Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byddwch Yn Fodlon

Helpu’r plant i ddeall pam y dylem ni fod yn fodlon â’r hyn sydd gennym ni.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall pam y dylem ni fod yn fodlon â’r hyn sydd gennym ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Does dim angen paratoi, ond fe fyddai OHP yn ddefnyddiol i rannu’r pennill.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant eich bod am ddweud stori wrthyn nhw, ac fe hoffech chi gael gwybod ganddyn nhw wedyn beth yw eu barn am y stori.

    Roedd unwaith dorrwr coed o’r enw Ifan. Roedd yn ddyn da a charedig, ond am ryw reswm doedd Ifan ddim yn cael llawer o lwc dda. Un diwrnod, pan oedd yn torri coed ar ochr bryn, fe ddaeth o hyd i ogof. Penderfynodd fynd i mewn iddi.

    Er mawr syndod iddo, beth a welodd yno ond casgen ar ôl casgen yn llawn o aur. Edrychodd o’i gwmpas, ond doedd neb i’w weld. Llanwodd ei bocedi â chymaint o aur ag y gallai ei gario. Ond, fel roedd yn mynd oddi yno, fe ddaeth hen wr blin a sarrug ato.

    ‘Fi piau’r aur yna,’ meddai. ‘Rho fo yn ei ôl.’

    Teimlodd Ifan yn euog iawn. Tynnodd y darnau aur i gyd allan o’i bocedi a’u rhoi yn ôl iddo.

    Gwenodd yr hen wr. ‘Rydw i’n gwybod mai dyn tlawd wyt ti,’ meddai. ‘Felly, fe gei di gadw dau ddarn aur.’

    Roedd Ifan yn ddiolchgar iawn. Diolchodd i’r hen wr a brysio adref. Gwariodd yr arian yn ddoeth, a bu’n llwyddiannus gan roi safon dda o fywyd i’w deulu. Aeth rhai blynyddoedd heibio, ac er bod gan Ifan gartref cyfforddus erbyn hyn, a digon i’w fwyta, roedd yn anfodlon. Ni allai beidio â meddwl am yr ogof a’r holl aur a welodd. Credai’n sicr bod yr aur yn dal i fod yno, ac roedd yn ysu am gael mwy ohono.

    Roedd yn cofio’n union ble roedd yr ogof. Daeth o hyd iddi, ac aeth i mewn iddi unwaith eto. Yn wir, fe welodd y casgenni, fel o’r blaen ac roedd pob un yn llawn o aur. Ac fel o’r blaen, fe wthiodd gymaint o aur ag a allai i’w bocedi. Ond, fel o’r blaen, fe ddaeth yr hen wr blin a sarrug ato.

    ‘Rho’r aur yn ei ôl, ac fe gei di gadw dau ddarn eto i ti dy hun,’ meddai.

    ‘Na,’ meddai Ifan. ‘Rydw i am gadw’r cyfan sydd gen i yn fy mhocedi.’ Ac fe ruthrodd oddi yno, heibio’r hen wr gan ei adael yn chwifio’i freichiau ac yn dwrdio’n ofnadwy.

    Pan gyrhaeddodd Ifan adref, rhoddodd ei law yn ei boced i estyn yr aur, ond nid darnau o aur oedd yno! Yn lle hynny, roedd ei bocedi’n llawn o nadroedd corynod a thrychfilod. Roedd Ifan yn ddig iawn am hyn ac aeth yn ei ôl i’r ogof ar ei union. Er chwilio a chwilio nid oedd golwg o aur yno yn unman.

    Yna, fe ddaeth yr hen wr i’r golwg o rywle. ‘Dy farusrwydd di oedd dy gwymp di,’ meddai. ‘Fe ddylet ti fod wedi cymryd dim ond hynny yr oeddet ti ei angen. Mae dy obaith di o gael rhagor o gyfoeth wedi mynd.’

    Sylweddolodd Ifan wedyn pa mor ffôl yr oedd wedi bod, a theimlodd gywilydd mawr.

  2. Treuliwch ychydig o amser yn trafod y stori gyda’ch cynulleidfa. Holwch gwestiynau fel: Ydych chi’n meddwl bod Ifan wedi gwneud y peth iawn trwy lenwi ei bocedi â’r aur? Pam rydych chi’n meddwl bod yr hen wr wedi caniatáu i Ifan gadw dau ddarn o’r aur? Sut rydym ni’n gwybod bod Ifan wedi gwario’r hyn gafodd o’n ddoeth? Pam yr aeth Ifan yn ei ôl i’r ogof? Beth wnaeth Ifan yn wahanol yr ail dro? Beth oedd yn ei bocedi pan aeth adref yr ail dro? Pa wers a ddysgodd gan yr hen wr?

  3. Darllenwch y pennill gyda’ch gilydd.

    Weithiau, fe fyddwn ni’n methu’n glir â bod yn fodlon,
    Fe fyddwn ni eisiau mwy a mwy cyn y byddwn ni’n hapus.
    Ond, os byddwn ni, mewn gwirionedd, wedi cael hynny sy’n ddigon,
    Yna, mae’n golygu ein bod ni felly yn ddim byd mwy na barus.

    Rydym yn aml yn cysylltu bod yn farus â bwyd, fel pan fydd rhywun yn bwyta gormod. Ond mae ffyrdd eraill o fod yn farus. Allwch chi feddwl am rai enghreifftiau o hyn?

  4. (Dewisol) Darllenwch Luc 12.15 (o’r ddameg am yr ynfytyn cyfoethog). Dywedodd Iesu: ‘Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau.’

Amser i feddwl

Gweddi

Diolchwn i ti am bopeth sydd gennym ni.
Diolchwn i ti am ein teuluoedd, am ein ffrindiau, ac am y bobl rydyn ni’n eu caru.
Diolchwn i ti am ein cartrefi, ac am y bwyd rydyn ni’n ei fwyta.
Diolchwn i ti am y byd rhyfeddol hwn.
Helpa ni i ofalu ein byd, er mwyn y bobl sydd yn dod ar ein holau ni.
Helpa ni i sylweddoli mai gwir hapusrwydd yw bod eisiau’r hyn sydd gennym,
nid bod eisiau’r hyn sydd ddim ar gael i ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon