Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bys Bach Eich Troed

Dangos bod pob rhan o’r corff yn bwysig, ac yn yr un modd mae pob aelod o grwp neu dîm yn bwysig hefyd.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos bod pob rhan o’r corff yn bwysig, ac yn yr un modd mae pob aelod o grwp neu dîm yn bwysig hefyd.

Gwasanaeth

  1. Pa un yw rhan bwysicaf eich corff? Gwahoddwch ymateb y plant i’ch cwestiwn.

    Ai eich ymennydd yw’r rhan bwysicaf? Mae’n dweud wrth eich corff beth yn union i’w wneud. Ai eich calon? Mae’r galon yn pwmpio gwaed oddi amgylch eich corff. Eich ysgyfaint ? Trwy eich ysgyfaint mae’r corff yn cael yr ocsigen y mae’n rhaid iddo’i gael er mwyn i chi allu byw.

    Ond sut byddech chi’n gallu cau carrai eich esgidiau heb eich bysedd?
    Sut byddech chi’n gallu gwrando ar gerddoriaeth heb glustiau?
    Sut byddech chi’n gallu blasu siocled heb eich tafod?
    Sut byddech chi’n gallu cicio pêl heb droed?

    Mae pob rhan o’r corff yn bwysig. Mae gan bob rhan o’r corff ei swyddogaeth.

  2. Mae’n debyg nad yw bys bach eich troed yn edrych yn bwysig iawn. Mae’n fach iawn, ac nid yw fel petai’n gwneud unrhyw swyddogaeth bwysig o gwbl. Wedi’r cyfan mae o’r golwg y tu mewn i’ch hosan y rhan fwyaf o’r amser.

    Pa mor aml rydych hi’n meddwl am fys bach eich troed? Dim ond pan fydd rhywun yn ei sathru? Aw! Fe allai rhai pobl ddweud nad oes raid i ni gael bys bach pob troed, ac fe allen ni wneud yn iawn hebddyn nhw!

    Ond beth fyddai’n digwydd pe byddai’r ddau fys bach yn cael eu torri i ffwrdd? Mae pobl sydd wedi cael damwain ac wedi colli bys bach oddi ar eu troed yn dweud eu bod yn syrthio’n aml oherwydd hynny. Mae’n anodd iawn cerdded heb y bys bach.

    Mae bysedd bach y traed yn ein helpu i gadw cydbwysedd  y corff. Maen nhw’n helpu i rannu ein pwysau’n gyfartal dros y droed gyfan, a’n gwneud yn fwy sefydlog.

    Efallai nad yw’r bysedd bach yn ymddangos yn bwysig, ond mae ganddyn nhw ran bwysig iawn i’w gwneud.

  3. Yn y Beibl, mae’r ysgrifennydd Paul yn darlunio’r Eglwys fel corff Crist (yn 1 Corinthiaid 12.12–26). Roedd y Cristnogion yng Nghorinth wedi bod yn dadlau ynghylch pwy oedd y gorau, pwy oedd â’r rhan bwysicaf i’w gwneud. Mae Paul yn pwysleisio bod gan bob rhan o’r corff waith pwysig, ond gwahanol, i’w wneud, oherwydd ‘Petai’r holl gorff yn llygad, lle byddai’r clyw? Petai’r cwbl yn glyw, lle byddai’r arogli?’ (adn. 17).

  4. Mae pob un ohonom yn perthyn i lawer o wahanol grwpiau. Mae pob un ohonom yn perthyn i deulu. Mae pob un ohonom yn aelod o ddosbarth. Efallai bod rhai yn perthyn i dîm pêl-droed, neu ddosbarth Ysgol Sul, neu grwp cyfrifiadurol.

    Mae pob un o’r grwpiau hyn fel corff. Ac mae gan bob aelod o’r grwp ran unigryw i’w chwarae.

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Dduw Dad,
Diolch i ti am lunio corff pob un ohonom.
Diolch i ti bod pob rhan yn gwneud rhywbeth gwahanol.
Diolch i ti bod pob rhan yn cyfrif.
Weithiau rydyn ni’n teimlo nad ydyn ni’n cyfrif llawer.
Weithiau rydyn ni’n teimlo nad ydyn ni’n gwneud llawer.
Weithiau rydyn ni’n teimlo nad ydyn ni’n llawer o werth.
Helpa ni i wneud ein rhan yn y gwahanol grwpiau rydyn ni’n perthyn iddyn nhw.
Helpa ni i weld fod pob aelod yn cyfrif.
Helpa ni i weithio gyda’n gilydd fel un corff.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon