Symbolau Cristnogol Rhan 2
Dangos i’r plant beth yw ystyr un o’r symbolau Cristnogol – y pysgodyn.
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dangos i’r plant beth yw ystyr un o’r symbolau Cristnogol – y pysgodyn.
Paratoad a Deunyddiau
- Llun y symbol o’r pysgodyn. Edrychwch ar www.religionfacts.com/christianity/symbols.htm a sgroliwch i lawr i chwilio am y symbolau.
Gwasanaeth
- Atgoffwch y plant eich bod yn dilyn cyfres o wasanaethau sy’n trafod symbolau Cristnogol. Y gwasanaeth cyntaf yn y gyfres oedd yr un lle roeddech chi’n trafod y groes. Holwch y plant i weld a ydyn nhw’n cofio pam mae Cristnogion yn defnyddio’r groes fel arwydd.
- Gofynnwch i’r plant ddychmygu eu bod eisiau dweud rhywbeth wrth ffrind, ond nad ydyn nhw eisiau i neb arall wybod. Holwch nhw beth fydden nhw’n debyg o’i wneud. Mae’n debyg y byddech chi’n cael atebion fel sibrwd, siarad yn ddistaw, meimio, neu ysgrifennu neges ar ddarn o bapur.
Dywedwch wrth y plant eich bod chi heddiw yn mynd i sôn wrthyn nhw am arwydd cyfrinachol y byddai Cristnogion cynnar yn y gorffennol pell yn ei ddefnyddio er mwyn rhoi gwybod i’w gilydd eu bod yn ddilynwyr i Iesu. - Gofynnwch am wirfoddolwr i’ch helpu, sy’n hyderus y bydd yn gallu meddwl am ryw ffordd neu arwydd fel y bydd yn gallu pasio neges oddi wrthych chi i weddill y plant yn gyfrinachol. Bydd angen i chi sibrwd y neges yng nghlust y gwirfoddolwr, a gweld a fydd hi’n bosib iddo ef neu hi drosglwyddo’r neges i’r plant eraill heb siarad â nhw.
(1) Gofyn i’r plant sefyll.
(2) Gofyn i’r plant dynnu wynebau doniol, ac yna roi eu dwylo ar eu pen.
(3) Gofyn i’r plant droi at yr un sydd agosaf atyn nhw ar un ochr a gwenu, ac yna droi at yr un sydd yr ochr arall a gwenu. - Eglurwch i’r plant bod y pysgodyn yn arwydd cynnar o’r ffydd Gristnogol, a’i fod yn parhau i gael ei ddefnyddio hyd heddiw. Dangoswch lun y pysgodyn iddyn nhw. Weithiau, fe welwch chi’r arwydd wedi’i ludio ar gefn ambell gar, ac mae hynny’n dangos bod perchennog y car hwnnw’n Gristion.
Pan ddechreuodd yr Eglwys Gristnogol roedd llawer o’r bobl a oedd mewn awdurdod yn y wlad yn anfodlon iawn fod pobl yn dechrau dilyn Iesu. Oherwydd hynny roedd yn rhaid i Gristnogion gadw’u cred yn gyfrinach er mwyn osgoi cael eu taflu i garchar neu gael ei niweidio mewn rhyw ffordd.
Meddyliodd rhywun am y syniad o ddefnyddio ffurf y pysgodyn fel arwydd cyfrinachol. Pe bydden nhw’n cwrdd â rhywun newydd, fe fydden nhw’n gwneud siâp crwm yn y tywod neu’r llwch ar y ffordd. Os byddai’r dieithryn yn cwblhau’r ffurf trwy wneud llinell grom arall i gwblhau’r siâp pysgodyn, yna fe fyddai’r naill a’r llall yn gwybod eu bod wedi cwrdd â Christion arall. Ond os nad oedd y llall yn tynnu llun yr ail linell grom yn y tywod, mae’n debyg na fyddai’n un o ddilynwyr Iesu. - Holwch y plant pam tybed fod y Cristnogion cynnar yn defnyddio llun pysgodyn fel arwydd.
Credir bod siâp y pysgodyn wedi’i ddewis gan y Cristnogion am nifer o resymau. Mae’n hawdd tynnu llinell grom, ac ni fyddai’r un nad oedd yn Gristion yn amau dim wrth i rywun wneud hynny - fe fydden nhw’n meddwl fod y Cristion yn syml yn llunio patrwm yn ddifeddwl yn y tywod gyda’i ffon, wrth siarad. Y gair Groeg am bysgodyn yw ICHTHUS. Ac yn yr iaith Roeg, mae’r gair hwnnw’n acrostig am ‘Iesu Grist, Mab Duw, Gwaredwr’.
Dewisodd Iesu nifer o bysgotwyr i fod yn ddisgyblion iddo’i hun, ac fe dreuliodd lawer o amser ar lan Llyn Galilea neu mewn cwch ar y dwr. Hefyd, fe alwodd ei ddisgyblion yn ‘Bysgotwyr Dynion.’
Amser i feddwl
Myfyrdod
Rydym yn ffodus iawn ein bod ni, yn y wlad hon, yn gallu dewis dilyn Iesu. Mewn nifer o wledydd yn y byd does gan y bobl ddim rhyddid i benderfynu pa grefydd y gallan nhw’i dilyn. Gadewch i ni oedi am foment a gwerthfawrogi pa mor lwcus yr ydym ni yn cael byw mewn gwlad lle mae rhyddid i ni ddewis pa grefydd yr ydym am ei dilyn. Gadewch i ni hefyd, ar yr un pryd, gofio am y rhai hynny sydd ddim mor ffodus â ni i gael y rhyddid hwnnw.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydym yn falch ein bod ni, yn y wlad hon, yn gallu bod yn rhydd i ddewis cymaint o wahanol bethau.
Helpa’r rhai hynny sydd mewn gwahanol wledydd ledled y byd sy’n gorfod cadw’u cred yn gyfrinach oddi wrth bobl eraill.
Diolch dy fod ti’n gallu ein gweld ni ar yr ochr y tu mewn i ni, a diolch dy fod ti’n gwybod beth yw’r teimladau sydd gennym yn ein calon.
Amen.