgol): Mae natur hyfryd gan Peredur. Fe fyddai’n braf pe byddai pawb yn y dosbarth mor ystyriol â fo. (Mae hi’n curo’i dwylo wrth i’r daith noddedig ddod i ben.) Ac fe fyddai’n braf pe byddai pawb yn y dosbarth wedi cymryd rhan.
Len: Wnaeth Rob ddim dweud unrhyw beth, dim ond cerdded oddi yma ar ôl yr ysgol.
Cadi: Ac fe aeth Wena adref hefyd, heb ddweud dim.
Helen: Roeddwn i’n meddwl ei bod hi wedi dweud ei bod yn mynd i gerdded rownd a rownd a rownd y cae.
Bryn: A beth ddigwyddodd i Simon a’i holl noddwyr - 30 wedi’i noddi ddywedodd o'r diwrnod o’r blaen?
Ioan: Mae o wedi mynd i rywle efo un o’i ffrindiau. Roedd o’n dweud ei fod o wedi bod yn ymarfer ar gyfer y daith noddedig ar hyd yr wythnos, ond bod un o’i ffrindiau wedi gofyn iddo pe byddai’n ei helpu i olchi ceir fe fydden nhw’n ennill rhagor o arian poced. Ac na fydden nhw’n gorfod ei roi at achos da.
Miss Heulwen: Wel, mae’n amlwg fy mod i’n siomedig â rhai, ond rydw i’n falch iawn ohonoch chi i gyd. Gafodd pawb ddiod oren a bisgedi?
Peredur: Do diolch. Fe wnaeth Bryn yn dda ’ndo? Dim ond 20 lap fedrais i eu gwneud, ond fe wnaeth Bryn 25. Rydw i’n meddwl mai fo yw’r un ddylai gael mynd i’r ysbyty i gyflwyno’r siec, pan fyddwn ni wedi casglu’r arian i gyd. Mae gen i swigod ar fy nhraed!
Sali: Fe wnes i gasglu sbwriel welais i ar fy ffordd o gwmpas.
Miss Heulwen: Da iawn yn wir! Da iawn, bawb. Fe wnaethoch chi i gyd eich gorau, a dyna sy’n cyfrif. Ac wrth gwrs, fe gaiff Bryn ein cynrychioli ni trwy fynd i gyflwyno’r siec i’r ysbyty - a tithau hefyd, Peredur, am mai ti gafodd y syniad.
Nabil: Wel, edrychwch mewn difrif! Edrychwch ar ffa Peredur! Mae wedi tyfu’n anferth.
Arwel: Mae fel rhywbeth allan o stori tylwyth teg - Peredur a’r goeden ffa!
Peredur: Fyddai hi’n iawn i mi fynd â’r planhigyn adref a’i blannu yng ngardd taid?
Helen: Allwn ni ddim gweld ffa Simon - dim ond llwyth o chwyn. Hen dro na allen ni fwyta’r chwyn.
Sophie: Mae ffa Wena wedi mynd yn frown a gludiog, tebyg i bapur dal pryfed.
Tariq: Ac mae ffeuen Rob wedi sychu’n grimp. Waeth i ni ei thaflu allan i’r adar, ddim.
Bryn: Dydw i ddim yn meddwl y byddai’r adar eisiau peth fel yna!
Miss Heulwen: Dydw i ddim yn amau nad ydych chi’n iawn. Nawr, adref â ni. A diolch i chi am aros ar ôl heddiw, i gerdded er mwyn yr achos da. Rydych chi’n garedig iawn.
Peredur: A diolch i chi am ein helpu i drefnu’r daith noddedig, Miss Heulwen, ac am roi eich amser chithau hefyd. Gobeithio y cewch chi seibiant dros y penwythnos. Welwn ni chi dydd Llun. - Ystyr dameg y ffa
Rob: Roeddwn i’n debyg i’r had a ddisgynnodd ar y llawr, lle daeth yr adar a’i fwyta. Wnes i ddim gwneud unrhyw ymdrech, naddo?
Wena: Roeddwn i’n llawn bwriadau da, ond wnes i ddim ymdrechu llawer. Roeddwn i fel yr hedyn a grebachodd.
Simon: Fe wnes i ymarfer yn barod ar gyfer y daith noddedig, gyda’r bwriad o fod yno, ond yna roedd y cyfle i wneud rhywfaint o arian poced wrth lanhau ceir yn ormod o demtasiwn i mi. Fi oedd yn hedyn gafodd ei dagu gan yr ysgall a’r chwyn.
Peredur: Ac roeddwn i, mae’n debyg, fel yr hedyn a ddisgynnodd ar bridd da, ac fe wnes i fy ngorau i wneud beth oedd yn iawn.
Amser i feddwl
Gweddi
Annwyl Dduw,
Pan fydda’ i’n gwybod beth yw’r peth iawn i’w wneud,
Helpa fi i beidio â gadael i bethau dynnu fy sylw,
fel y gallaf ddal ati a gwneud yr hyn sy’n iawn.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.