Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Symbolau Cristnogol, Rhan 1: Y Groes

Dangos ystyr un o symbolau Cristnogaeth – y groes, gan ddefnyddio darlun origami.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos ystyr un o symbolau Cristnogaeth – y groes, gan ddefnyddio darlun origami.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Sgwrsiwch gyda’r plant am yr amrywiaeth o arwyddion sydd i’w gweld o gwmpas yr ysgol. Fe allai’r rhain fod yn bethau fel enwau athrawon ar ddrysau eu hystafelloedd, ‘Dim mynediad’, neu ‘Peidiwch â rhedeg ar hyd y coridorau’, etc. Holwch y plant, pam mae angen y symbolau neu’r arwyddion hyn? 

    Eglurwch fod nifer o symbolau yn gysylltiedig â Christnogaeth. Mae’r symbolau hyn yn bwysig i’r ffydd Gristnogol am wahanol resymau, ac mae’r gwasanaeth hwn yn ymwneud ag un o’r symbolau rhain.

  2. Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i ddangos iddyn nhw ddarn o origami syml a fydd yn eu hatgoffa o un o’r symbolau Cristnogol. Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd i’w cael ar wefan y ‘Fellowship of Christian Magicians’ i wneud y groes. (Defnyddiwch y rhan sy’n llunio’r groes yn unig, ar gyfer y gwasanaeth yma.)

  3. Dangoswch y groes i’r plant. Eglurwch fod Cristnogion yn credu bod y groes yn arwydd o gariad Duw tuag atom. Mae’n ein hatgoffa bod Iesu wedi marw ar y groes i gymryd y bai am y pethau na ddylem ni fod wedi’u gwneud. Mae hynny’n golygu y bydd Duw yn maddau i ni, bob amser, am wneud pethau na ddylem fod wedi’u gwneud - os gofynnwn ni iddo am faddeuant.

  4. Dangoswch i’r plant sut mae un rhan o’r groes yn pwyntio’n fertigol, ac yn pwyntio o’r top i’r gwaelod, h.y. o’r nefoedd i’r ddaear. Eglurwch fod hynny’n atgoffa Cristnogion bod Duw yn ein caru. Fe ddangosodd Duw faint mae’n ein caru trwy anfon Iesu i’r byd. Atgoffwch y plant am stori’r Nadolig, pan fyddwn ni’n cofio Iesu’n dod i’r byd.

  5. Dangoswch i’r plant bod rhan arall y groes yn llorweddol. Mae hyn yn ein hatgoffa bod cariad Duw yn lledaenu ledled y byd, ac mae Duw eisiau i ni ddangos ei gariad i’r bobl hynny sydd o’n cwmpas.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Caewch eich llygaid a meddyliwch am y groes. Cofiwch am y rhan fertigol sy’n ein hatgoffa bod Duw’n gofalu amdanom. Meddyliwch am y rhan lorweddol sy’n ein hatgoffa sut y dylem ni ofalu am bobl eraill sydd yn ein byd. Sut gallwn ni wneud hynny heddiw?

Gweddi  
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am anfon Iesu i’r byd, i ddangos i ni ffordd dda o fyw.
Diolch i ti ei fod wedi marw ar groes i’n dysgu ni am dy gariad di tuag atom ni.
Diolch dy fod yn gofalu am bawb yn y byd.
Helpa ni i wneud yr un fath, ac i ledaenu dy gariad i bobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon