Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Torri Cyfeillgarwch

Annog y plant i feddwl pa mor bwysig yw cyfeillgarwch, a sut y gall perthynas ddrwg â rhywun effeithio ar lawer o bobl eraill.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl pa mor bwysig yw cyfeillgarwch, a sut y gall perthynas ddrwg â rhywun effeithio ar lawer o bobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cyn y gwasanaeth, rhowch stribed cul o bapur i bob plentyn mewn un dosbarth, a gofynnwch i bob un ysgrifennu ei enw ar y papur. Gwnewch ddolen ag un stribed a gludio’r ddau ben ynghyd. Gwthiwch stribed arall trwy’r ddolen a gludio’r pennau gyda’i gilydd eto, fel o’r blaen. Daliwch i wneud hyn nes bydd y stribedi i gyd yn ffurfio cadwyn bapur.
  • Dewisol: Dewiswch ffotograff o ffrind, neu aelod o’ch teulu, sydd wedi bod yn bwysig i chi yn eich bywyd.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid am foment a meddwl am un o’u ffrindiau. Fe all y ffrind hwnnw fod yn rhywun o’r ysgol, neu’n rhywun sy’n byw yn ymyl eu cartref, neu hyd yn oed yn aelod o’u teulu.

    Holwch y plant beth sy’n gwneud yr unigolyn hwnnw’n ffrind da. Dangoswch y llun o’ch ffrind chi i’r plant a/ neu dywedwch wrthyn nhw pam y mae’r ffrind hwnnw wedi bod mor bwysig i chi.

  2. Dangoswch y gadwyn bapur i’r plant, ac eglurwch fod y gadwyn wedi’i llunio gan blant o un dosbarth neilltuol. Eglurwch efallai nad yw pob un yn y dosbarth yn gallu bod yn ‘ffrindiau gorau’ i bob un arall, ond maen nhw i gyd wedi’u huno mewn un ffordd arbennig oherwydd eu bod yn aelodau o’r un dosbarth. Fe fyddan nhw’n mynd trwy’r ysgol gyda’i gilydd, gan dreulio llawer  o amser wythnos ar ôl wythnos yng nghwmni ei gilydd.

  3. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw wedi cweryla ryw dro gyda’u ffrindiau. Holwch sut roedden nhw’n teimlo bryd hynny? 

    Gofynnwch i un plentyn ddod i afael yn un pen y gadwyn tra rydych chi’n gafael yn y pen arall. Dywedwch wrth y plant fod yr holl bobl sydd yn y gadwyn wedi eu huno. Ond pan fydd dau yn cweryla, neu’n torri eu cyfeillgarwch, mae’n effeithio ar y rhai eraill sydd o’u cwmpas. Tynnwch y gadwyn nes bydd  un o’r dolenni’n agor a’r gadwyn yn torri. Eglurwch mai dim ond y cysylltiad rhwng dau blentyn sydd wedi torri, ond mae’r gadwyn gyfan wedi cwympo oherwydd hynny.

  4. Soniwch wrth y plant, pan fydd gennym ni broblemau yn ein cyfeillgarwch, bod angen i ni eu datrys ar unwaith fel na fydd effaith ein cwerylon ni yn amharu ar yr holl bobl eraill sydd o’n cwmpas.

  5. Mae’r Beibl yn dangos bod Iesu’n credu bod cyfeillgarwch yn beth pwysig iawn. Un o’r pethau cyntaf a ddarllenwn yn y Beibl am Iesu yw ei hanes yn casglu grwp o ffrindiau ato (y disgyblion). Fe fyddai’r ffrindiau hyn gydag ef trwy’r adegau da a’r adegau drwg. Ac er eu bod yn anghydweld â’i gilydd ambell dro, fe arhosodd y rhain gydag Iesu trwy ei fywyd.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gofynnwch i’r plant fod yn dawel am foment i feddwl am eu ffrindiau, am  blant eraill sydd yn yr un dosbarth â nhw, neu am aelodau o’u teuluoedd. Oes rhywun ymysg y rhain y dylen nhw ddweud ‘sori’ wrthyn nhw? Ydi hi’n bosib iddyn nhw benderfynu gwneud hynny, a datrys unrhyw broblem sy’n bod rhyngddyn nhw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi rhoi ffrindiau i ni.
Helpa ni, os gweli di’n dda, i fod yn ffrindiau da.
Helpa ni, os gweli di’n dda, i ddatrys unrhyw gwerylon ar fyrder,
ac i chwilio am yr hyn sy’n dda mewn pobl eraill, bob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon