Y Daith Ryfeddol
Ceisio gwerthfawrogi taith ryfeddol yr ymgnawdoliad.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ceisio gwerthfawrogi taith ryfeddol yr ymgnawdoliad.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen lluniau a gwybodaeth am y gwenoliaid a’u taith www.bbc.co.uk/wales/learning/teachers/media/pages/science_lifeprocesses_swallowsjourney.shtml
- Fe fydd arnoch chi angen map o’r byd hefyd.
Gwasanaeth
- Dangoswch lun y gwenoliaid ar y wifren. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod pa adar sydd yn y llun, a holwch pa bryd y gwelodd y plant rai fel hyn ddiwethaf?
Eglurwch fod y gwenoliaid wedi hedfan o’r wlad hon tua mis Medi, heb i neb ohonom sylwi bron. Fu dim ffanffer gerddorol i’w cychwyn ar eu taith, na dim areithiau ffarwelio i ddymuno’n dda iddyn nhw ar eu taith. Ond, o fewn ychydig ddyddiau, bryd hynny, roedd mwy na miliwn o wenoliaid wedi mynd o’n gwlad ni. Wedi gadael diogelwch eu nythod mwd a gwair, o dan ddistiau to adeiladau ffermydd ledled ein gwlad, ac wedi cychwyn ar eu taith o 9,000 km tua hemisffer deheuol ein byd, i aeafu yn Ne Affrica.
Dangoswch ble mae Ynysoedd Prydain ar eich map, ac yna dangoswch ble mae De Affrica.
Efallai eich bod yn cofio gweld y gwenoliaid yn hedfan yn brysur, yn ôl ac ymlaen yn gyflym, gyflym, yn ystod yr haf. Bryd hynny, fe fydden nhw’n dysgu dal pryfed i’w bwyta, ar eu hadain, sef wrth iddyn nhw hedfan. Efallai eich bod yn cofio eu gweld yn eistedd yn un rhes wedyn ar wifren y teleffon, fel maen nhw yn y llun sydd gennych chi. Yma, maen nhw’n ymuno â’i gilydd i baratoi ar gyfer taith hir. Ac yna, ryw fore, fe fyddan nhw wedi mynd i gyd. - I ble’r aethon nhw? Mae’n bosib bod rhai pobl sydd wedi bod yn ddigon ffodus i gael gwyliau tua diwedd mis Hydref yn rhywle yng ngwledydd y Canoldir, Sbaen neu Ogledd Affrica, wedi gweld rhai ohonyn nhw yn y wlad honno. Yn wir, mae’n bosib eu bod wedi gweld haid ohonyn nhw, am fod y gwenoliaid, fel hwythau wedi mynd i chwilio am yr haul.
Dilynwch eu taith ar y map o’r byd, gan egluro bod yr adar yn hedfan mewn llinell syth, ac yn dilyn ar hyd y llinell Meridian gradd sero, fwy neu lai. Bydd eu taith yn mynd ar draws Ffrainc, Sbaen, Algeria, Mali, Burkina Faso, Ghana a Togo. Yna, fe fyddan nhw’n troi tua’r dwyrain ac yn hedfan i Dde Affrica.
Bydd y daith yn cymryd tua 12 wythnos. Dim ond yn ystod y dydd y byddan nhw’n hedfan, ond fe fyddan nhw wedi teithio tua 200 km mewn diwrnod, ar gyflymder o tua 30 kph.
Gofynnwch i’r plant tybed lle gallai’r gwenoliaid yma fod erbyn hyn, ym mis Tachwedd, os oedden nhw wedi cychwyn ym mis Medi? Tybed pa mor bell y maen nhw wedi mynd?
Tua dechrau’r daith, mae digon o fwyd a dwr i’r adar. Fe fyddan nhw’n hedfan yn isel tros lynnoedd ac afonydd gan gasglu’r pryfed ac yfed y dwr. Dangoswch y llun o’r gwenoliaid yn hedfan uwchben wyneb y dwr.
Mae’n daith hir a pheryglus, gan eu bod yn wynebu stormydd mawr, diffyg dwr mewn llefydd yn nes ymlaen ar eu taith, ac yn dioddef blinder mawr hefyd, erbyn diwedd y daith. - Mae eu taith yn un ryfeddol. Holwch y plant pam tybed y mae’r gwenoliaid yn gwneud y daith hon, yno ac yn ôl, bob blwyddyn?
Yna, soniwch wrth y plant ein bod ninnau’n dathlu taith ryfeddol arall, ac un arbennig iawn, gyda dechrau tymor yr Adfent. Ystyr yr enw Adfent yw ‘rhywbeth yn dod yn nes’ neu ‘agosáu’. Mae tymor y Nadolig yn agosáu. Rydyn ni’n gweld hynny eisoes yn y siopau, ar y teledu, ac yn yr hysbysebion a welwn ni yn ein cylchgronau.
Mae’r Adfent yn ymwneud â Duw yn dod yn nes at ei greadigaeth. Roedd yn ymwneud â thaith ryfeddol rhwng nefoedd a daear. Roedd yn ymwneud â Duw yn dod yr holl ffordd i lawr i’n daear ni. Fe wnawn ni wrando eto ar stori Duw yn anfon ei fab, Iesu, o’r nefoedd i’r ddaear, fel baban bach. Fe fyddai Iesu’n tyfu’n fachgen yn ein byd, yng nghanol ei holl beryglon. A thrwy ei fywyd, fe fyddai Iesu’n dangos i ni sut un yw Duw. Fe fyddai’n dod â neges Duw am ei gariad i bob un ohonom, yr holl ffordd o’r nefoedd i’r ddaear. Mae tymor y Nadolig yn ymwneud â’r daith ryfeddol honno.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Dychmygwch y gwenoliaid a oedd yn hedfan yn brysur yng nghefn gwlad yn ystod dyddiau’r haf.
Dychmygwch y gwenoliaid yn awr yn hedfan uwch ben tiroedd anialwch sych a phoeth Affrica, yn ceisio dod o hyd i bryfed i’w bwyta a dwr i’w yfed, lle mae’n bosib, ac wedi blino’n lân.
Dychmygwch y gwenoliaid yn hedfan pellteroedd maith bob dydd dros bob math o diroedd, gan deimlo’r alwad i hedfan tua’r de.
Nawr, dychmygwch Dduw eisiau cwrdd â’i bobl, a’u cyrraedd gyda’r stori am ei gariad. Roedd hynny’n golygu anfon ei fab ar daith bell, gan ddechrau fel baban bach, yn cael ei eni mewn stabl ym Methlehem.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch ein bod yn gweld cymaint o ryfeddodau ym myd natur.
Rydyn ni’n rhyfeddu at y daith y bydd yr adar bach fel y gwenoliaid yn ei gwneud, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Ond mae’r daith a wnest ti i’r ddaear i ddweud wrthym am dy gariad yn fwy rhyfeddol fyth.
Diolch i ti, yn enw Iesu.
Amen.