Goleuadau Nadolig
Ystyried Iesu fel goleuni yn y tywyllwch, a meddwl am sut y gallwn ni ddod â goleuni i rai sefyllfaoedd tywyll y Nadolig yma.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried Iesu fel goleuni yn y tywyllwch, a meddwl am sut y gallwn ni ddod â goleuni i rai sefyllfaoedd tywyll y Nadolig yma.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen ‘bag teimlo’ gyda nifer o wrthrychau Nadoligaidd ynddo (e.e. addurn coeden Nadolig, Siôn Corn bach, siocled i’w roi i hongian ar y goeden, seren, cloch fach, darn o dinsel, etc.) a channwyll.
- Llwythwch i lawr y gân: ‘Love Shine a Light’ gan Katrina and the Waves, os byddwch chi am ei defnyddio.
Gwasanaeth
- Holwch y plant: Ar nosweithiau tywyll, fel sydd i’w cael yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n braf gweld llawer o wahanol fathau o oleuadau. Faint o wahanol fathau o oleuadau y mae’r plant yn gallu meddwl amdanyn nhw? Naill ai derbyniwch ymateb rhai o’r plant, neu gofynnwch iddyn nhw drafod hyn mewn parau. Crynhowch rai o’r awgrymiadau: goleuadau’r stryd, goleuadau ceir, golau mewn ffenestri siopau neu dai, addurniadau Nadolig yn y ffenestri, golau tortsh, golau’r tân, canhwyllau wedi’u goleuo, goleuadau traffig, golau matsien, y lleuad, y sêr, a llawer mwy.
- Gwahoddwch rai gwirfoddolwyr i ddod ymlaen i deimlo’r pethau sydd gennych chi yn y bag, i afael mewn un peth, a cheisio dyfalu beth ydyw heb edrych arno. Dywedwch pa mor anodd yw hi i ddyfalu beth yw rhywbeth heb i chi fod yn gallu ei weld.
- Ymhell yn ôl, ganrifoedd lawer cyn i Iesu gael ei eni, yn amser y proffwyd Eseia, roedd y bobl yn cerdded mewn tywyllwch. Doedd hyn ddim yn golygu ei bod hi’n nos arnyn nhw drwy’r amser, ac nad oedden nhw byth yn cael golau dydd. Ffordd oedd hon o ddisgrifio’r ffaith bod y bobl yn byw mewn anobaith, a heb neb i’w harwain. Doedd y bobl ddim yn gwybod yn iawn beth oedd yn mynd i ddigwydd iddyn nhw. Doedden nhw ddim yn malio am Dduw, ac roedden nhw’n gwneud llawer o bethau na ddylen nhw. Doedden nhw ddim yn gallu gweld diwedd ar eu problemau.
Dywedodd Eseia wrth y bobl y byddai amser yn dod pan fyddai pethau’n wahanol:
Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr;
y rhai a fu’n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau. (Eseia 9.2)
Cafodd Iesu ei eni i fod yn oleuni yn y tywyllwch. Wedi iddo dyfu, fe alwodd ei hun yn ‘oleuni’r byd’. Yna llefarodd Iesu wrthynt eto, ‘Myfi yw goleuni’r byd,’ meddai. ‘Ni bydd neb sy’n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni’r bywyd. (Ioan 8.12). - Gall rhai pobl mewn rhai sefyllfaoedd yn ein byd ni heddiw deimlo fel pe bydden nhw’n byw mewn tywyllwch – yn cweryla’n gyson, yn pryderu, yn sâl neu’n unig, yn cael eu bwlio neu’n byw mewn ofn ….
Mae ar bobl eisiau goleuni yn eu bywydau heddiw, hefyd – goleuni gobaith, anogaeth a chyfarwyddyd. Fe allwn ni ddod â goleuni i fywydau pobl eraill - weithiau mae gwên yn unig yn ddigon. Neu, efallai trwy wneud cymwynas neu ddangos arwydd o gyfeillgarwch tuag at rywun, neu trwy ddweud gair o anogaeth.
Efallai y byddwn ni, wrth weld goleuadau disglair y Nadolig eleni, yn cael ein hatgoffa y gallwn ninnau fod yn oleuni i rywun.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Goleuwch gannwyll mewn man canolog a chwaraewch gân am oleuni. Fe allech chi ddewis y gân Saesneg, ‘Love Shine a Light’ gan Katrina and the Waves, neu unrhyw gân Gymraeg o’ch dewis chi, sy’n sôn am oleuni.
Gwahoddwch y plant i feddwl am Iesu fel goleuni’r byd.
Rhowch her i’r plant i feddwl am sut y bydden nhw’n gallu dod â goleuni i fywydau pobl eraill y Nadolig hwn.
Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2008 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.