Sefyll Yn Gadarn
Ystyried pa mor bwysig yw bod yn driw i ni ein hunain, a gwneud yr hyn rydyn ni’n gwybod sy’n iawn, hyd yn oed pan fydd pwysau mawr arnom i wneud fel arall.
gan Jenny Tuxford
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Ystyried pa mor bwysig yw bod yn driw i ni ein hunain, a gwneud yr hyn rydyn ni’n gwybod sy’n iawn, hyd yn oed pan fydd pwysau mawr arnom i wneud fel arall.
Paratoad a Deunyddiau
- Darllenwch stori Daniel yn ffau’r llewod, sydd i’w chael yn Llyfr Daniel yn y Beibl, pennod 6, neu ym Meibl y Plant. Trafodwch y stori gyda’ch dosbarth.
- Sgwrsiwch gyda’r plant am adegau y mae rhywun wedi ceisio’u perswadio i wneud rhywbeth yr oedden nhw’n gwybod oedd ddim yn iawn.
- Fe allech chi rannu’r gerdd a rhoi rhannau ohoni i wahanol blant neu wahanol grwpiau ei darllen.
- Os nad yw amser yn caniatáu i ddefnyddio holl gydrannau’r gwasanaeth, fe allech chi adael allan y paratoadau, neu eu defnyddio fel gwasanaeth arall.
Gwasanaeth
Daniel
- Roedd Daniel yn ddyn clyfar iawn,
Gallai ddelio â phroblemau dyrys.
Os byddai anawsterau gan ryw rai,
Fe fyddai Daniel yn eu datrys. - Fe welodd y brenin Belsassar
Ysgrifen ar y mur.
Mewn penbleth, anfonodd am Daniel
I ddehongli’r neges, yn glir. - ‘Fe wn i beth yw ystyr y geiriau,
Os ydych chi eisiau gwybod y gwir.
Rydych, mae’n amlwg, wedi gwneud rhywbeth o’i le,
Ac ofnaf na fyddwch yn byw’n hir.’ - ‘O! Mi welaf!’ meddai yntau wrth Daniel,
A’r noson honno, yn wir, fe laddwyd y brenin.
Roedd yr hyn a wnaeth Daniel broffwydo
Wedi dod yn wir yn bur sydyn. - Y Brenin Darius fyddai’r brenin nesaf,
Roedd yn edmygu Daniel yn fawr.
‘Fe hoffwn i ti fod yn ffrind i mi,’ meddai,
A’m helpu gyda’m dyletswyddau, nawr.’ - Fe wnaeth Darius Daniel yn swyddog pwysig,
Ac fe wnâi yntau ei orau bob amser,
I wasanaethu’r brenin yn ddidwyll iawn,
Ond roedd rhai’n genfigennus o Daniel. - Roedden nhw’n eiddigeddus iawn,
Gan mor gydwybodol y gweithiai.
‘Beth am gynllwynio i geisio’i ddal,’ medden nhw,
A’i ladd hyd yn oed, os gallwn, efallai.’ - Fe aeth y llanciau a pherswadio’r brenin
I basio deddf frenhinol:
Pe cai rhywun ei ddal y gweddïo ar Dduw,
Cai ei daflu yn syth i ffau’r llewod. - Daliodd Daniel ati i weddïo fel arfer
Ar Dduw, dair gwaith y dydd.
Ond fe welwyd hyn gan y llanciau drwg,
Ac aethant i achwyn am Daniel a’i ffydd. - Rhedasant i ddweud wrth y brenin
Gan ddweud eu bod wedi gweld Daniel wrthi.
Roedden nhw wedi ei glywed yn gweddïo ar Dduw,
Roedd rhaid i’r brenin gadw at ei air, a’i gosbi. - Roedd yn wir ddrwg iawn gan y Brenin Darius,
Ond doedd dim allai ef ei wneud.
Rhaid oedd taflu Daniel i ffau y llewod -
Dyna oedd y ddeddf yn ei ddweud. - I mewn i’r ogof fe arweiniwyd Daniel.
Doedd y brenin ddim yn gwybod beth i’w gredu.
Gobeithiai y byddai Duw Daniel yn ei arbed.
Allai Darius ddim bwyta na chysgu. - A thrannoeth aeth y brenin i’r ffau i weld,
Rhedodd yno, y peth cyntaf ar ddechrau’r dydd.
Roedd Daniel yno - yn dal yn fyw!
Felly cafodd ei ollwng, ar unwaith, yn rhydd. - Bu’n rhaid i’r llanciau drwg gyfaddef eu bai,
Daniel oedd yn iawn, dim dwywaith amdani.
Nhw oedd yn ddrwg, a Daniel yn dda,
A nhw yn y diwedd gafodd eu cosbi!
Amser i feddwl
Bod yn ddigon dewr i lynu at yr hyn rydych chi’n ei gredu
Pan fydd arnaf angen dewis
Rhwng yr hyn sy’n iawn a rhywbeth na fydd,
Fe ddilynaf fy nghalon
A dysgu bod yn gryf.
Pan fydd ffrindiau sydd heb fod yn driw
Yn ceisio fy nenu ar chwâl,
Fydda i ddim ofn dal fy nhir,
Wynebaf y gwir, a dweud, ‘Na!’
Beth sy’n anghywir a beth sy’n iawn?
Pan fydd dewis, mae’n rhaid ei wynebu,
Rhaid i mi beidio cadw’n dawel am y peth,
Rhaid i mi ddweud fy marn, yn union fel rwy’n credu.
Ym mhob sefyllfa,
Lle bydd fy marn ei heisiau,
Bydd gen i ffydd yn fy Nuw,
Ac fe fydd gan Dduw ffydd ynof finnau.
Os gwelaf fod rhywbeth o’i le,
A phethau ymhell o fod yn dda,
Heb betruso o gwbl,
Fe ddywedaf i, ‘Na!’
Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa fi i weld,
Pan fyddaf yn dewis fy ffrindiau,
Mae’r gwir ffrindiau eisiau’r gorau
Iddyn nhw ac i minnau.
Amen.